Yr ochr dechnegol
Mae blwch gêr tri-cham yn cynyddu’r cyflymder er mwyn i’r generadur sydd wedi ei osod mewn siafft gynhyrchu hyd at 20kw o drydan. Ar ddiwrnod cyffredin mae tua 100-120kw o drydan yn cael ei gynhyrchu.
Fe wnaethon ni osod hwn yn 1991, pan oedd cynlluniau hydrodrydanol o’r math hwn yn weddol brin. Ac felly mae traddodiad o arloesi yn Aberdulais yn parhau hyd heddiw.