Skip to content
Datganiad i'r wasg

Rhoi glasbrennau Sycamore Gap, ‘Coed Gobaith’ yn anrhegion i bobl yng Nghymru

Grŵp o fyfyrwyr coleg a staff yn yr Hwb Gwyrdd, Coleg Gwyr, Abertawe
Grŵp o fyfyrwyr coleg a staff yn yr Hwb Gwyrdd, Coleg Gwyr, Abertawe | © Gower College Swansea / Adrian White

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi'r chwech lleoliad yng Nghymru a fydd yn derbyn glasbrennau ‘Coed Gobaith’ Sycamore Gap. Cyhoeddwyd y datgeliad pwysig yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden (23 Tachwedd i 1 Rhagfyr 2024).

Gwahoddodd yr elusen gadwraeth geisiadau am un o’r glasbrennau a dyfwyd o hadyn i nodi blwyddyn ers torri'r goeden boblogaidd, a ddigwyddodd ar 27 Medi 2023 ar Fur Hadrian yn Northumberland. Derbyniwyd bron i 500 o geisiadau o bob cwr o’r DU am y 49 glasbren – mae pob coeden yn cynrychioli un droedfedd o uchder y goeden pan gafodd ei thorri’n anghyfreithlon.

Mae'r holl gartrefi newydd ar gyfer y glasbrennau yn lleoedd hygyrch i'r cyhoedd, gan alluogi nifer o bobl i deimlo’n rhan o etifeddiaeth eiconig coeden Sycamore Gap. Mae’r derbynwyr yng Nghymru yn cynnwys Coleg Gŵyr Abertawe, Ymgyrch Better Life yng Nghaerdydd, Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd a’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru; Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro. Ar hyn o bryd mae’r glasbrennau yn cael eu gofalu gan Ganolfan Cadwraeth Planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dylent fod yn ddigon cryf a chadarn i’w plannu yn ystod gaeaf 2025/26.

Sycamore Tree in a dip in Hadrian's Wall
Golygfa o'r goeden Sycamorwydden wrth Mur Hadrian, Swydd Efrog, cyn iddi gael ei chwtogi'n anghyfreithlon | © National Trust Images/John Millar

Dywedodd Andrew Poad, Rheolwr Cyffredinol Mur Hadrian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Roedd pob un o’r ceisiadau ar gyfer ‘Coed Gobaith’ yn adrodd straeon twymgalon cysylltiadau emosiynol pobl â’r goeden Sycamore Gap a phwysigrwydd natur. Gwnaethant drafod colled, gobaith ac adfywiad ym mhob cwr o'r DU, o’r trefi, yr ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol, ysbytai a hosbisau, mae darllen y cyfan wedi bod yn fraint.

Yn Abertawe, bydd adran Tirlunio ac Adeiladu Eco Coleg y Gŵyr, yn plannu eu glasbren Sycamore Gap yn ei Hwb Gwyrdd, a gafodd ei lansio yn gynharach eleni i ddarparu man awyr agored penodol i fyfyrwyr i ddysgu ac ymlacio, gyda phwll, twnnel polythen a pherllan a gardd gegin wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd y glasbren yn cael gofal gan Grŵp Ysgolion a Chlwb Amgylcheddol y Coleg. Bydd ysgolion a grwpiau iau hefyd yn cael gwahoddiad i ymweld â’r goeden a dysgu o’i stori fel yr adroddir gan y myfyrwyr yn y Coleg.

Mae tîm Tirlunio ac Adeiladu Eco Coleg Gŵyr yn darparu rhaglenni galwedigaethol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed, llawer ohonynt heb gael profiad cynnar cadarnhaol ym myd addysg. Yn wahanol i weithgareddau traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, mae'r disgyblion yn gweithio yn yr awyr agored, gan ddysgu am yr amgylchedd ac ennill sgiliau ymarferol a fydd yn hybu eu hyder a’u cyflogadwyedd.

Dywedodd Kirsten Collins, Rheolwr Ardal Dysgu Cynorthwyol y Coleg ar gyfer y Rhaglen Ysgolion 14-16: “Cafodd y newyddion torcalonnus am y goeden Sycamore Gap effaith sylweddol ar ein staff, a chryfhaodd eu cred fod addysg yn hanfodol, nid yn unig i warchod ein hamgylchedd, ond hefyd ein hanes.

“Bydd y glasbren Sycamore Gap yn rhoi hunaniaeth i’n Hwb Gwyrdd, man canolog ar gyfer adnewyddu, yn symbol o gyfle, o dwf, o gryfder. Cyfle i rannu straeon y goeden wreiddiol, ei threftadaeth a straeon y glasbrennau eraill. Cyfle i fyfyrio ar ein straeon ein hunain, i ddangos balchder yn ei lle yn y byd, er gwaethaf adfyd, i ystyried ein cysylltiad â’r byd o’n hamgylch, a’r effaith yr ydym yn ei chael ar y blaned.

“Bydd y goeden yn declyn dysgu teimladwy a fydd yn datblygu gyda ni, yn symbol o’n hadran, ein Coleg a’n cymuned ehangach, sy’n cael gofal ac yn cael ei meithrin gan ein myfyrwyr bob blwyddyn, fel y maen nhw’n cael gofal ac yn cael eu meithrin gan ein tîm anhygoel o staff.”

Am fwy o wybodaeth ac i ddysgu lle yn y DU y bydd y 49 glasbren ‘Coed Gobaith’ yn mynd, ewch i 'Trees of Hope'.