Hanes tunplat Aberdulais

Gwaith tunplat nodweddiadol

Yn 1831, sefydlwyd Cwmni Tunplat Aberdulais gan y dyn busnes lleol William Llewellyn.

Roedd yn un o’r gweithfeydd tunplat cyntaf lle cafodd ingotau haearn eu rholio yn blatiau haearn a lle gyrrwyd y rholeri gan bŵer, yn yr achos hwn gan olwyn ddŵr. Cyn hynny, byddai ingotau haearn eirias wedi cael eu curo a â llaw a morthwylion nes i haen o blât gael ei ffurfio.

Gwaith y “dyblwr” – dyblu’r platiau tun
Gweithiwr wrthi’n dyblu’r platiau tun

O fewn 20 mlynedd roedd Cwmni Tunplat Aberdulais wedi ehangu’n sylweddol, drwy adeiladu’r Gweithfeydd Isaf, rhyw 400 llath i’r de. Adwaenid y safle gwreiddiol fel y Gweithfeydd Uchaf. Roedd tramffordd yn cysylltu’r ddau safle a byddai dramiau a dynnwyd gan geffyl yn cludo defnyddiau rhyngddyn nhw.

Roedd rhan arall o’r dramffordd yn arfer rhedeg dros bont y dramffordd i lanfa ar Gamlas Tennant lle cai’r dalennau gorffenedig o dunplat eu cludo i’r dociau yn Abertawe i’w hallforio.

Bwrlwm o weithgarwch

Yn ystod blynyddoedd y tunplat, roedd Aberdulais yn bentref prysur. Mae adroddiad gan y Comisiwn Plant yn 1842 yn nodi bod 138 o bobl yn gweithio ar y ddau safle bryd hynny, a bod 34 ohonyn nhw’n blant rhwng wyth ac 13 oed.

Safai pentref Aberdulais yng nghanol rhwydwaith o lwybrau. Roedd llwybrau troed a phontydd yn mynd â gweithwyr i’r melinau tun; roedd afonydd a chamlesi, tramffyrdd a rheilffyrdd yn dod â haearn, tun, pren a glo i ffwrneisi a pheiriau’r cwm.

Argraffiad arlunydd o Aberdulais
Argraffiad arlunydd o Aberdulais

Plastig ei gyfnod

Llwyddodd tunplat drawsnewid bywydau a’r diwydiant pecynnu. Yn 1891 roedd gan Brydain 225 o felinau tun, ac roedd 205 o’r rhain yn Ne Cymru. A heddiw mae tunplat yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd – meddyliwch faint o fwydydd sydd mewn tuniau yn ein harchfarchnadoedd, er enghraifft.

Enghraifft o gynnyrch tunplat
Enghraifft o gynnyrch tunplat