Ychydig o hanes...
Mae’r Cyfeillion wedi bod yn rhan annatod o Aberdulais er 1987, ac maen nhw wedi bod wrthi’n codi arian byth ers hynny. Hyd yn hyn, maen nhw wedi codi dros £200,000 tuag at amrywiol brosiectau ar y safle.
Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau i gyfleusterau ymwelwyr, celfi newydd ar gyfer ystafell waith y gwirfoddolwyr a’r ystafell de, a sied ddiogel ar gyfer offer.
Roedd darparu mynediad i bob rhan o’r safle ar gyfer ymwelwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys gosod lifftiau a darparu cadeiriau olwyn, yn un o’r prosiectau mwyaf arwyddocaol a buddiol.
Defnyddiwyd cronfeydd i atgyweirio ac adnewyddu cyfleusterau, gwella dehongli ac yn fwy diweddar fe’u defnyddiwyd ar gyfer un o’n prosiectau cadwraeth – y Sied Dunio.