Skip to content
Prosiect

Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun

Y Dolydd Dedwydd yng Nghastell y Waun
Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Harris

Mae Castell y Waun yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Cadwyn Clwyd i greu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gyfrannu at ei dyluniad a'i chreu.

Mae'r ddôl wedi'i lleoli ar stad Castell y Waun, yn agos at gegin yr ardd gyda golygfa wych i lawr Dyffryn Ceiriog. Bydd yn cynnwys cromen helyg, blodau gwyllt, seddi, gwrychoedd a pherllan fach - pob un wedi'i gynllunio i wella'r gofod ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.

Beth yw'r Ddôl Ofalgar?

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am leoedd arbennig sydd o fudd i’r genedl a’n gobaith yw bod y Ddôl Ofalgar yng Nghastell y Waun yn darparu lle i bobl gael seibiant o'u bywydau bob dydd pan fydd fwyaf ei angen arnynt. Er y gall unrhyw un fynd iddi’n rhad ac am ddim, gall grwpiau cymunedol lleol hefyd ei defnyddio i gyflwyno eu sesiynau, p’un a ydynt yn weithgareddau cwnsela, cefnogaeth neu lesiant.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau lleol megis Cadwyn Clwyd, NEWICS, Tîm Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Home Start Wrecsam, Mind Gogledd Ddwyrain Cymru, Rainbow Foundation, We Mind the Gap i ddylunio a chreu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun.

“Our lives are overcrowded, over excited and over strained. We all want quiet, we all want beauty, we all need space. Unless we have it, we cannot reach that sense of quiet where whispers of better things come to us gently.”

Dyfyniad gan Octavia Hill Co-founder of the National Trust

Dylunio dolydd

Mae'r ddôl ofalgar wedi'i chynllunio i ddarparu nifer o fannau ysbrydoledig a myfyriol, lle allwch gysylltu â natur ym mha bynnag ffordd sy'n gweddu orau i chi. O syllu i fyny Dyffryn Ceiriog i'r bryniau y tu draw, dod o hyd i heddwch yn y gromen helyg, arsylwi bywyd gwyllt sy’n fwrlwm o gwmpas y berllan a'r blodau gwyllt, i wylio'r cymylau'n arnofio heibio. Mae yna rywbeth at ddant bawb yma.

Yn ogystal, mae cyfranogwyr wedi bod yn gweithio gyda David Setter, artist lleol yn Sir y Fflint, i ddylunio strwythur polyn totem wedi'i ysbrydoli gan natur ac mae ei waith yn gyfuniad o ddarlunio a cherflunwaith metel. Mae David wrth ei fodd yn y cefn gwlad a maeddu ei ddwylo – canlyniad y gweithdai yw polyn totem syfrdanol sy'n arddangos darluniau a geiriau'r cyfranogwyr.

Buddion y ddôl

Cafodd y Ddôl Ofalgar ei chwblhau yng ngwanwyn 2023. Roedd y broses o greu’r lle bron cyn bwysiced â’r canlyniad, gan alluogi cyfranogwyr i fedi’r budd o gysylltiad ymarferol â byd natur a dysgu hefyd o fywyd go iawn fod pethau’n cymryd amser i flodeuo a ffynnu, sy’n adlewyrchiad o’r amser y gall llesiant ei gymryd.

Nid dim ond pobl fydd yn elwa o’r prosiect hwn, ond byd natur hefyd. Mae’r ardal hon yn rhan o SoDdGA Castell y Waun, wedi ei ddynodi am ei infertebratau, ystlumod pedol lleiaf a ffyngau glaswelltir, sy’n golygu bod rhaid i unrhyw newid i’r dirwedd gael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Gweithiodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y ddôl gan sicrhau bod y dyluniad yn bodloni angen y gymuned, gan wella bioamrywiaeth gyffredinol yr ardal hefyd.

Dewiswyd rhywogaethau coed brodorol ar gyfer peillwyr a chymysgedd o hadau blodau gwyllt i hybu ffynonellau bwyd bywyd gwyllt. Addaswyd cymysgfa, lleoliad a hyd y gwrychoedd er mwyn i’r boblogaeth o ystlumod lleol elwa i’r eithaf ohonynt, drwy gynyddu eu hardal fwydo a chreu coridorau bywyd gwyllt.

Mae’r defnydd o’r ddôl yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n chwilio am le tawelach ac ar gael i grwpiau ei defnyddio i ddarparu sesiynau, o gwnsela i tai chi, teithiau cerdded myfyriol a braslunio.

Datblygwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda chymorth hael Prosiect Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd sy’n cael ei ariannu gan yr UE a Rhaglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig a’i ddarparu mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gwneud y polyn totem

Drawings and words from the workshops
Drawings and words from the workshops | © Chirk Castle

Yr ysbrydoliaeth

Cynhaliodd David Setter weithdai gyda'n partneriaid cymunedol, Gofalwyr Ifanc NEWCIS a Mind Gogledd-ddwyrain Cymru, lle creodd y cyfranogwyr luniau a barddoniaeth am y modd y maent yn cysylltu â natur.

1 of 5

Gyda diolch i

  • NEWCIS
  • NEWCIS Young Carers
  • North East Wales Mind
  • Rainbow Foundation
  • We Mind The Gap
  • Chester National Trust Volunteers
  • HomeStart Wrexham
  • BCUHB Health Improvement Team

Am fwy o wybodaeth am y Ddôl Ofalgar a Lles yng Nghastell y Waun, cysylltwch â katie.rees-jones@nationaltrust.org.uk

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Exploring the estate at Chirk Castle 

Take a walk around Chirk's fascinating 480-acre parkland, and discover a working landscape full of ancient trees, wild flowers, birds and bugs.

Cyflwynydd mewn gwisg ganol oesol yn croesawu ymwelwyr i Gastell y Waun, Wrecsam, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Volunteer opportunities at Chirk Castle 

Join our great team of volunteers at Chirk Castle in Wales.

Teulu’n cyrraedd Castell y Waun
Erthygl
Erthygl

Family days out at Chirk Castle 

There's lots of fun to be had at Chirk Castle to keep little ones running, playing and learning no matter what time of year.

A group of elderly visitors smiling at Hidcote in Gloucestershire
Erthygl
Erthygl

Group and school visits to Chirk Castle 

Explore medieval history and more, with group and school visits to Chirk Castle in Wales.