
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda gardd-ystafelloedd clud, lawntiau ffurfiol a gardd goed fawr, mae digon i’w ddarganfod yn ystod eich ymweliad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y gerddi 55 erw hyn yn gweld rhaglen adfywio uchelgeisiol i’w hadfer i’w gwir ogoniant o’r 1920au.
Yn yr haf mae Gerddi Dyffryn yn wledd i’r synhwyrau. Ym mhob twll a chornel fe welwch blanhigion yn eu blodau. Mae arddangosfeydd y gwelyau blodau ar eu hanterth ym mis Gorffennaf, yn enwedig y Wyneb Deheuol a’r Cwrt Palmantog, ac mae'r Border Blodau’n fôr o liw ac yn ennyn diddordeb trwy gydol yr haf.
Daw’r Ardd Goed yn goedlan gysgodol o thawelwch a heddwch. Y llynedd gwnaethom ailagor dwy ran o'r Ardd Goed a orchfygwyd gan chwyn ymledol a bambŵ. Mae ’na bellach lannerch heddychlon gyda choed diddorol lle gallwch chi eistedd ac ymlacio. Yna dilynwch y llwybr troellog trwy ddôl yr Ardd Goed, a ddyluniwyd i igam-ogamu ymysg y tegeirianau gwyllt.
Mae'r gerddi'n lloches hafaidd i lawer o rywogaethau o adar gan gynnwys gwahanol fathau o wenoliaid. Mae llinosod gwyrddion hefyd wedi bod yn nythu yma am yr ychydig flynyddoedd diwethaf felly clustfeiniwch am eu cân. Mae Dyffryn hefyd yn hafan hafaidd i beillwyr ac mae ein gerddi’n cynnal mwy na 50 rhywogaeth o wenynen y gallwch ddod o hyd iddynt yn chwilota yn y gwelyau a’r borderi o amgylch yr ardd.
Yn hwyrach yn yr haf bydd ein Dahlias enwog yn blodeuo, ynghyd â’r arddangosfeydd lili sinsir ac amrywiaeth o blanhigion yng Ngerddi’r Gerddi a'r Ardd Egsotig.
Dyma'n pumed flwyddyn o dyfu ein dwy 'ddôl fach' ar y Lawnt Fawr, y naill ochr i'r gamlas ganolog. Ar ôl chwyrlïau Edwardaidd y llynedd (wedi'u hysbrydoli gan fanylion ffasâd y tŷ, a oedd newydd ei adfer), bydd y ddôl eleni ar ffurf pelydrau’r haul, yn saethu allan o'r deial haul canolog.
Rydym yn tyfu'r dolydd i gynyddu ein hamrywiaeth o beillwyr a phryfed yn ogystal â chyfyngu ar gywasgiad Lawnt y De fel y gall capiau cwyr ffynnu yn yr hydref. Mae'r cynnydd mewn peillwyr a phryfed wedyn yn denu ysglyfaethwyr fel gweision neidr. Mae'r gweision neidr yn chwarae gyda'r mursennod uwchben y nodweddion dŵr, sy’n gartref i lilis dŵr a phlanhigion dyfrol eraill, ac mae eu harddangosfeydd cyflym yn fendigedig. Mae gennym hefyd nifer o ardaloedd eraill o ddôl a sefydlwyd yn 2019 - mae gennym bellach degeirianau gwenynog (sef rhywogaeth hardd o degeirian gwyllt) yn ffynnu yn ein dolydd, gan flodeuo ym mis Mai a Mehefin.
Dysgwch fwy am y gerddi diddorol hyn gyda sgyrsiau a theithiau am ddim, a gynhelir gan wirfoddolwyr, ar ddyddiau penodol o'r wythnos.
Mae'r sgyrsiau cyflwyniadol 15 munud hyn yn rhoi trosolwg cyflym i chi o hanes y teulu Cory, yr ystâd, y gerddi, a sut rydyn ni'n gofalu am y lle arbennig hwn. Maen nhw’n cael eu cynnal ar ddydd Llun a dydd Mercher am 11.30am, 12pm, 1pm, 1.30pm a 2pm.
Mae'r teithiau 45 munud hyn yn ymweld â saith lleoliad allweddol o amgylch y tŷ a'r gerddi. Mae llwybrau hygyrch ar gael felly holwch ar ddechrau'r daith a bydd ein tywyswyr gwirfoddol yn addasu'r daith yn ôl yr angen. Maen nhw’n digwydd ar ddydd Sadwrn am 11.30am ac 1pm.
Cofiwch fod sgyrsiau a theithiau yn dibynnu ar wirfoddolwyr, ac mae angen i ymwelwyr gadarnhau eu bod nhw’n digwydd gyda'r Tîm Croeso ar y dydd. Does dim angen archebu.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Trefnwch eich ymweliad â Dyffryn a lawrlwytho map yr ardd
Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.