Skip to content
Datganiad i'r wasg

Portreadau o’r teulu Myddelton yn dychwelyd i Gastell y Waun ac yn cael eu harddangos am y tro cyntaf

Caroline Allfrey, wyres i'r Fonesig Margaret Myddelton a welir yn y portread
Caroline Allfrey, wyres i'r Fonesig Margaret Myddelton a welir yn y portread | © ©National Trust Images/Ian Cooper

Bydd portread trawiadol o’r Fonesig Margaret Myddelton a phortread o Robert Myddelton-Biddulph, a gadwyd yng Nghastell y Waun yn y gorffennol, yn cael eu harddangos am y tro cyntaf. Rhoddwyd y portreadau hyn yn anrheg gan y ddiweddar Fonesig Aird, merch y Fonesig Margaret Myddelton.

Mae Castell y Waun yn un o blith nifer o gestyll ar y gororau a adeiladwyd yn niwedd y drydedd ganrif ar ddeg i gynnal goruchafiaeth Edward I yng Nghymru a darostwng y Cymry. Bu pobl yn byw’n ddi-dor yn y castell canoloesol hwn o’r cychwyn cyntaf – am gyfnod o dros 700 mlynedd – ac mae’r naill berchennog ar ôl y llall wedi’i drawsnewid yn raddol o fod yn gadarnle milwrol hollbwysig i fod yn blasty cyfforddus.

Bu’r teulu Myddelton yn berchen ar Gastell y Waun, ac yn byw yno, ers diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Dyma gyfnod pwysig yn hanes y castell, ac ers hynny mae casgliad enfawr o baentiadau, dodrefn a chywreinbethau wedi tyfu.

O 14 Gorffennaf, bydd portreadau a luniwyd o ddau aelod o’r teulu Myddelton yn cael eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf: y Fonesig Margaret Myddelton, a fu’n byw yn fwyaf diweddar yn y castell rhwng 1946 a 2003; a Robert Myddelton-Biddulph, a fu’n byw yn y castell rhwng 1801 a 1814. Mae arwyddocâd mawr yn perthyn i’r paentiadau hyn: maent yn portreadu dau o breswylwyr y castell, a hyd yn hyd nid yw eu portreadau wedi cael eu harddangos yn ystafelloedd swyddogol y castell o gwbl.

Rhoddwyd y portreadau’n anrheg i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn 2021 gan y Fonesig Aird (1934-2023), sef merch y Fonesig Margaret Myddelton, a’i theulu. Yn y gorffennol, bu’r portreadau’n hongian yn anheddau preifat y teulu yng Nghastell y Waun, ac yn fwy diweddar cawsant eu harddangos yng nghartref y Fonesig Aird. Mewn fideo sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa, mae merch y Fonesig Aird yn esbonio pam y penderfynodd y teulu ddychwelyd y portreadau i’r castell.

Trwy arddangos y portreadau i’r cyhoedd, yn awr gall ymwelwyr ddysgu stori bwysig y Fonesig Margaret Myddelton – cymeriad hollbwysig yn hanes Castell y Waun. Ym 1931, priododd y Fonesig â’r Cyrnol Ririd Myddelton, ac ym 1946 symudodd y ddau i Gastell y Waun. Gweithiodd y pâr yn ddiflino i adfer y castell, y gerddi a’r ystad. Bu’r Fonesig Margaret yn hollbwysig yn y trafodaethau a alluogodd yr Ymddiriedolaeth i gaffael Castell y Waun, gan ei achub er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Cafodd y portread ysblennydd o’r Fonesig Margaret ei baentio ym 1931 ar ei phen-blwydd yn 21 oed. Deellir mai ei llystad a gomisiynodd y portread gan beintiwr portreadau mwyaf blaenllaw yr ugeinfed ganrif, sef Glyn Philpot. Mae’n darlunio’r Fonesig Margaret yn ysblander ei gwisg debutante.

Mae John Chu, Uwch-guradur Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn disgrifio’r portread fel “fflach o liw, gyda phinc golau, shiffon gwyrddlas a ffrog sidan wen hardd”. Mae hefyd yn canmol techneg ysbrydoledig Philpot wrth baentio’r diemyntau yn ei chlustlysau, a grëwyd trwy ddefnyddio paent olew.

Mae’r portread yn darlunio Robert Myddelton-Biddulph, a gymerodd yr enw ar ôl ei briodas â Charlotte Myddelton ym 1801. Mae’n dyddio i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i priodolir i Syr William Beechey, sef peintiwr portreadau swyddogol ar gyfer sawl aelod o’r teulu brenhinol. Darlunnir Robert yn y tu blaen gyda “llygaid caredig” yn ôl disgrifiad Caroline Allfrey, wyres y Fonesig Margaret. Yn y cefndir, mae darlun o Gastell y Waun yn cadarnhau cysylltiad Robert â’i deulu newydd ac fe’i crëwyd trwy ddefnyddio strociau brwsh gweladwy a phaent tew i gyfleu tirlun stormus Cymru.

Medd Karen George, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau Castell y Waun: “Mae’r portreadau hyn yn ychwanegiadau prin a phwysig at ein casgliad. Rydym wrth ein bodd eu bod wedi dod gartref a bod modd inni rannu’r darlun hudol hwn o’r Fonesig Margaret gyda’n hymwelwyr.”

Bydd y portreadau’n cael eu harddangos o ddydd Gwener 14 Gorffennaf yn ystafell fwyta’r castell – ystafell a gynlluniwyd gan y Fonesig Margaret – ochr yn ochr â fideo lle gwelir cyfweliad â Caroline Allfrey, wyres y Fonesig Margaret.

Curadur, Dominic Chennell a’r Uwch Guradur Cenedlaethol, John Chu gyda’r portread o’r Fonesig Margaret Myddelton
Curadur, Dominic Chennell a’r Uwch Guradur Cenedlaethol, John Chu gyda’r portread o’r Fonesig Margaret Myddelton | © ©National Trust Images/Ian Cooper

You might also be interested in

Golygfa o’r castell o gyfeiriad yr ardd yn y gwanwyn
Lle
Lle

Castell a Gardd y Waun 

Magnificent medieval fortress of the Welsh Marches | Castell canoloesol odidog Y Mers

Chirk, Wrexham

Yn hollol agored heddiw
Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.
Erthygl
Erthygl

Casgliad Castell y Waun 

Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.