Skip to content

Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw

Offer ymolchi gan gynnwys hufen dwylo ac eau de cologne Yardley, yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.
Hufen dwylo ac eau de cologne Yardley yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw. | © National Trust Images/Robert Morris

Bu nifer o denantiaid ym Mhlas yn Rhiw ar hyd y blynyddoedd, y cyfan yn gadael eu hôl ar y tŷ trawiadol o’r 19eg ganrif yng Ngwynedd. Dysgwch pa drysorau a adawyd ar ôl a sut y gwnaeth y chwiorydd Keating ei droi yn gartref.

Wedi ei ysbrydoli gan Syr Clough Williams-Ellis

Pensaer o Gymru oedd Syr Clough Williams-Ellis a fo wnaeth greu’r pentref Eidalaidd ym Mhortmeirion, ac roedd yn ffrind agos i’r chwiorydd Keating, Eileen, Lorna, a Honora, a gafodd y tŷ yn 1939.

Pan fydd ymwelwyr yn dod i mewn i Blas yn Rhiw, fe fyddant yn sylwi ar lawr llechi gwyrdd trawiadol a drws Gothig hardd, Syr Clough ddaeth â’r ddau i’r tŷ. Fo hefyd ddaeth â’r colofnau derw sy’n cynnal y bwâu plaster neo-Sioraidd.

Prif nodweddion i’w gweld yn y tŷ

Achubwyd y tŷ ym Mhlas yn Rhiw rhag esgeulustod a’i adfer yn ofalus gan dair chwaer o’r teulu Keating. Dyma rai o’r rhannau gorau i ymwelwyr eu mwynhau.  

Y parlwr

Roedd y chwiorydd Keating yn mwynhau eistedd yn y parlwr yn gwrando ar recordiau ar eu Grafonola Columbia, yr oedd yn rhaid ei weindio, ac yn aml byddent yn gwahodd ffrindiau fel Syr Clough draw.

Yma roedd ganddynt amrywiaeth o ddodrefn a chasgliadau i weddu i bob chwaeth ar y pryd. Daeth eu dodrefn gorau, fel y secretaire o gyfnod y Rhaglawiaeth a’r gist ddroriau dderw o’r 17eg ganrif, o Nottingham lle’r oedd y chwiorydd yn byw’n wreiddiol.

Byddai’r chwiorydd Keating yn arddangos eu casgliad o jygiau lystar a thebotau ar eu dodrefn, ynghyd â’r lle tân oedd â’i bopty bara a chynheswr platiau ei hun.

Fasau o Fienna o ddiwedd yr 19eg ganrif ar y bwrdd bach yn y Cyntedd ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.
Fasau o Fienna o ddiwedd yr 19eg ganrif yn y Cyntedd ym Mhlas yn Rhiw. | © National Trust Images/Robert Morris

Cegin newydd

Ychwanegwyd adain ogleddol y gegin yng nghanol y 19eg ganrif gan y teulu Lewis. Pan gafodd y chwiorydd Keating y tŷ, roeddent yn ei ddefnyddio fel mwy o ystafell waith, gyda sinc lechen a stôf baraffin Valor, er nad oedd gan Blas yn Rhiw drydan – hyd yn oed erbyn yr 20fed ganrif.

Grisiau troellog

Dros y blynyddoedd bu llawer o drafod lleoliad y grisiau trwy’r tŷ, o’r teulu Lewis i’r teulu Roberts i’r chwiorydd Keating.

Erbyn hyn mae’r grisiau yng nghanol y cartref, gyda’r darn isaf o garreg a’r darn uchaf o dderw. Y rheswm am hyn yw bod lleithder wedi pydru gwaelod y grisiau, a bu’n rhaid i Syr Clough eu hailadeiladu.

Roedd y grisiau blaenorol yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 17eg ganrif pan adeiladwyd y tŷ gwreiddiol. Caewyd y rhain yn yr 1820au pan luniwyd y grisiau newydd.

Cwpwrdd meddyginiaethau

Roedd gan y chwiorydd Keating gwpwrdd meddyginiaethau gyda stoc dda iawn oedd yn cynnwys amrywiaeth o dabledi, eli a diferion i drin yr amrywiaeth o gyflyrau yr oeddent yn dioddef ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Roedd hefyd yn cynnwys cynheswr bwyd o ddechrau’r 1900au, y gallai Honora fod wedi ei ddefnyddio yn ystod ei gyrfa yn nyrs. 

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, yng nghanol asaleas llachar a dail newydd y gwrychoedd pren bocs, yng Ngwynedd, Cymru.

Darganfyddwch fwy ym Mhlas yn Rhiw

Dysgwch pryd mae Plas yn Rhiw ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Eirlysiau yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.

Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae hambwrdd brecwast, tebot a chwpanau ar fwrdd pren y gegin. Mae lle tân carreg a stôf ynddo, ac mae hors ddillad yn sefyll o’i flaen.
Erthygl
Erthygl

Hanes Plas yn Rhiw 

Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.

Plant yn rhedeg yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru

Hanner tymor Mai ym Mhlas y Rhiw 

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad BioBlitz - i'n helpu cofnodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib. Mae amserlen lawn o weithgareddau wedi'u cynllunio gydag amrywiaeth o arbenigwyr bywyd gwyllt.

Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci 

Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.

Y berllan a blannwyd mewn gweirglodd uwch ben y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw 

Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.

Y berllan a blannwyd mewn gweirglodd uwch ben y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw 

Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.