Pererinion ac Ysbeilwyr yn Ysbyty Ifan

Pentref Ysbyty Ifan a thir fferm, Eryri

Mae’r pentref tawel hwn gyda’i fryniau, ffermydd a golygfeydd rhyfeddol wedi denu nifer o ymwelwyr dros y blynyddoedd. Os awn ni’n ôl i Gymru’r oesoedd canol fe welwn hanes cyffrous o farchogion, pererinion ac ysbeilwyr.

Marchogion Sant Ioan

Hyd at 1190 roedd Ysbyty Ifan yn cael ei adnabod fel Dôl Gynwal.  Cafodd ei ail-enwi yn Ysbyty Ifan ar ôl iddo ddod i sylw Marchogion Sant Ioan, urdd o Ysbytywyr, a oedd yn gyfrifol am amddiffyn pererinion oedd ar eu ffordd i’r Tir Sanctaidd ac ar deithiau crefyddol.

Fe wnaethant ddewis sefydlu ysbyty a hostel i ofalu am bererinion yn Ysbyty Ifan gan ei fod wedi’i leoli ar lwybr nifer o deithiau crefyddol hynafol gan gynnwys Bangor Is-coed a Threffynnon yn y gogledd ddwyrain ac Ynys Enlli oddi ar Benrhyn Llŷn.

Dewch i fwynhau golygfeydd hyfryd a thir fferm yn Ysbyty Ifan
Tir fferm yn Ysbyty Ifan, Eryri

Gwylliaid  Cochion Mawddwy

Roedd y Marchogion yn cael eu gwarchod rhag ymosodiadau, ac yn y cyfnod cythryblus ar ôl gwrthryfel Glyndŵr yn y 15fed ganrif, roedd Ysbyty Ifan yn guddfan i rai o ysbeilwyr a gwrthryfelwyr mwyaf adnabyddus Cymru, yn cynnwys Gwylliaid Cochion Mawddwy. Daeth y lle yn hysbys fel lloches i droseddwyr.

Ysgrifennodd Syr John Wynn o Gwydir ar ddiwedd y 16eg ganrif, fod Ysbyty Ifan wedi bod yn “receptacle of thieves and murderers”.

Dreigiau coch a chrefydd

Gyda diddymiad y mynachdai o dan Harry VIII, cafodd yr hostel ei chau yn 1540, ond roedd yr eglwys gyfagos yn dal yno, fel eglwys y plwyf.  Cafodd yr adeilad ei ddisodli tua 1860 gan yr eglwys bresennol, sydd yn yr arddull ‘Seisnig cynnar’ Fictorianaidd.  Mae’r eglwys yn cynnwys arteffactau o’r eglwys gynharach, ac mae nifer ohonyn nhw’n dyddio o’r 14eg i 16eg ganrif. 

Mae sawl un yn amlygu’r cysylltiadau rhwng Ysbyty Ifan a gwrthryfel y Tuduriaid.  Yn ôl y sôn mae un o’r delwau yn darlunio Rhys ap Maredudd, a fu’n recriwtio milwyr i helpu Harri Tudur.  Roedd Harri yn cael ei weld yng Nghymru fel y mab darogan a fyddai’n codi ac yn arwain y Cymry i orchfygu’r Saeson. Ganed ef yng Nghastell Penfro, ac felly defnyddiodd y broffwydoliaeth hon gymaint â phosib er mwyn ennill cefnogaeth.

Aeth Rhys ap Maredudd â byddin leol i gwrdd â’r Harri Tudur ifanc oedd ar ei ffordd i orchfygu Brenin Richard III ym Mrwydr Bosworth yn 1485.  Roedd Rhys yn cario baner draig goch Cadwaladr ar faes y gad, ac roedd rhai beirdd yn mynnu mai ef laddodd Richard.  Nid oes modd profi hyn, ond fe wnaeth y teulu yn dda iawn yn dilyn buddugoliaeth y Tuduriaid, gyda’u grym lleol, eu dylanwad a’u hystâd yn tyfu.