Byddai’r gweithwyr tun yn defnyddio’r adeilad fel ystafell ddarllen, gan ddefnyddio’r Beibl yn eu hymdrechion i wella eu hagwedd foesol.
Yn aml defnyddiwyd yr adeilad fel man cyfarfod ar gyfer Bedyddwyr lleol a hefyd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys sioeau sleidiau llusern hud ac etholiadau cenedlaethol.
Symudodd y diwydiant tunplat i’r gweithfeydd is, a thros amser, daeth yr adeilad a’i dir yn eiddo i Dr Prell. Defnyddiodd ystafell yr ysgol fel ei feddygfa ac fe’i dilynwyd yn ei dro gan Dr Thomas. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel meddygfa tan 1968.
Wedyn roedd yr adeilad yn eiddo i Gymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr am gyfnod, cyn cael ei werthu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1982.
Yn 1989 cafodd yr adeilad ei ailwampio gan ‘Gyfeillion Rhaeadr Aberdulais’. Gyda chymorth y gwirfoddolwyr, aethpwyd â’r adeilad yn ôl i’w wreiddiau. Erbyn heddiw mae’n cael ei alw yn Ystafell De’r Hen Ysgoldy, sy’n gweini cynnyrch lleol i holl ymwelwyr Aberdulais.