Skip to content
Datganiad i'r wasg

Sut y mae 3 lleoliad gyda 5,000 milltir rhyngddynt, yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Ngogledd Cymru a Sansibar

Golygfa o'r Hen Dolldy, Cymdeithas Treftadaeth Tref Cerrig Zanzibar
Golygfa o'r Hen Dolldy, Cymdeithas Treftadaeth Tref Cerrig Zanzibar | © Sharida Diaz Gautier

O'r Atlantig i Gefnfor India, mae tri safle yn dod at ei gilydd i wrthsefyll newid arfordirol a rhannu profiadau trwy brosiect gefeillio unigryw gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Beth sydd gan Porthdinllaen a Chastell Penrhyn ar arfordir Gogledd Cymru yn gyffredin â Sansibar, ynys oddi ar arfordir dwyrain canolbarth Affrica? Maent dros 5,000 milltir (7000 km) oddi wrth ei gilydd, ond mae’r tri lleoliad yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, gan gynnwys cynnydd yn lefel y môr, erydiad arfordirol, stormydd neu seiclonau trymach ac amlach, llifogydd a phroblemau lleithder.

Nid yw effeithiau newid hinsawdd yn gyfyngedig i, nac yn cael eu rhwystro gan ffiniau cenedlaethol, a dyna pam mae prosiect ‘Gwrthsefyll Newid’ Sefydliad yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol Rhyngwladol (INTO) yn dwyn ynghyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phum sefydliad treftadaeth yn y Dwyrain Canol a Dwyrain Affrica, pob un ohonynt yn gweithio mewn meysydd lle mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn amlwg.

Fel rhan o'r prosiect hwn, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Diogelu Diwylliannol y British Council, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Treftadaeth Stone Town Sansibar (ZSTHS) fel y gallant helpu ei gilydd i nodi peryglon hinsawdd, yr effeithiau posibl ar safleoedd treftadaeth, yn ogystal ag opsiynau addasu ar gyfer Porthdinllaen a Chastell Penrhyn.

Dywedodd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;
"Fel llawer o safleoedd ar hyd y darn hwn o'r arfordir, mae pentref harbwr hardd a phoblogaidd iawn Porthdinllaen dan fygythiad oherwydd effeithiau hinsawdd sy'n newid. Yma, nid y cynnydd yn lefel y môr ynghyd â stormydd o amlder a ffyrnigrwydd cynyddol yn unig sy’n bygwth y pentref, ond hefyd tirlithriadau a chwymp llethrau gyda’r glaw cynyddol aml a dwys yn ychwanegu at y broblem."

"Dros sawl blwyddyn rydym, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gryfhau gwytnwch y pentref yn erbyn llanw uchel a stormydd - gan gynnwys gosod byrddau llifogydd llanwol a chynyddu uchder waliau'r môr ar hyd y ffrynt - fel bod gan yr eiddo yn yr ardal hon siawns go lew o amddiffyn eu hunain pan fydd y môr yn bygwth gorlifo. Mae'r clogwyni y tu ôl hefyd wedi cael gweddnewidiad peirianyddol ac wedi cael eu draenio a’u pinio fel bod y risg y bydd y llethr yn cwympo pan fydd glaw trwm yn disgyn yn lleihau'n sylweddol."

Mae aneddiadau arfordirol Stone Town a Phorthdinllaen bob amser wedi mynd ati’n uniongyrchol i ddelio gyda’r heriau sy’n gysylltiedig â’u lleoliadau cynhenid agored, ond nawr mae'r angen i addasu yn fwy nag erioed. Mae’r bartneriaeth gefeillio hon wedi golygu bod timau yng Ngogledd Cymru wedi gallu rhannu profiadau a dysgu gyda phartneriaid yn Sansibar, gan ddarparu ffordd gydfuddiannol i'r ddwy ochr gydweithio ar ddatrysiadau mewn perthynas â newid hinsawdd.

Dywedodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;
"Bydd y cyfle gefeillio hwn gyda thîm Sansibar yn rhoi cyfleoedd enfawr i ni ym Mhenrhyn ar gyfer dysgu ac i adolygu ein cynlluniau ein hunain. Ers sawl blwyddyn rydym wedi bod yn gweithio tuag at fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar y castell; yn benodol, y lefelau uwch o ddŵr a welwn ar y safle ac effeithiau stormydd. Mae'r gwaith y mae Cymdeithas Treftadaeth Stone Town Sansibar wedi'i wneud gyda'u cymunedau wrth uwchsgilio pobl sydd â sgiliau treftadaeth traddodiadol o ddiddordeb arbennig."

"Gan fod Castell Penrhyn yn rhan o Dirweddau Llechi Gogledd Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2021, rwy'n teimlo y gallwn ddysgu llawer gan ein partneriaid wrth harneisio angerdd a diddordeb ein cymunedau lleol wrth sicrhau ein bod yn ymgorffori'r sgiliau angenrheidiol yn yr ardal leol i ddiogelu'r rhannau hyn o’r byd sydd ag arwyddocâd byd-eang."

Mae Stone Town Sansibar yn enghraifft ragorol o dref fasnachu Swahili, gyda dylanwadau Arabaidd, Indiaidd ac Ewropeaidd i'w gweld yn adeiladau'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys The Old Customs House, a restrwyd fel safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2000.

Dywedodd Makame Juma o Gymdeithas Dreftadaeth Stone Town Sansibar ;
"Wedi'i leoli ar lan môr Mizingani, mae'r Old Customs House yn gyson agored i leithder cynyddol a halen môr sy’n cael ei chwistrellu arno gyda hynny’n dirywio ei rendr calch a’i wyngalch allanol. Rydym hefyd yn gweld mwy bod mwy o elfennau adeiladu metalig yn cael eu cyrydu gan halen, gan gynnwys y to haearn rhychog."

"Hefyd, mae llifogydd glawol mynych yn socian y sylfeini, gan gyflymu codiad capilaraidd halen a gludir gan leithder sy'n anweddu ac yn gorfodi'r gronynnau halen i wyneb y gwaith plastro, y rendr a’r golchiad. Mae hyn yn achosi malurio, fflawio a phlicio. Mae mwy o law y tu allan i'r tymor yn atal y waliau rhag sychu allan ac yn arwain at dwf algâu, yn ogystal ag at ddirywiad yn elfennau pren yr adeilad."

Mae'r elusen gadwraeth yn credu ei bod yn bwysig nid yn unig i liniaru yn erbyn newid hinsawdd drwy weithio i leihau allyriadau carbon, ond eu bod hefyd yn addasu drwy wneud eu lleoedd hanesyddol a hardd yn fwy gwydn i effeithiau newid hinsawdd – fel y nodir yn adroddiad addasu hinsawdd newydd yr elusen gadwraeth, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2023; Hinsawdd ar gyfer Newid.

Prosiect Sefydliad yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol Rhyngwladol yw 'Withstanding Change', a ariennir gan Gronfa Diogelu Diwylliannol y British Council, mewn partneriaeth â'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Gwrthsefyll Newid Hinsawdd yng Ngogledd Cymru a Sansibar

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhyddhau fideo newydd lle gall gwylwyr ddarganfod mwy am y bartneriaeth gefeillio unigryw  hon.

A group of people sat at desks watching a presentation in meeting room
Erthygl
Erthygl

International National Trusts Organisation (INTO) 

Discover which countries offer free visiting arrangements with similar heritage organisations.

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Lle
Lle

Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell ffantasi gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol | Fantasy castle with industrial and colonial foundations

Bangor, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o’r traeth a phentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r arfordir i’w weld ar y dde, clogwyn gwyrdd y tu ôl i’r pentref a phobl yn cerdded ar hyd y traeth
Lle
Lle

Porthdinllaen 

An old fishing village perched on the end of a thin ribbon of land stretching into the Irish Sea

Gwynedd

Yn hollol agored heddiw