Cadwraeth o bortread hyd llawn prin o was o’r 18fed ganrif yn datgelu cliwiau rhyfeddol am ei hunaniaeth a’i rôl
- Cyhoeddwyd:
- 04 Mawrth 2024
Mae portread gwir faint, hyd llawn prin o was wedi’i arddangos yng Nghastell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam yn dilyn gwaith cadwraeth ac ymchwil i ddatgelu cliwiau rhyfeddol am ei gefndir.
Am sawl blwyddyn, bu John Wilton (c.1691-1751) dyn anabl a gafodd ei gymryd i mewn yn ddyn ifanc gan Syr Richard Myddelton, perchennog Castell y Waun, a lle’r arhosodd hyd ddiwedd ei oes, yn cael llety, dillad a bwyd.
Yn wahanol i’r gweision eraill, ymddengys na dderbyniodd John Wilton gyflog, ond ar ôl i Robert Myddelton olynu ei gefnder, talodd am artist i wneud portread o Wilton. Mae ysgrifen aur ar y portread yn disgrifio John fel Decus Culinae, sy’n cyfieithu o’r Lladin fel ‘clod’ neu ‘falchder’ o’r gegin.
Gyda’i wallt byr, a mwstas yn crymu at farf fechan, mae’n cael ei bortreadu’n gwisgo trowsus pen-glin brown, sanau hir, esgidiau a siaced gyda botymau euraidd. Mae cyfrifon y castell yn ystod ei fywyd yn cofnodi’r nifer o weithiau y talwyd am ddillad John, yn cynnwys swm i’w fam ei hun i wneud crysau i’w mab, a chafodd esgidiau eu prynu a’u trwsio ar ei gyfer.
Mae cronoleg o weision Castell y Waun yn rhestru nifer ohonynt a’u rolau, ond ymddengys John ar ffurf bywgraffiad bychan yn cael ei ddisgrifio fel ‘a deformed Cripple taken into the Family by Sir Richard Myddelton, 3rd Bt (1655-1716) and kept for Charity from his Youth to his Death which happen’d in October 1751 – near sixty years old.’ Yn y portread, gwelir John yn eistedd, gyda’i ddwy goes yn ddifrifol o gam.
Mae modd gweld cliwiau i’w statws posibl yn y gwydraid o gwrw sydd yn ei law, a jwg las addurniadol ar y bwrdd wrth ei ymyl, sydd â’r llythrennau GR am ‘George Rex’ (Brenin Siôr). Yn ei ymyl mae dolen gamdro, o bosib ar gyfer ei defnyddio ar beiriant rhostio yn y gegin neu ar gyfer cloc, ond nid oes unrhyw beth yn archifau’r castell yn cadarnhau mai John Wilton oedd yn gwneud y gwaith cegin.
Portreadwyd John pan oedd oddeutu 38 mlwydd oed, ac ychydig a wyddys am Thomas Whitmore, artist y portread. Mae’n debygol ei fod yn beantiwr-addurnwr teithiol gan y nodir iddo dderbyn £2, 2 swllt am y portread ynghyd â thâl am gyflawni tasgau eraill yng Nghastell y Waun megis paentio a goreuro’r tŷ haf yn yr ardd. Mae’r rhifau 1728/9 yn ymddangos ar y ddolen gamdro yn y portread, sy’n nodi pryd y cafodd ei baentio o bosib.
Fodd bynnag, yr hyn sydd mor anarferol ynghylch y portread o John Wilton yw mai prin y gwelwyd gweision yn destun astudiaethau gwir faint, hyd llawn. Byddai’r rhain yn cael eu cadw’n benodol ar gyfer y teulu Brenhinol neu’r boneddigion gan arddangos eu statws a’u cyfoeth.
Yn ôl John Chu, Uwch Guradur Paentiadau a Cherfluniau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Ni wyddom y rheswm pam rhoddodd Syr Richard Myddelton gartref yn y castell yn benodol i John Wilton na pham y comisiynodd ei gefnder bortread mor fawr ohono. Mae prinder yr enghreifftiau o bortreadau hyd llawn o weision yn golygu nad ydym yn gwybod yn iawn sut cawsant eu hystyried ar y pryd.
