Ar gof a chadw mewn carreg: Ymchwil newydd yn cadarnhau gwaith celf ogof y Gŵyr fel 'yr hynaf yn y DU'
- Cyhoeddwyd:
- 02 Mehefin 2026

Mae archaeolegwyr wedi datgelu mai'r gwaith celf craig cynharaf ym Mhrydain y gwyddys amdani yw'r streipiau amlwg a baentiwyd mewn ogof ar Benrhyn Gŵyr . Mae'r tîm rhyngwladol a gynhaliodd yr ymchwil newydd yn ogof Bacon Hole, sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, wedi cadarnhau bod y gwaith celf wedi'i greu gan bobl 17,100 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r ogof, sy'n edrych dros Fôr Hafren, yn hysbys ers tro am ei phanel o graig wedi'i baentio ac mae'n adnabyddus fel un o 'ogofâu esgyrn' mwyaf arwyddocaol Cymru, a enwyd felly oherwydd yr esgyrn anifeiliaid hynafol a gafodd eu datgelu yno.
Fodd bynnag, ar ôl cael ei darganfod ym 1912, cafodd y greadigaeth brin a wnaed gan ddefnyddio haearn ocsid coch (gwaedfaen), mwyn sy'n digwydd yn naturiol, ei diystyru'n llwyr drwy gydol yr 20fed ganrif fel 'staen naturiol' [1].
Nawr, yn dilyn ail-archwiliad a dadansoddiad gwyddonol newydd, mae gwir arwyddocâd y paentiadau ogof Palaeolithig wedi'i gadarnhau. Mae hyn yn gwneud Bacon Hole, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn un o'r safleoedd cynhanesyddol pwysicaf yn Ewrop.
Roedd y tîm rhyngwladol o wyddonwyr a gynhaliodd yr ymchwiliadau newydd rhwng 2022 a 2024 yn cynnwys y tîm First Art o Brifysgol Coimbra (Portiwgal), ochr yn ochr ag ymchwilwyr o Brifysgolion yn cynnwys Abertawe, Southampton, Lerpwl, a Phrifysgol Nanjing Normal, Tsieina [2]. Cyhoeddodd y grŵp adroddiad gwyddonol llawn yn ddiweddar ar eu canfyddiadau [3].
Ategodd Dr George Nash, Archaeolegydd ac arbenigwr mewn celf Cynhanesyddol a Chyfoes ym Mhrifysgol Lerpwl a fu'n arwain y gwaith ymchwil: "Mae'r darganfyddiad hwn yn ailysgrifennu'r hyn a wyddom am fywydau cymdeithasol a defodol ein cyndadau cynnar yng Nghymru yng nghyfnod cynhanesyddol cynnar Ynysoedd Prydain. Ac yntau'n rhagddyddio'r holl safleoedd gwaith celf craig a nodwyd yn flaenorol yng ngogledd-orllewin Ewrop o 1,500 o flynyddoedd o leiaf, mae'r gwaith celf hynod yn ganfyddiad o arwyddocâd rhyngwladol.”
Mae'n gyfuniad o wyddoniaeth archaeolegol gyfredol sy'n cynnwys ffotograffiaeth ddigidol eglur iawn, dyddio cyfres-wraniwm a sbectrosgopeg Ramn, pob un â'r nod o edrych ar gyfansoddiad ac oedran y pigmentau a ddefnyddiwyd yn y gwaith celf.
Cafodd yr holl arwynebau gweladwy yn yr ogof oedd wedi'u paentio eu harchwilio am yr eildro, a gadarnhaodd wedyn bod y pigmentau o gelf craig wedi eu paentio'n fwriadol gan fysedd dynol mewn llinellau, dotiau bys ac ysgeintiadau.
Dywedodd David Thomas, Archaeolegydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Roeddem wastad yn ymwybodol bod Bacon Hole yn safle Palaeolithig eithriadol - ond mae'n gyffrous iawn i ddarganfod bod y gwaith celf ogof hynaf ym Mhrydain wedi'i leoli yma yng Nghymru. Mae dychmygu pobl yn sefyll yn yr ogof hon dros 17,000 o flynyddoedd yn ôl, yn creu eu marciau ar y graig ac yn trawsnewid y lleoedd roeddent yn byw ynddynt drwy gelf, yn rhywbeth emosiynol iawn.
“Rydym yn andros o ddiolchgar i Dr Nash a'r tîm First Art am ddatgelu'r bennod gudd hon o'n gorffennol a chryfhau ein dealltwriaeth o'r lleoedd arbennig rydym yn gofalu amdanynt ar y Gŵyr.”
Mae gwaith celf ogof Bacon Hole yn un enghraifft o'r casgliad eang o gelfyddyd cynhanesyddol y mae'r Ymddiriedolaeth yn gofalu amdano ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr fel rhan o'r 90,000 safle archaeolegol y mae'n eu gwarchod.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhoi mesurau cadwraeth ar waith i ddiogelu'r archaeoleg a'r gwaith celf craig bregus a'r boblogaeth brin o ystlumod sy'n clwydo yn yr ogof, drwy osod gril metel amddiffynnol yn y fynedfa.
Oherwydd lleoliad peryglus Bacon Hole ar glogwyni'r arfordir, nid yw'n ddiogel i'r cyhoedd fynd at yr ogof.
Roedd y gwaith ymchwil diweddar yn ogof Bacon Hole yn bosibl diolch i gefnogaeth a chyllid gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Sefydliad Bradshaw.