Skip to content
Datganiad i'r wasg

Gofalu am y gwenyn – wrth drwsio un o dai hanesyddol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, gwarchodwyd 50,000 o breswylwyr anarferol

Gwenynwyr yn ailgartrefu gwenyn yn ofalus o do Plas yn Rhiw
Gwenynwyr yn ailgartrefu gwenyn yn ofalus o do Plas yn Rhiw | © National Trust Images/Iolo Penri

Am y tro cyntaf ers 200 mlynedd, mae grwnan y gwenyn yn un o dai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngwynedd, Gogledd Cymru wedi tawelu, gan fod gwenyn gwyllt prin a oedd yn byw yn nho’r tŷ wedi cael eu symud i gartref newydd tra bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dechrau ar brosiect i aildoi Plas yn Rhiw. Credir mai dyma’r tro cyntaf i waith o’r fath gael ei wneud yno ers mwy na 200 mlynedd. Ond rhywbeth a gymhlethodd rywfaint ar y gwaith oedd dod o hyd i gartrefi dros dro newydd i’r gwenyn.

Roedd pum haid – cyfanswm o oddeutu 50,000 o wenyn mêl duon Cymreig – yn byw yn nho’r adeilad. Y gred oedd bod gwenyn mêl duon wedi diflannu o ogledd Prydain, ac eithrio’r ardaloedd mwyaf anghysbell, ond cawsant eu hailddarganfod yn 2012, yn cynnwys yng ngogledd Cymru. Bu modd i SwarmCatcher, sy’n arbenigo mewn symud ac ail-leoli gwenyn, eu casglu a’u symud i gychod gwenyn gerllaw.

Maenordy hardd â gardd addurnol a leolir ym Mhen Llŷn yw Plas yn Rhiw. Cafodd ei achub rhag esgeulustod a’i adfer yn ofalus gan dair chwaer, sef Eileen, Lorna a Honora Keating ar ôl iddynt ei brynu ym 1938.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd y chwiorydd roi’r tŷ dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar yr amod y byddai’r gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod. Yng ngeiriau’r chwiorydd: “Ein dymuniad taer yw na ddylid tarfu ar y gwenyn gwyllt. Gofynnir i’r holl feddianwyr ymatal rhag defnyddio paratoadau a chwistrellau gwenwynig i reoli plâu a gofynnir iddynt geisio cyngor ynglŷn â dulliau diberygl.”

Er bod Plas yn Rhiw yn gorwedd yn ei ficro-hinsawdd ei hun ym Mhen Llŷn sydd, yn gyffredinol, yn fwynach, yr her fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf yw gwyntoedd cryfion a glaw trwm. Dros y 200 mlynedd diwethaf, gofalwyd am y to a chafodd rhannau bach ohono eu trwsio; ond mae’r tywydd garw a gafwyd yn ddiweddar wedi peri iddo ddirywio, ac o’r herwydd mae angen gosod to newydd. Bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul adran, a pha bryd bynnag y bo modd bydd yr hen lechi’n cael eu hailddefnyddio. Hefyd, byddwn yn defnyddio mwy na 4,000 o lechi Cymreig o Chwarel y Penrhyn.

Medd Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo ym Mhlas yn Rhiw: “Gwyddom fod y chwiorydd Keating yn hoff iawn o natur a bywyd gwyllt, oherwydd fe wnaethon nhw ymgyrchu’n ddiflino i amddiffyn yr amgylchedd ac roedden nhw’n gefnogwyr pybyr i’r Cyngor Diogelu Cymru Wledig.

“Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt. Pan aeth y chwiorydd Keating ati i adfer y tŷ, does ryfedd eu bod wedi’i wneud yn gartref i fywyd gwyllt yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain. Ochr yn ochr â’r cwningod yn yr ardd a’r moch daear yn y coetir, estynnwyd croeso i’r gwenyn yn y to, ac mae’r un peth yn dal i fod yn wir heddiw – hyd yn oed pan fydd mêl yn diferu o dro i dro trwy’r craciau yn y waliau yn ystod yr haf!

“Pleser yw gallu symud y pum haid yn ddiogel i gychod gwenyn gerllaw tra byddwn yn mynd i’r afael â’r gwaith toi.”

Mae hi’n anarferol dod o hyd i wenyn mewn toeau ac mae hi’n fwy arferol gorfod gwneud darpariaethau ar gyfer ystlumod pan fydd hen dai yn cael eu toi. Mae Plas yn Rhiw yn gartref i ystlumod lleiaf, ystlumod lleiaf uchelsain ac ystlumod barfog/Brandt, a chaiff y rhain hefyd eu gwarchod yn ystod y prosiect aildoi. Yn ychwanegol at sicrhau mynediad i’r ystlumod sy’n clwydo yn y to, bydd bylchau bach o amgylch y bargodion ac o dan y llechi ar ymylon yr adeilad yn cael eu hychwanegu’n ofalus, er mwyn i’r gwenyn allu dychwelyd i’w hen gartref. Yna, yn ddiweddarach yn y gwanwyn, bydd y gwenynwyr yn dod â’r cychod gwenyn yn ôl i berllan Plas yn Rhiw, gan alluogi’r gwenyn i ddod o hyd i’w ffordd yn ôl i’w hen gartref.

Mae’r tŷ i’w olrhain i’r ail ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y to presennol ym 1820 pan aeth y Capten Lewis Moore Bennet ati i ailwampio ac ymestyn yr eiddo o ddau lawr i dri.

Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, bydd y to dwrglos newydd yn peri i’r tŷ fod yn fwy effeithlon o ran ynni, bydd yn lleihau’r perygl y gall lleithder effeithio ar y casgliadau a bydd yn lleihau’r angen i baentio a phapuro’r ystafelloedd a ddioddefai waethaf oherwydd yr hen do diffygiol.

Medd Mary Thomas: “Bu modd gwneud y gwaith yn sgil gwaddol y chwiorydd Keating. Er eu bod wedi marw, maen nhw’n dal i ofalu am y tŷ.

“Hefyd, rydym yn ddiolchgar i bawb a ymwelodd â’r tŷ dros yr haf ac a gyfrannodd at lofnodi llechen. Llwyddwyd i godi £625, a bydd yr holl arian yn cael ei wario ar waith cadwraeth ym Mhlas yn Rhiw.”

Bydd yr ardd a’r parcdir yn ailagor ar 20 Mawrth. Bydd y tŷ’n parhau i fod ar gau hyd nes y daw’r gwaith cadwraeth i ben.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae hambwrdd brecwast, tebot a chwpanau ar fwrdd pren y gegin. Mae lle tân carreg a stôf ynddo, ac mae hors ddillad yn sefyll o’i flaen.
Erthygl
Erthygl

Hanes Plas yn Rhiw 

Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.

Offer ymolchi gan gynnwys hufen dwylo ac eau de cologne Yardley, yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw 

Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, yng nghanol asaleas llachar a dail newydd y gwrychoedd pren bocs, yng Ngwynedd, Cymru.
Lle
Lle

Plas yn Rhiw 

Maenordy hyfryd gyda gardd addurniadol a golygfeydd bendigedig.

Pwllheli, Gwynedd

Yn rhannol agored heddiw