Skip to content
Datganiad i'r wasg

Glasbren Sycamore Gap cyntaf (‘Coeden Obaith’) i’w blannu yng Nghymru yn gwreiddio yng Nghaerdydd

A close up of a tag attached to a tree sapling. The tag is black with white writing that says, 'Rhiwbina Primary School, A Tree of Hope grown from the felled Sycamore Gap tree.'
‘Coeden Obaith’ | © National Trust

Ddydd Llun yr wythnos hon, 24 Tachwedd, yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, gwreiddiodd y glasbren Sycamore Gap cyntaf i’w blannu yng Nghymru yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd.

Wedi’i dyfu fel rhan o fenter ‘Coed Gobaith’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r glasbren yn un o 49 a roddwyd i unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled y DU gan yr Ymddiriedolaeth.

Bydd y coed yn tyfu i greu gwaddol i’r goeden Sycamore Gap, a safodd ger Mur Hadrian yn Northumberland am dro 120 o flynyddoedd cyn iddi gael ei thorri’n anghyfreithlon yn 2023.

Derbyniwyd bron i 500 o geisiadau o bob cwr o’r DU am y 49 glasbren – mae pob coeden yn cynrychioli un droedfedd o uchder y goeden pan gafodd ei thorri’n anghyfreithlon.

Yn ystod digwyddiad arbennig yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina, plannwyd y glasbren gan ddisgyblion a staff, yn cynnwys cyn-ddisgyblion Blwyddyn 6 a wnaeth y cais yn wreiddiol am un o’r coed pan lansiwyd y fenter fis Medi diwethaf. Nododd cais llwyddiannus y disgyblion sut y defnyddiwyd stori Coeden Sycamore Gap fel ysbrydoliaeth i ddysgu am bwysigrwydd coed yn ein byd.

Dywedodd Carys, disgybl ysgol 11 oed: “Fe wnaethom weithio’n galed iawn ar ein cais oherwydd ein bod am roi cartref i’r glasbren Sycamore Gap lle gallai dyfu’n ddiogel. I ni, nid dim ond coeden ydyw - mae’n arwydd y gall gobaith dyfu’n ôl, hyd yn oed ar ôl colli rhywbeth. Mae’n gyffrous meddwl y gallai sefyll cyn daled a balch â’r goeden wreiddiol un diwrnod a phan fydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei gweld byddwn yn gallu dweud ein bod wedi helpu i blannu ei gwreiddiau yma yn Rhiwbeina.”

Ychwanegodd Oliver, 11 oed:, “Roeddem wedi dychryn pan glywsom y newyddion bod y Goeden Sycamore Gap wedi’i thorri a doedden ni ddim yn gallu credu ein bod wedi ennill y gystadleuaeth i dderbyn glasbren. Rydym wir yn gyffrous i fod yn rhan o’r dathliadau heddiw”.

Tyfwyd y 49 glasbren, sydd bellach rhwng 4 a 6 troedfedd o daldra, o hadau o’r goeden a dorrwyd ac maent wedi cael eu meithrin yn ofalus yng Nghanolfan Cadwraeth Planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ychwanegodd y Pennaeth, Carol Harry: “Rwy’n falch iawn o fy nisgyblion ac athrawon Blwyddyn 6 a welodd gyfle i fod yn Warcheidwaid y Blaned. Rydym wrth ein bodd fel ysgol i ddod â gwaddol y Goeden Sycamore Gap i Gymru a’n cymuned yn Rhiwbeina”.

Hefyd yn bresennol yn y plannu roedd Lizzie Smith Jones o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a ddywedodd: “Mae’n faint mynychu plannu cyntaf ‘Coed Gobaith’ yng Nghymru. Mae gallu cadw stori’r Sycamore Gap yn fyw ym mhob cwr o’r DU ac mewn cynifer o wahanol leoliadau yn deyrnged addas, a gobeithio, yn union fel y goeden wreiddiol, y bydd y glasbren hwn yn cyffwrdd â bywydau llawer o bobl.”

Yn ddiweddarach yn y gaeaf, bydd dau dderbyniwr ‘Coed Gobaith’ arall yng Nghymru, Coleg Gŵyr Abertawe ac Ymgyrch Better Life yng Nghaerdydd yn plannu eu glasbrennau. Yn y cyfamser, bydd tri glasbren arall yn cael eu plannu ym mhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod ble mae’r holl 49 glasbren ‘Coed Gobaith’ yn cael eu plannu, ewch i www.nationaltrust.org.uk/saplings.