Nadolig y Forwyn | A Servant's Christmas
Mae'n 1902 a mae Gwen y forwyn yn brysur wrth ei gwaith, ond mae'n methu peidio a meddwl am ei theulu ym Mhethesda.| It's 1902 and Gwen the kitchen maid is busy at work, but her family in Bethesda are on her mind.
- Booking not needed
- Free event (admission applies)
Mae hi’n fis Rhagfyr 1902 ac mae’r castell yn ferw o weithgarwch wrth i staff y gegin baratoi ar gyfer dathliadau’r Nadolig. Mae Gwen y forwyn yn brysur wrth ei gwaith ond yn methu peidio a meddwl am ei theulu nôl adref ym Methesda gyfagos. Mae ei chwaer, sy’n wraig i chwarelwr, ar drothwy trydydd blwyddyn Streic Fawr y Penrhyn, a bydd Nadolig ei theulu hithau'n wahanol iawn i’r arfer…
Ymunwch â ni am y profiad ymdrochol yma gyda’n actor preswyl i ddysgu am draddodiadau’r Nadolig yng Nghastell Penrhyn a’r gymhariaeth gyda chaledi bywyd yn ystod Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903.
Mae hwn yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru, wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
****
It’s December 1902 and the castle is abuzz with activity as the kitchen staff prepare for the festivities. Gwen the kitchen maid is busy at work but can’t help but think about her family back home in nearby Bethesda. Her sister, a quarryman's wife, is heading into the hardships of the third year of the Great Penrhyn Quarry Strike and her family’s Christmas will be very different to the usual…
Join us for this immersive experience with our actor in residence to learn about Christmas traditions at Penrhyn Castle and the comparison with the reality of life during the Great Penrhyn Quarry Strike of 1900-1903.
This is a NHLF-funded collaborative project between the National Trust and the National Slate Museum.
Times
Prices
Event ticket prices
This event is free, but normal admission charges apply for the venue.
Check admission pricesUpcoming events
Nadolig Bytholwyrdd ym Mhenrhyn | An Evergreen Christmas at Penrhyn
Ymunwch â ni am Nadolig Bytholwyrdd yng Nghastell Penrhyn eleni | Join us for An Evergreen Christmas this year at Penrhyn Castle.
Gweithdy gwneud torchau Castell Penrhyn | Penrhyn Castle wreath making workshop
Paratowch eich tŷ ar gyfer y Nadolig yn y gweithdy gwneud torchau creadigol, ymlaciol hwn a gynhelir yng Nghastell Penrhyn. Dan arweiniad Floverly, bydd y gweithdy hwn yn rhoi'r holl arweiniad a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i greu'r dorch...
Sesiwn Straeon hefo Siwan Llynor | Storytelling sessions with Siwan Llynor
Dewch draw am sesiwn adrodd straeon hudolus | Join us for a magical storytelling session.