Skip to content
Datganiad i'r wasg

Mae pobl a natur yn ffynnu yng Nghastell y Waun diolch i’r gwaith o greu’r Ddôl Ofalgar

Meinciau gordorwedd pren yn Nôl Ofalgar Castell y Waun
Meinciau gordorwedd pren yn Nôl Ofalgar Castell y Waun | © National Trust Images Paul Harris

Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.

Dros y 12 mis diwethaf mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau lleol megis Cadwyn Clwyd, NEWICS, Tîm Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Home Start Wrecsam, Mind Gogledd Ddwyrain Cymru, Rainbow Foundation, We Mind the Gap i ddylunio a chreu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun.

O blannu coed a hadau blodau gwyllt i adeiladu meinciau a chartrefi ar gyfer bywyd gwyllt, mae’r grwpiau wedi gweddnewid yr ardal yn ddôl lewyrchus lle gall pobl ymlacio a syllu ar Ddyffryn Ceiriog, dod o hyd i heddwch yn y gromen helyg, gwylio bywyd gwyllt yn suo o gwmpas y berllan a gwylio’r cymylau’n hwylio heibio.

Dywedodd Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghastell y Waun, Katie Rees-Jones;

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi creu’r lle hwn gyda’n gilydd, gan alluogi’r angerdd, gofal a chariad sydd gennym at fyd natur, wau drwy’r holl ddôl i bawb ei mwynhau.”

“Wrth greu’r ddôl cafwyd ysbrydoliaeth gan Octivia Hill, un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ddywedodd yn 1895:

‘Mae pawb angen lle, mae pawb angen heddwch, mae pawb angen harddwch, hebddo, ni allwn ddod o hyd i’r synnwyr o dawelwch lle mae’r sibrydion am bethau gwell i ddod yn ein cyrraedd.’

“Mae pawb yn cael cyfnod yn eu bywyd pan mae arnom angen clywed y sibrydion hyn. Wrth weithio â grwpiau cymunedol sy’n deall yr angen hwn, rydym wedi creu lle y gall pawb elwa ohono.”

“Mae’r ddôl ofalgar yn lle hardd y gall pobl a byd natur ffynnu am flynyddoedd i ddod.”

Cafodd y Ddôl Ofalgar ei chwblhau yng ngwanwyn 2023. Roedd y broses o greu’r lle bron cyn bwysiced â’r canlyniad, gan alluogi cyfranogwyr i fedi’r budd o gysylltiad ymarferol â byd natur a dysgu hefyd o fywyd go iawn fod pethau’n cymryd amser i flodeuo a ffynnu, sy’n adlewyrchiad o’r amser y gall llesiant ei gymryd.

Dywedodd Julie Done, Gwneuthurwr Cymunedau Gogledd Cymru i WeMindTheGap

“Mae’r Ddôl Ofalgar yng Nghastell y Waun yn adnodd gwych i ni gael ei ddefnyddio gyda’n pobl ifanc.

“Mae wedi bod o fudd i iechyd corfforol a meddyliol ein ‘gapwyr’ allu gwirfoddoli i helpu i greu’r lle bendigedig hwn. Mae wedi gwella eu synnwyr o berthyn i’w hardal leol ac mae wedi bod yn wych iddynt weld sut mae’r cyfan wedi tyfu a datblygu wrth i grwpiau gwahanol weithio gyda’i gilydd gyda synnwyr o bwrpas.”

“Yn ogystal, mae’n adnodd am ddim anhygoel i ni allu profi byd natur mewn grwpiau bach i helpu i leihau’r gorbryder a gwella llesiant y bobl ifanc a staff rydym yn gweithio â nhw.”

Daw grwpiau at ei gilydd i ddathlu’r Ddôl Ofalgar yng Nghastell y Waun
Daw grwpiau at ei gilydd i ddathlu’r Ddôl Ofalgar yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Lois Yorke

Nid dim ond pobl fydd yn elwa o’r prosiect hwn, ond byd natur hefyd. Mae’r ardal hon yn rhan o SoDdGA Castell y Waun, wedi ei ddynodi am ei infertebratau, ystlumod pedol lleiaf a ffyngau glaswelltir, sy’n golygu bod rhaid i unrhyw newid i’r dirwedd gael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Gweithiodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y ddôl gan sicrhau bod y dyluniad yn bodloni angen y gymuned, gan wella bioamrywiaeth gyffredinol yr ardal hefyd.

Dewiswyd rhywogaethau coed brodorol ar gyfer peillwyr a chymysgedd o hadau blodau gwyllt i hybu ffynonellau bwyd bywyd gwyllt. Addaswyd cymysgfa, lleoliad a hyd y gwrychoedd er mwyn i’r boblogaeth o ystlumod lleol elwa i’r eithaf ohonynt, drwy gynyddu eu hardal fwydo a chreu coridorau bywyd gwyllt.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Gall ein cysylltiad â byd natur, a’n perthynas ag o, chwarae rôl allweddol yn meithrin ein hiechyd a llesiant cyffredinol.”

“Nid yn unig cynorthwyo’r cyswllt hanfodol hwn fydd y prosiect Dôl Ofalgar, bydd y dylunio a’r gwelliannau a wnaed i’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol arbennig yn sicrhau bod y buddion yn ymestyn i’r nodweddion, y cynefinoedd a’r rhywogaethau a welir yma, gan gynorthwyo adferiad byd natur.”

“Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd ac yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan mae partneriaid yn dod ynghyd i greu newid.”

Mae’r defnydd o’r ddôl yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n chwilio am le tawelach ac ar gael i grwpiau ei defnyddio i ddarparu sesiynau, o gwnsela i tai chi, teithiau cerdded myfyriol a braslunio.

Datblygwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda chymorth hael Prosiect Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd sy’n cael ei ariannu gan yr UE a Rhaglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig a’i ddarparu mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Cara Roberts, Swyddog Cefnogi Cymunedau Gwyrdd Clwyd Alun;

“Mae wedi bod yn werth chweil gweithio ar y prosiect Dôl Ofalgar ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r gymuned leol, un o 42 prosiect Cymunedau gwyrdd llwyddiannus mae Cadwyn Clwyd wedi eu cyflawni a'u cynorthwyo yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r tîm Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd yn falch o weld effaith yr arian a gafwyd, ac i weld y prosiect yn datblygu’n ased gwerthfawr i’r gymuned leol a’r amgylchedd.”

“Ariennir prosiect Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd drwy Raglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

“Cefnogir y prosiect £1.3 miliwn hwn gan Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant, fydd yn darparu cymorth ariannol i brosiectau sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn iddynt gyflawni mentrau gwyrdd drwy groesawu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â chynorthwyo adfer Covid ar lefel gymunedol.”

You might also be interested in

Prosiect
Prosiect

Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun 

Mae Castell y Waun yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Cadwyn Clwyd i greu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gyfrannu at ei dyluniad a'i chreu.

Tu allan y castell gyda gerddi’r hydref yn y blaendir
Lle
Lle

Castell Y Waun a’r Ardd 

Castell canoloesol odidog Y Mers

Y Waun, Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw