Melinau Aberdulais

Paentiad o Felin Aberdulais o’r 18fed ganrif

Yn yr ail bennod o’n stori, ac er gwaethaf methiant gwaith cynharach i fwyndoddi copr, nid yw pŵer dŵr a’i botensial masnachol wedi mynd yn angof.

Felly, o fewn dim amser, dechreuodd diwydiannau newydd gymryd mantais ac erbyn 1635 mae cofnodion yn dangos bod pandy wedi cael ei sefydlu yma, gyda gwragedd lleol (yn bennaf) yn cael eu cyflogi i lanhau a thewhau brethyn a wnaed o wlân wedi’i gyflenwi gan ffermwyr cyfagos.

Byddai’r brethyn yn cael ei roi mewn cafnau o ddŵr yn cynnwys pridd pannwr (sy’n egluro’r enw); sylwedd hydrin tebyg i glai yw hwn a byddai’n amsugno’r olewau naturiol yn y defnydd. Yna byddai’r brethyn yn cael ei guro drosodd a thro gan forthwylion a oedd yn cael eu pweru gan ddŵr (dyma gyfraniad y rhaeadr a’r olwynion at y broses).

Erbyn 1667, roedd lliwdy ar y safle hefyd. Roedd lliwio brethyn hefyd yn broses a alwai am lawer o ddŵr rhedegog.

Maen melin Aberdulais
Maen melin Aberdulais

Newid defnydd

Yn y 18fed ganrif, cafodd brethyn ei ddisodli gan ŷd. Cafodd melin flawd neu felin ŷd ei hychwanegu at y safle tua 1715, ac erbyn 1764 roedd tair melin yn gweithio, pob un â’i holwyn ddŵr ei hunan. Ac mae adroddiad ym mhapur newydd The Cambrian, yn 1807, yn cadarnhau bod y mentrau hyn wedi goroesi tan y 19eg ganrif.

Yn anffodus, does dim arteffactau o’r diwydiannau cynnar hyn wedi cael eu darganfod, heblaw am bâr o feini melin. Wrth i’r naill ddiwydiant olynu’r llall, roedd yr entrepreneuriaid newydd yn adeiladu ar ben yr hen rai. Nid oedd cadwraeth yn flaenoriaeth yn y dyddiau hynny.