O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth: Profiad ‘Gerddi Teithio Mewn Amser’ Newydd yn Lansio yng Nghastell y Waun
- Cyhoeddwyd:
- 26 Mai 2026

Gwahoddir ymwelwyr i Gastell y Waun ar daith anhygoel drwy filiynau o flynyddoedd o hanes yr hinsawdd gyda lansio gosodiad pop-yp newydd sbon, ‘Gerddi Teithio Mewn Amser: O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth’.
Wedi’i greu mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Stori Brymbo a Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, mae’r cyfan wedi’u lleoli yn Wrecsam, mae’r profiad gardd drochol wedi trawsnewid cowrt canolog y castell yn archwiliad byw o orffennol, presennol a dyfodol posib y Ddaear.
Gan agor ar ddydd Sadwrn 23ain o Fai fel rhan o Lwybr Treftadaeth newydd Wrecsam, mae’r gosodiad yn gwahodd ymwelwyr i adfyfyrio ar newid hinsawdd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd drwy wyddoniaeth, byd natur a dychymyg.
Bydd ymwelwyr i’r gerddi’n teithio drwy fwy na 314 miliwn o flynyddoedd o hanes a newid hinsawdd, gan archwilio gofodau sydd wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol, y presennol a’r dyfodol - o ffosiliau cynhanesyddol a phlanhigion llysieuol cyfoes i weledigaeth yn y dyfodol o gynnal bywyd ar y Blaned Mawrth - wrth adfyfyrio ar sut mae’r Ddaear wedi newid a sut allai’r newidiadau rydym ni’n eu gwneud heddiw lunio byd yfory.
Meddai Lizzie Champion, Rheolwr Cyffredinol Castell y Waun:
Mae “Gerddi Teithio Drwy Amser: O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth’ yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, gan ddwyn ynghyd sefydliadau ar draws bwrdeistref Wrecsam er mwyn archwilio stori ein hinsawdd sy’n newid drwy fyd natur, gwyddoniaeth a’r dychymyg.
“Drwy edrych ar y gorffennol, y presennol a’r dyfodol ochr yn ochr, rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn myfyrio ar yr heriau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu heddiw, a phwysigrwydd amddiffyn ein planed a’n tirweddau am genedlaethau i ddod.
“Fel rhan o Lwybr Treftadaeth Wrecsam, rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â chynifer o atyniadau anhygoel er mwyn dangos cyfoeth ac amrywiaeth Wrecsam. Roedd yn gyfle gwych i annog ymwelwyr i archwilio, cysylltu a darganfod mwy o’r hyn sydd gan y rhanbarth i’w gynnig, wrth ddathlu cydweithrediad ar draws diwylliant, treftadaeth a gwyddoniaeth.”
Mae’r ardd wedi’i rhannu’n dair adran gyda thema, pob un yn cynrychioli pwynt gwahanol mewn amser:
Y Gorffennol: Crëwyd yr adran mewn cydweithrediad gyda Stori Brymbo, atyniad treftadaeth sy’n cael ei arwain gan y gymuned sy’n agor ym mis Mehefin 2026 ac sy’n adrodd stori 300 miliwn blwydd oed yr ardal, o’i gwreiddiau yn y goedwig Garbonifferaidd drwy arloesi a dirywiad diwydiannol hyd y dydd heddiw.
Mae’n mynd ag ymwelwyr yn ôl i’r cyfnod Carbonifferaidd tua 314 miliwn o flynyddoedd yn ôl - ymhell cyn i’r dinasoriaid fod yn crwydro’r Ddaear. Mae ffosiliau go iawn o farchrawn, cnwpfwsoglau, a dail rhedyn a ddarganfuwyd yn ardal Brymbo wedi’u harddangos ymysg planhigion rhedyn iraidd, creigiau a gweision y neidr mawr, dramatig a wnaed o goed helyg, wedi’u hysbrydoli gan y pryfetach anferthol oedd unwaith yn byw yn ein coedwigoedd cynhanesyddol.
Y Presennol: Yn cynrychioli Castell y Waun ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, mae’r adran ganolog yn dathlu tirweddau a gerddi heddiw wrth dynnu sylw at y cydbwysedd bregus sy’n cynnal bywyd ar y Ddaear.
Drwy ardal blanhigion, glaswellt, ardaloedd eistedd a mainc cromen helyg, mae’n adlewyrchu dyluniad gardd ochr yn ochr â realiti newid hinsawdd cyflym sy’n cael ei yrru gan allyriadau nwy a datgoedwigo. Mae hefyd yn arddangos gwaith cadwraeth ar draws Castell y Waun a thu hwnt, gan gynnwys plannu dolydd a choed ac adfer cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau a warchodir, a’r cyfan yn cyfrannu at ymdrechion i adfer byd natur ac amddiffyn dyfodol y blaned.
Y Dyfodol: Crëwyd yr adran olaf mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! sef canolfan darganfod gwyddoniaeth ymarferol sydd yng nghanol Wrecsam, ac mae’n dathlu agor ei phlanetariwm newydd, lle gall ymwelwyr deithio drwy’r system solar, darganfod cytserau syfrdanol a datgelu dirgelion y bydysawd.
