Y Rhaeadr yn Aberdulais

Y rhaeadr yn Aberdulais

Y llifeiriant o ddŵr sy’n rhedeg trwy Gwm Dulais yw’r grym sydd wedi bod yn gyrru arloesedd diwydiannol ers dros 400 o flynyddoedd.

Mae Afon Dulais yn tarddu ar waelod llethrau Mynydd y Drum, ar gyrion Bannau Brycheiniog. Mae’r afon yn llifo i lawr cwm Dulais am ryw 13 cilomedr (8 milltir), i’r de-orllewin trwy bentrefi Blaendulais a’r Creunant cyn disgyn yn rhaeadr yn Aberdulais. Yma mae’n ymuno ag Afon Nedd yn agos at y fan, ger Tonna,  lle mae llanw’r môr yn cyrraedd.

Yn y dechreuad.......oes yr iâ

Ffurfiwyd y ceunant lle mae’r afon a’r rhaeadr heddiw tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth i rewlif doddi yn bellach i fyny’r cwm, fe dorrodd y dŵr tawdd ei ffordd yn araf trwy’r graig 300 miliwn o flynyddoedd oed. Gallwch weld hyn ar ochr orllewinol y ceunant heddiw.

Tywodfaen Pennant yw’r graig, sef gwely o dywod wedi’i gywasgu’n galed iawn. O danodd mae haen o lo, sydd wedi cael ei herydu’n raddol gan lif y dŵr, gan achosi i’r graig uwch ei phen gwympo a ffurfio’r Rhaeadr.

Yn wreiddiol, roedd y Rhaeadr wedi’i lleoli yn fwy i’r de, ond dros y canrifoedd, trwy erydu parhaus, mae wedi cael ei thorri’n ôl yn araf i’w lleoliad presennol.

Syfrdanol a swnllyd

Mae Afon Dulais yn afon fflachlif, sy’n golygu ei bod yn codi ac yn disgyn yn gyflym iawn. Yn ystod tywydd gwlyb ac yn y gaeaf, pan fydd yr afon yn llifeirio, mae’n lle gwirioneddol syfrdanol – a swnllyd.

Y rhaeadr ar ôl glaw trwm
Y rhaeadr ar ôl glaw trwm
Rhaeadr Aberdulais yn llifeirio
Rhaeadr Aberdulais yn llifeirio