Dyfodol gwyrddach i Gymru wrth gyhoeddi £1.1 miliwn o gyllid
- Cyhoeddwyd:
- 17 Gorffennaf 2025

Derbyniodd Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yng Nghymru hwb ariannol heddiw o £1.1 miliwn i helpu sicrhau bod pobl sy’n byw ar draws Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu mwynhau byd natur a mannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi.
Maen nhw ymhlith 40 o drefi a dinasoedd sy’n derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o genhadaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn glymblaid o sefydliadau sydd wedi’u huno gan yr uchelgais i alluogi miliynau yn fwy o bobl i brofi byd natur yn eu bywydau bob dydd, yn enwedig y lleoedd a’r cymunedau hynny sydd heb fynediad at fannau gwyrdd o safon ar hyn o bryd.
Y gyntaf o’i bath, nod y rhaglen newydd hon a gyhoeddwyd gan Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw helpu o leiaf 100 o leoedd ar draws y Deyrnas Unedig i ddod yn fannau gwyrddach, iachach a hapusach i bobl fyw a gweithio ynddynt.
Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol,
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi buddsoddiad o £15 miliwn a fydd yn helpu 40 o drefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig i gynllunio eu hadferiad o natur drefol yn well, gan gysylltu pobl a chymunedau â’u hamgylchedd naturiol yn y lleoedd y maent yn byw ynddynt. Rydym wedi buddsoddi dros £1bn mewn adfywio dros 900 o barciau trefol a mannau gwyrdd dros y 30 mlynedd diwethaf, gan helpu byd natur i ffynnu mewn trefi ym mhobman – a bydd y fenter gyffrous hon, gan weithio gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig, yn parhau i adeiladu ar y buddsoddiad hwn ac yn rhoi gwell mynediad i fyd natur yn agos at eu cartrefi i filiynau o bobl.”
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Llongyfarchiadau i Gastell-nedd Port Talbot a Thorfaen ar sicrhau’r cyllid hanfodol hwn ar gyfer eu cymunedau.
“Rydym yn cydnabod yr angen dybryd i bobl a byd natur ffynnu gyda’i gilydd yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Mae’r prosiectau hyn yn gyfle cyffrous i gyflawni newid gwirioneddol, parhaol yn y mannau trefol lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae cymunedau’n dod at ei gilydd i lunio mannau trefol gwyrddach sy’n gwella bioamrywiaeth, yn cryfhau gwydnwch hinsawdd, ac yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.”
Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
Heddiw mae bron i 40 y cant o bobl heb fynediad i fyd natur o fewn 15 munud i ble maent yn byw. Mae angen i hynny newid. Ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ochr yn ochr â phartneriaid agos, yn gweithio'n galed i gyflawni'r newid hwnnw y mae mawr ei angen.
“Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn rhaglen newydd gyffrous, sy’n cyd-fynd â’n nod 10 mlynedd i roi terfyn ar fynediad anghyfartal, a fydd yn helpu natur, harddwch a hanes i ddod yn fyw yn rhai ardaloedd yn Ne Cymru.”
“Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i weithio y tu hwnt i’n ffiniau, cydweithio ar draws sectorau a gweithio gyda chymunedau lleol i gyflawni newid parhaol sy’n fuddiol i gymunedau nid yn unig heddiw, ond i genedlaethau i ddod.”
“Mae’r fenter hon yn ymwneud â mwy na mannau gwyrdd yn unig — mae’n ymwneud â chreu lleoedd iachach, mwy cysylltiedig lle gall pobl a bywyd gwyllt ffynnu gyda’i gilydd. Yng Nghymru, lle mae’r dirwedd yn rhan mor hanfodol o’n hunaniaeth a’n lles, bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau y gall cymunedau Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen fwynhau natur yn agos at adref.”
I gychwyn y rhaglen, bydd deugain o drefi a dinasoedd ar draws 19 o bartneriaethau yn derbyn grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, o Portsmouth i Bradford yn Lloegr, i Fife yn yr Alban, Torfaen yng Nghymru, a Belfast yng Ngogledd Iwerddon.