Mae adran ddyfodolaidd yr ardd yn gofyn beth sy’n digwydd nesaf - a allai ‘Croeso i Fywyd ar y Blaned Mawrth?” ddod yn realiti os yw’r Ddaear yn dod yn fwy anodd byw arni? Gyda cherrig camu planedau a wal hydroponeg, mae’n annog ymwelwyr i ystyried sut allai bodau dynol fod yn addasu i fywyd y tu hwnt i’r Ddaear. Mae’n tynnu sylw at yr amgylchiadau garw ar blanedau eraill, ac yn gweithredu fel rhybudd o’r hyn allai’r Ddaear ei hun ddod os yw newid hinsawdd yn parhau.
Llwybr treftadaeth newydd Wrecsam
Mae’r gosodiad wedi’i ddatblygu yn rhan o’r Llwybr Treftadaeth Dyma Wrecsam, menter gydweithredol sy’n cael ei harwain gan rai o atyniadau mwyaf poblogaidd a nodedig Wrecsam.
Cafodd y llwybr sy’n gyfeillgar i deuluoedd ei agor yn swyddogol ar 1 Mai, ac mae’n annog preswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd i ddarganfod cymysgedd cyfoethog o dreftadaeth, diwylliant a gwyddoniaeth mewn 8 atyniad ar draws bwrdeistref sirol Wrecsam.
Mae’r safleoedd sy’n cyfrannu yn cynnwys Castell y Waun a’r Ardd, Neuadd Erddig a’r Ardd, Stori Brymbo, Prosiect Glowyr Wrecsam, Amgueddfa Pêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, Eglwys St Giles, Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a Dyfrffordd Pontcysyllte a’r Ganolfan Ymwelwyr. Hefyd yn gynwysedig yn y llwybr mae Tŷ Pawb, marchnadoedd hwb celfyddydau a chymunedol arobryn a chartref Canolfan Wybodaeth y ddinas.
Gyda mapiau ar gael ar draws y safleoedd oedd yn cyfranogi, yng Nghanolfan Wybodaeth Wrecsam, ac ar-lein, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gasglu sticeri ym mhob atyniad wrth iddynt archwilio’r llwybr ac ymgysylltu gyda phrofiadau rhyngweithiol ar hyd y ffordd.
Meddai Kate Williams, Swyddog Datblygu Busnes Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!:
“Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Wedi bod yn rhan o wneuthuriad Wrecsam am dros 20 mlynedd, gan ysbrydoli teuluoedd ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Mae gweithio mewn partneriaeth fel rhan o Lwybr Treftadaeth Wrecsam wedi galluogi i ni greu profiad ymwelwyr mwy cyfoethog sy’n arddangos Wrecsam fel cyrchfan ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am rywbeth unigryw a chofiadwy.
“Mae ein partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy’r prosiect Gerddi Teithio mewn Amser yn enghraifft wych o sut y gall cydweithredu greu rhywbeth sy’n llawer mwy nag ef ei hun.
Mae wedi bod yn anrhydedd fawr i weithio gyda’r tîm, yng Nghastell y Waun, ochr yn ochr â’r tîm yn Stori Brymbo, er mwyn helpu i ddod â’r arddangosiad yma a rennir yn fyw. Mae archwilio themâu amser, newid hinsawdd a’r posibilrwydd o fywyd ar blanedau eraill wedi bod yn gyffrous ac yn ysbrydoledig, a gobeithiwn y bydd ymwelwyr o bob oed yn mwynhau darganfod y cysylltiadau hynny drostynt eu hunain.”
Dywedodd Nicola Sawford, Prif Weithredwr yn Stori Brymbo:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle anhygoel ac yn ffordd arloesol o gysylltu gorffennol, presennol a dyfodol Wrecsam drwy gydweithredu 3 o Atyniadau Ymwelwyr gwahanol iawn yn Wrecsam.
"Rydym yn edrych ymlaen yn arw at roi cipolwg i ymwelwyr ar sut y byddai’r byd wedi edrych yn Wrecsam 314 miliwn o flynyddol yn ôl, yn ogystal ag arddangosfa ryfeddol o’n byd heddiw a’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol ar draws y Gerddi Teithio Drwy Amser.
“Mae’r bartneriaeth rhwng Stori Brymbo, Xplore!, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dod â nodwedd anhygoel i leoliad sydd eisoes yn hardd, a dyma rywbeth rydym yn falch iawn ein bod wedi bod yn rhan ohono yn y cyfnod cyn agor ein safle ddiwedd mis Mehefin. Mae’n rhagflas o’r goedwig ffosil anhygoel rydym wedi ei darganfod ac yn edrych ymlaen at ei rhannu gyda’r cyhoedd!"
Mae “Gerddi Teithio Drwy Amser: O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth’ ar agor drwy gydol 2026.
Codir tâl mynediad arferol ar gyfer yr holl atyniadau sy’n cymryd rhan yn y ‘Llwybr Treftadaeth Dyma Wrecsam’.