Skip to content

Ymweld ag Eryri gyda'ch ci

Family on a walk with their dog at High Peak Estate, Derbyshire
Mwynhewch daith gerdded gyda'r ci yn Eryri | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Dilynwch yn ôl troed chwedlau o amgylch Eryri. P'un a ydych am dro hamddenol neu daith gerdded fynyddig, isod mae detholiad o llefydd i flino'r pedwar cymal (a'ch rai chi). Mae gan bron bob un o'r lleoliadau hyn da byw yn pori, felly cadwch eich ci ar dennyn. Helpwch ni i gadw’r llwybrau troed yn ddiogel ac yn arbennig i bawb eu mwynhau trwy lanhau ar ôl eich ci a chael gwared ar y baw mewn modd cyfrifol.

Ein system pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Eryri sgôr o un bawen.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Mae llawer o lefydd i ymweld â nhw yn Eryri, darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch chi fynd â'ch ci.

Beth sydd angen i mi gofio yn Eryri?

Rydym yn cynnal rhwydwaith enfawr o dros 100km o lwybrau troed ar draws Eryri, y gallwch eu mwynhau gyda’ch ci. Mae'r ardaloedd hyn yn aml yn wyllt gyda chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer cŵn. Mae gan bron bob un o’r lleoliadau hyn da byw, ac maent yn gartref i rai planhigion bregus ac adar sy’n nythu ar y ddaear, felly cadwch eich ci dan reolaeth agos, a chlirio baw ci yn gyfrifol.

Byddwch yn barod am camfeydd, gan nad yw bob amser yn bosibl gosod gatiau sy’n croesawu cŵn. Gall y dirwedd greigiog a garw fod yn anodd i bawennau cain. Mae hefyd yn werth gwirio eich ci am drogod ar ôl eich ymweliad.

Ble gall fy nghi fynd yn Eryri?

Ysbyty Ifan
Rydym yn cynnal a chadw 39 milltir o lwybrau troed i chi eu harchwilio yn y gornel dawel hon o Eryri. Cychwynnwch ym mhentref Ysbyty Ifan a dilynwch heol yr Hen Borthmyn – a arferai gael ei defnyddio i gerdded da byw i farchnadoedd yn Lloegr o gyn belled i ffwrdd â Llŷn. Mae’r ystâd yn cynnwys 51 o ffermydd felly cofiwch ddod ag tennyn gan eich bod bron yn sicr o ddod ar draws da byw. Efallai y byddwch hefyd yn dod ar draws rhai camfeydd (yn enwedig dros waliau cerrig) lle nad yw'n bosibl i ni gynnwys giât sy'n croesawu cŵn.Ymweld â Ysbyty Ifan
Dinas Oleu
Ewch â'ch ci ar daith hanesyddol a darganfyddwch ble ddaru gwreiddiau'r Ymddiriedolaeth cydio, trwy archwilio llethr serth Dinas Oleu yn Abermaw. Am daith gerdded drwy'r goedwig, dilynwch y llwybr o Ganllwyd i'r Rheadr Ddu ac o amgylch stad Dolmelynllyn. Rydych chi'n siŵr o wlychu a chael yn fwdlyd yma! Mae yna hefyd ychydig o wartheg yr ucheldir yn pori yn y coed a siawns o ddefaid i fyny ar y ffridd, felly cofiwch ddod â thennyn. Efallai y byddwch hefyd yn dod ar draws rhai camfeydd (yn enwedig dros waliau cerrig) lle nad yw'n bosibl i ni gynnwys giât sy'n croesawu cŵn.Ymweld â Dinas Oleu
Cwm Wybrnant
Ewch am dro o amgylch dyffryn Cwm Wybrnant gan alw yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, a fu’n gyfrifol am gyfieithu’r Beibl Cymraeg. Mae croeso i gŵn ar dennyn o amgylch yr ardd. Nid oes biniau ar y safle, felly dewch yn barod i fynd â'ch baw ci adref gyda chi.Ymweld â Chwm Wybrnant
Two people and a dog walking along a rocky ledge through a gorge with fast moving river to the right
Ymwelwyr yn cerdded ar hyd afon Glaslyn, Eryri | © National Trust Images/Chris Lacey
Beddgelert
Dewch â'ch ci i Feddgelert cartre'r ci ffyddlon, Gelert. Dilynwch ei olion traed wrth i chi fentro o amgylch y pentref neu ewch ychydig ymhellach i lawr bwlch syfrdanol Aberglaslyn. Fel arfer mae defaid mewn rhai o’r caeau ar hyd y llwybr hwn, felly cadwch eich ci ar dennyn. Mae biniau cyhoeddus yn y pentref hefyd ar gael ar gyfer baw cŵn.Ymweld â Beddgelert
Cwm Idwal
Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol hynaf Cymru, Cwm Idwal, olygfeydd mynyddig ysblennydd, bywyd gwyllt arbennig, a daeareg enwog. Byddwch yn ymwybodol bod y llwybr hwn yn mynd trwy ardaloedd sy'n ffafriol i adar sy'n nythu ar y ddaear a thir fferm sy'n cael ei bori gan wartheg a defaid. Efallai y byddwch hefyd yn dod ar draws geifr gwyllt. Mae’n gyrchfan boblogaidd iawn felly i helpu pawb i deimlo’n ddiogel ac i leihau’r risg i fywyd gwyllt a da byw, cadwch eich ci ar dennyn. Mae biniau y gellir eu defnyddio ar gyfer baw cŵn ger y ganolfan ymwelwyr.Ymweld â Chwm Idwal

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Dewch o hyd i'r lle nesaf i gerdded eich ci yng Nghymru

Mae digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru. O fynyddoedd a thraethau i erddi a pharciau, darganfyddwch lefydd i gerdded a chrwydro.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Eryri 

Darganfyddwch gopaon trawiadol, llynnoedd rhewlifol a choetiroedd hynafol Eryri, tirwedd ysbrydoledig sy’n drysorfa o chwedlau.

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.
Lle
Lle

Ysbyty Ifan 

An agricultural estate, rich in wildlife and history | Stad amaethyddol, llawn bywyd gwyllt a hanes

Betws y Coed, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Lle
Lle

Craflwyn a Beddgelert 

Unwind amongst the wooded foothills of Yr Wyddfa (Snowdon) | Ymlaciwch ymysg odre coediog Yr Wyddfa

near Beddgelert, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance
Lle
Lle

Carneddau a Glyderau 

Experience the wildest landscape of Eryri (Snowdonia) | Profwch dirlun anial Eryri

Bethesda, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Yr Olygfa o Olygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru
Lle
Lle

De Eryri 

Remote mountains steeped in history, deep wooded valleys and spectacular estuaries | Mynyddoedd anghysbell yn llawn hanes, dyffrynnoedd coediog dwfn ac aberoedd ysblennydd

Dolgellau, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfa dros y dyffryn o Dŷ Mawr Wybrnant ar ddiwrnod braf
Lle
Lle

Tŷ Mawr Wybrnant 

Man geni’r Esgob William Morgan | Birthplace of Bishop William Morgan

Betws-y-Coed, Conwy

Yn hollol agored heddiw