Prosiect planed iach, pobl iach #NTC Torfaen - £808,315
Mae Torfaen eisiau i natur a chymunedau ffynnu a bydd yn datblygu uwchgynllun i lunio ac arwain y gwaith o greu rhwydweithiau hygyrch, gwydn, sydd wedi’u cysylltu’n dda o fannau gwyrdd a glas trefol ar draws tair tref y fwrdeistref.
Trwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, cefnogi gwirfoddoli lleol, cyflwyno digwyddiadau, gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion ac ymgyrchoedd â thema, nod y prosiect yw newid canfyddiadau am natur drefol a'i phwysigrwydd ar gyfer llesiant. Byddant hefyd yn creu fframwaith cynaliadwy ar gyfer adfer byd natur yn y tymor hir drwy opsiynau cyllid gwyrdd arloesol a datblygu prosiectau sy’n barod i fuddsoddi. Bydd yn meithrin gallu parhaol trwy hyfforddiant, datblygu sgiliau, a mynediad at arbenigedd mewn cynllunio tirwedd, ecoleg, ac atebion sy'n seiliedig ar natur.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:
“Rwy’n falch iawn bod Torfaen wedi derbyn cyllid gan Trefi a Dinasoedd Byd Natur. Rydym am i fyd natur ffynnu yn Nhorfaen ac i fwy o bobl brofi ei fanteision iechyd a lles niferus. Bydd y cyllid yn ein galluogi i weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid mewn ffyrdd newydd ac arloesol, fel y gallwn gyda’n gilydd gyflawni mwy a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i adferiad byd natur a chadw ein cymunedau’n iach.”
#NTC Port Talbot – Natur Yn Ôl yn y Dref - £339,471
Bydd y prosiect hwn yn adfywio mannau gwyrdd yn un o ardaloedd mwyaf trefol Cymru, gan newid sut mae pobl leol yn rhyngweithio â natur yn eu bywydau bob dydd. Bydd strategaeth seilwaith gwyrdd yn cael ei chreu drwy fapio cynefinoedd, data hinsawdd, asesiadau risg llifogydd a lleisiau pobl leol. Bydd cymunedau’n cael eu hysbrydoli a’u hannog i gefnogi a dylunio’r mannau llawn natur agosaf atynt, gan roi ymdeimlad parhaol o berchnogaeth iddynt dros eu hamgylchedd lleol.
Dan arweiniad tîm ymroddedig o arbenigwyr bywyd gwyllt, mae "Natur Yn Ôl yn y Dref" yn ddull newydd o adfer natur drefol. Bydd y prosiect yn creu map ffordd ymarferol ar gyfer dyfodol amgylcheddol Port Talbot, gan wella bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach – gan brofi y gall natur, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol diwydiannol traddodiadol, fod yn fudd annatod o fywyd bob dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles:
“Rydym yn falch iawn o gael y gefnogaeth gan y gronfa Trefi a Dinasoedd Byd Natur i gyflawni prosiect mor gyffrous ac ystyrlon. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio law yn llaw â’n cymunedau i wella bioamrywiaeth, gwella mynediad at natur, ac ail-ddychmygu ein mannau trefol. Trwy gyfuno gwybodaeth leol, creadigrwydd a gweithredu amgylcheddol, rydym yn gobeithio creu newid parhaol sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt.
Yn ogystal â’r grantiau a gyhoeddwyd heddiw, mae’r rhaglen hefyd wedi dyfarnu Birmingham, Bournemouth, Christchurch a Poole fel Trefi Natur a Dinasoedd Natur cyntaf y Deyrnas Unedig, gan gydnabod eu huchelgais a’u hymrwymiad i natur a chymunedau. Y gobaith yw y bydd yr hwb ariannol ar gyfer Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot yn eu helpu i ddilyn yr un llwybr, gan weithio tuag at statws Tref Natur neu Ddinas Natur.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.naturetownsandcities.org.uk/cy/