Natur a Bywyd Gwyllt

Natur a bywyd gwyllt yn Aberdulais

Dewch i weld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt yn Aberdulais.

Mae’r afon ac amgylchedd naturiol yn Aberdulais yn golygu bod cartref yma i ddigonedd o fywyd gwyllt – yn cynnwys pob math o adar, gwenyn, pryfed, blodau a ffyngau.

Dewch â’ch binocwlars

Mae’r afon yn gartref delfrydol i’r siglen lwyd ac i fronwen y dŵr. Yn aml fe welwch nhw’n  “dowcio” yn yr afon i chwilio am fwyd. Mae bronwen y dŵr yn tueddu i nythu’n agos at y gored, ac ry’n ni hefyd wedi sylwi ar wennol y glennydd yn nythu wrth yr afon dros y blynyddoedd diwethaf.

Siglen lwyd
Siglen lwyd yn Aberdulais

Ac mae gennym ffrindiau hedegog hefyd...mae ystlumod y dŵr yn clwydo yng nghraciau’r Bastiwn, ac maen nhw’n dod allan gyda’r nos i hela’u bwyd uwchben yr afon.

Mae un o’n anifeiliaid gwyllt llai poblogaidd, sef y minc, hefyd wedi cael ei weld ambell waith yn yr afon.

Troad y tymhorau

Ym mis Chwefror a mis Mawrth, mae eirlysiau’n tyfu ar y lawnt o gylch y ffawydden noeth. Ac ymhen dim amser fe fyddwn ni’n dechrau gweld blodau eraill fel clychau’r gog, briallu a chennin Pedr yn dechrau gwthio lan drwy’r pridd. Mae lle i bob math o blanhigion yn Aberdulais, yn cynnwys y danadl poethion sydd hefyd yn dechrau dangos eu trwynau yn ystod y misoedd cynnar hyn.

Natur a diwydiant ochr yn ochr
Clychau’r gog yn tyfu yn Aberdulais

Ebrill yw’r mis pan fydd grym y gwanwyn yn gyrru drwy’r tir. Mae’r cennin Pedr yn ildio’u lle i glychau’r gog, sy’n tyfu’n wyllt ar rhannau uchaf y safle, ac mae blodau dant y llew a llygad y dydd i’w gweld ym mhobman

Edrychwch yn ofalus ac mae’n bosib y gwelwch flodau bach porffor trwyn-y-llo dail eiddew yn nhyllau a chraciau’r hen furiau.

Hwyaid yn Aberdulais
Hwyaid yn Aberdulais

Mae’r adar yn cadw’n brysur hefyd.  Mae bronwennod y dŵr a’r siglennod  wrthi’n paru, ac mae sŵn eu canu’n ddigon uchel i’w glywed uwchlaw llif y rhaeadr.  Cadwch lygad ar agor am ein teulu o hwyaid danheddog – ac mae’r crëyr glas i’w weld weithiau hefyd.

Mehefin yw’r mis pan fydd y gwanwyn yn dod i ben a’r haf yn dechrau. Wrth i glychau’r gog wywo, mae meillion a bysedd y cŵn yn cymryd eu lle ochr yn ochr â blodau gwyllt fel y goesgoch a llin y llyffant.

Mae’r adar wrthi’n bwydo eu cywion ac mae’n bosib y gwelwch ystlumod yn hedfan o gwmpas y rhaeadr a’r adeiladau, ac yn dal pryfed bach a gwyfynod.

Mae blodau gwyllt ar eu gorau ym mis Gorffennaf – cadwch lygad ar agor am heboglys, meillion, pys-y-ceirw, rhwyddlwyni, y goesgoch ac erwain. Mae pryfed hefyd ar eu prysuraf a phili palod, neu ieir bach yr haf, ar eu gorau. Ac fe welwch hefyd bryfed hardd fel gweision y neidr a’r mursennod glas (allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng gwas y neidr a mursen? Edrychwch ar yr adenydd). Yn anffodus, dyma’r adeg pan fydd gwybed, clêr a chacwn yn dechrau bod yn boendod!

Ym mis Medi bydd arwyddion cynnar yr hydref  i’w gweld ar  y coed, er bod llawer o’r planhigion haf yn parhau i flodeuo. Bydd y rhan fwyaf o’r coed yn dal i fod yn wyrdd, ond bydd rhai o’r dail yn troi lliw a bydd y ffrwythau a’r cnau yn dechrau disgyn i’r ddaear. Newyddion da i’r adar a’r mamaliaid bychain a fydd yn ddechrau creu stôr o fwyd ar gyfer y gaeaf.

Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr mae’r coed yn troi’n sgerbydau; bydd gwyntoedd uchel yn sicrhau bod y rhan fwyaf o’u dail wedi disgyn erbyn diwedd y mis. Mae’r cyfnod hwn yn heriol i’r blodau sy’n dal i fod ar hyd y lle, yn enwedig os bydd y rhew’n cyrraedd yn gynnar. Ond efallai y bydd rhai, fel gwlyddyn y dom, yn cadw i fynd am rai wythnosau eto.

Felly, pa bynnag adeg o’r flwyddyn y dewch chi i’n gweld fe fydd ‘na rywbeth yma i’ch swyno, a digon o resymau i ddychwelyd.