“Er bod John Wilton yn cael ei ddathlu fel unigolyn, mae’r arysgrifiad aur sy’n ei ddisgrifio fel ‘clod’ neu ‘falchder’ y gegin yn Lladin. Os oes yma chwarae ar ffurfiau uchel ac isel o gelf a statws cymdeithasol, i ba raddau y byddai wedi deall y cellwair yn yr iaith ddysgedig hon?
“Serch hynny, mae portread hanesyddol fel arfer yn cofnodi perthynas rhwng o leiaf tri pherson; yr artist, y testun a’r person a gomisiynodd y gwaith. Er bod y darlun hwn wedi’i baentio ar gyfer Richard Myddelton, gŵr o statws uchel iawn, mae hwn hefyd yn ddogfen artistig o ŵr dosbarth gweithiol yn dod ar draws un arall. Rydym yn gweld Wilton trwy lygaid Whitmore: ac yn hynny o beth mae’n cynnig cipolwg hynod brin os nad unigryw.”
Aeth John yn ei flaen: “Mae’r jwg a welwn yn y portread o safon uchel ond yn hen ffasiwn, ac felly’n debygol o gael ei ddefnyddio i lawr y grisiau bryd hynny. Mae’r GR yn nodi ffyddlondeb yr aelwyd gyfan i’r frenhiniaeth Hanoferaidd, a gallwn dybio bod John yn codi gwydraid i ddathlu’r Brenin. Mae’r ddolen gamdro wedi’i phaentio wrth ochr John lle byddai eitemau’n dynodi statws wedi’u gosod mewn portread statws uwch - coron neu deyrnwialen ar gyfer brenin er enghraifft. A yw’r gwrthrych yn ‘symbol o swydd’ John Wilton ar gyfer ei ddyletswyddau cegin?”
Dros y canrifoedd, roedd y portread y gwyddom iddo fod ar ddangos yn y gegin o’r 19eg ganrif o leiaf, wedi’i dywyllu gan fudredd, parddu, a farnais drygliw, ac roedd llawer o’r manylder wedi mynd yn anodd i’w ddarllen.
Ymgymrodd y cadwraethwr paentiadau Annabelle Monaghan â’r dasg o lanhau, atgyffwrdd, a farnesio’r portread. Wrth fynd i’r afael â’r gwaith, gwnaeth rai darganfyddiadau diddorol.
Dywed Annabelle: “Mae’n amlwg mai’r bwriad oedd i’r paentiad hwn fod yn llawn hyd ac yn wir faint. Yn y paentiad, mae John Wilton yn mesur tua 165cm sydd tua’r taldra cyfartalog i ddyn bryd hynny. Dechreuodd yr artist gyda darn eithaf mawr o gynfas a oedd eisoes wedi’i baratoi, a gallai fod wedi paentio’r portread ar y darn unigol hwn o gynfas yn rhwydd. Byddai maint John Wilton wedi’i leihau, ond byddai’n parhau i fod yn bortread eithaf sylweddol ar gyfer comisiwn fel hyn. Yn hytrach, aeth Whitmore i’r drafferth o bwytho pedwar darn ychwanegol o gynfas er mwyn roi digon o le iddo’i hun i baentio gwir faint Wilton a chynnwys y jwg a’r ddolen gamdro. Mae’n teimlo fel datganiad gwirioneddol ar ran yr artist neu’r unigolyn a gomisiynodd y gwaith.”
Ategodd Jon Hignett, Rheolwr Cyffredinol Castell y Waun: “Mae sawl cwestiwn ynglŷn â John Wilton na allwn byth eu hateb o bosib, ond yn wahanol i unrhyw was arall a arferai fyw neu weithio yng Nghastell y Waun, mae ei bortread ef yn amlwg o fawr. Beth bynnag fo’r rhesymau dros ei gymryd i mewn, rhoddwyd cartref iddo yma, ac yma y bu am weddill ei oes. Gyda’r portread bellach yn llawn lliw a gwychder unwaith eto, mae’n hyfryd meddwl y bydd yn parhau i fod yn rhan o hanes Castell y Waun i ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.”
Mae’r portread o John Wilton yn cael ei arddangos yn Neuadd y Gweision yng Nghastell y Waun o ddydd Llun 4 Mawrth.
Hanes Castell y Waun
Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Casgliad Castell y Waun
Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.