Ysbyty Ifan – ein hystâd amaethyddol fwyaf

Yn 1951, daeth ystâd Ysbyty Ifan i’n gofal ni ar ôl cael ei throsglwyddo gan y Trysorlys, a oedd wedi ei chael yn lle talu tollau marwolaeth o ystadau'r diweddar Arglwydd Penrhyn.

Trosglwyddwyd Ysbyty Ifan gydag ystâd fynyddig Carneddau a Glyderau, sydd â’r darn di-dor hiraf o dir mynyddig yn y wlad. Daeth adeilad a thir trawiadol Castell Penrhyn i’n gofal ar yr un pryd fel rhan o’r un trefniant.

Ein stad amaethyddol fwyaf

Ysbyty Ifan yw un o’n hystadau amaethyddol mwyaf. Mae’n cynnwys tua 20,316 erw o ucheldir godidog, sydd i gyd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’n cynnwys dyffrynnoedd Machno, Eidda a rhan Uchaf Dyffryn Conwy.

Mae’r ystâd yn cynnwys 51 o ffermydd a 30 o dai.  Magu defaid a gwartheg bîff yw’r math o ffermio sydd yma’n bennaf, ac mae’r da byw yn gwneud yn dda ar yr ucheldir a’r rhosydd agored.

Mae’r stâd yn weddol bellenig; mae hyn wedi helpu meithrin cymuned leol glos, ac wedi diogelu ardal o siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 196 o bobl yn byw mewn 76 o gartrefi, gyda dros 79% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Mynd am dro

Mae’r ystâd yn cynnwys dros 39 milltir o lwybrau cerdded. Gallwch lawrlwytho taflenni tywys yma ar gyfer 3 o’r teithiau cerdded.  Dafliad carreg yn unig i fwrdd o un o gyrchfannau twristiaid prysuraf Parc Cenedlaethol Eryri, mae Ysbyty Ifan yn cynnig hafan heddychlon i chi ei harchwilio.