Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ffasâd wedi'i adfer yn cael ei ddatgelu ac arddangosfa newydd yn agor wrth i sgaffaldiau gael eu tynnu oddi ar dŷ hanesyddol yng Ngerddi Dyffryn

Golygfa ar draws y lawnt tuag at y tŷ godidog yng Ngerddi Dyffryn
Y ffasâd ar ei newydd wedd yn Nhŷ Dyffryn sy’n sefyll yn dalog yng nghanol Gerddi Dyffryn ger Caerdydd | © National Trust Images/ffotoNant

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn datgelu Tŷ Dyffryn ar ei newydd wedd yr wythnos hon wrth i'r tu allan gael ei ddatguddio wedi 18 mis y tu ôl i sgaffaldiau. Yn dilyn gwaith adfer sylweddol i'r gwaith cerrig, gall ymwelwyr nawr fwynhau golygfeydd o ffasâd y tŷ trawiadol wedi'i adfer sy'n eistedd yn dalog yng nghanol Gerddi Dyffryn, ar gyrion Caerdydd.

Mae gwaith cadw ar y ffasâd carreg galch, gwaith ar y to ac adfer y gwaith coed ar y ffenestri yn golygu bod y tŷ Fictoraidd rhestredig Gradd II* bellach yn dal dŵr am y tro cyntaf ers degawdau. Mae'r prosiect wedi gweld pedwar ochr allanol y tŷ yn cael eu hadfer, gan ddiogelu a hyrwyddo rhan sylweddol o dreftadaeth Cymru.

Wedi ei adeiladu o garreg Caerfaddon oddeutu 125 mlynedd yn ôl, adeiladwyd Tŷ Dyffryn fel tŷ teulu gan John Cory, masnachwr glo cyfoethog. Fe'i defnyddiwyd fel cartref am lai na 50 mlynedd cyn cael ei roi ar les i Gyngor Sir Morgannwg at sawl defnydd, yn cynnwys Pencadlys yr Heddlu wrth gefn a chanolfan addysg a chynadleddau.

Ers dod yn geidwaid Dyffryn yn 2013 mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynnal gwaith adfer yn y tŷ a'r ardd 55 acer restredig Gradd I.

Dywedodd Lizzie Smith-Jones, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Dyffryn:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Erddi Dyffryn wrth i ni roi bywyd newydd i'r tŷ godidog.

Gyda'r tu allan Fictoraidd yn pefrio, rydym yn dathlu prosiect adfer llwyddiannus ac yn rhoi'r tŷ yn ôl yn ganolbwynt yr ardd mewn pryd i ddechrau'r hydref. Bydd pobl sy'n dod i Ddyffryn i fwynhau lliwiau'r hydref yn gallu mwynhau golygfeydd trawiadol o'r tŷ ar ei newydd wedd.”

Nawr, gyda'r gwaith ar y tu allan wedi ei gwblhau, mae'r elusen gadwraeth yn parhau â gwaith adfer a chydymffurfio hanfodol i du mewn i Dŷ Dyffryn i'w amddiffyn er mwyn i genedlaethau'r dyfodol gael ei fwynhau.

Wrth i brif ran y tŷ barhau ar gau i alluogi gwaith hanfodol, mae'r Ymddiriedolaeth yn agor arddangosfa newydd i rannu'r daith adfer gyda phawb.

O 26 Hydref, bydd ‘Tŷ Darganfod’, ar agor yn yr Ystafell Fore bob dydd Iau, Gwener a Sadwrn o 11am tan 3pm.

Ychwanegodd Lizzie Smith-Jones:

"Rydym yn edrych ymlaen yn arw at agor yr Ystafell Fore i'n cefnogwyr yn Nyffryn.

Mae’r arddangosfa’n datgelu gwahanol fywydau’s tŷ ers iddo gael ei adeiladu yn y 1890au a’r gwaith ry’n ni’n ei wneud i warchod yr adeilad fel ei fod yn sefyll yn falch wrth galon y gerddi am 125 mlynedd arall.”

Bydd gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gael yn yr Ystafell Fore i groesawu ymwelwyr a bydd ychydig o ddarnau llestri te teulu'r Cory i'w gweld hefyd. Cafodd y set te, un o'r ychydig gasgliadau gwreiddiol sydd ar ôl yn Nyffryn, ei roi i'r Ymddiriedolaeth yn 2018.

Derbyniwyd grant gwerth £100,000 gan y Sefydliad Wolfson i ariannu'r atgyweiriadau yn Nhŷ Dyffryn yn rhannol.

I drefnu ymweliad i weld y tŷ ar ei newydd wedd a'r arddangosfa Tŷ Darganfod newydd, ewch i: www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens

You might also be interested in

Spring magnolia on the Great Lawn at Dyffryn Gardens with Dyffryn House in the background.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Magnolia blossoms on the Great Lawn with the house in the background, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Lle
Lle

Gerddi Dyffryn 

An Edwardian garden in restoration with an ever-changing seasonal landscape | Gardd Edwardaidd sy’n cael ei hadfer, gyda thirwedd dymhorol sy’n newid yn barhaus

St Nicholas, Vale of Glamorgan

Yn hollol agored heddiw