A hithau’n Flwyddyn y Chwedlau gan Croeso Cymru, buom yn dathlu stori ddifyr yr Afanc am anghenfil chwedlonol a ddaeth i fyw yn afon Conwy. Yn ôl y chwedl, os oedd yr afanc mewn hwyliau gwaed, roedd yr afon yn gorlifo’i glannau a chnydau a stoc y ffermwyr yn cael eu difetha.
Dywedodd y Ceidwad, Robert Parkinson, “Fel rhan o'r rhaglen rydym wedi bod yn ymweld ag ysgolion yn yr ardal gan ddefnyddio'r chwedl i ystyried y cwestiwn - Sut allwn ni gadw'r Afanc yn hapus heddiw?”
Cafodd dros 300 o ddisgyblion eu hannog i feddwl beth sy’n gwneud cynefin iach a sut y gallai cynefinoedd iach ger tarddiad afonydd, fel y gors ar y Migneint, effeithio ar greaduriaid fel yr Afanc, pobl a bywyd gwyllt yn nes i lawr yr afon.
Ymhlith y gweithgareddau roedd cyfle i gynllunio Afanc o wahanol rannau o gyrff anifeiliaid wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer y cynefin a’r stori.
Meddai Robert Parkinson, “Mae’r Afanc wedi bod yn ddyfais wych ar gyfer trafod llifogydd yn yr ardal ac mae’n ffordd dda o ddathlu’n treftadaeth Gymreig hefyd.”
Ffilm rap yr Afanc
Yn ogystal â’r sesiynau mewn ysgolion, fe gynhaliwyd diwrnod cymunedol yng Nghonwy lle cafwyd help y rapiwr lleol o fri, Mr Phormula, i gydweithio â phlant a theuluoedd o’r ardal i greu ffilm rap arbennig am yr Afanc. Gallwch wylio’r ffilm isod.