Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn datgelu Dôl Ofalgar newydd yn Wrecsam i hybu llesiant a chefnogi bywyd gwyllt
- Cyhoeddwyd:
- 23 Gorffennaf 2025

Mae Dôl Ofalgar newydd wedi agor yn Wrecsam, Gogledd Cymru, gan gynnig man gwyrdd heddychlon a mynediad am ddim, a gynlluniwyd i wella llesiant a chefnogi bywyd gwyllt lleol.
Wedi’i greu gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol, mae’r safle chwe hectar yn darparu man croesawus lle gall pobl gysylltu â byd natur a gwella eu hiechyd a’u llesiant.
Dros y 18 mis diwethaf, mae timau ceidwaid, gwirfoddoli a chymunedol Erddig wedi gweithio ochr yn ochr â grwpiau yn cynnwys gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Caer, Clwb Ieuenctid Erddig, Tyfu Erddig, Cerrig Camu, We Mind the Gap, Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Kim Inspire, Adferiad, ac Ysgol Clywedog i drawsnewid ardal oedd wedi gordyfu ger Canolfan Awyr Agored Felin Puleston ar Ffordd Hafod. Yn llawn llwybrau na ellid eu croesi ar un adeg, mae’r safle wedi ei adfer yn fan bywiog a hygyrch sy’n gwahodd ymwelwyr i arafu, crwydro, a mwynhau buddion byd natur.
Dywedodd Katie Rees-Jones, Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol yn Erddig: “Bu'n bwysig i ni gydweithio gyda grwpiau cymunedol fydd yn defnyddio'r safle er mwyn sicrhau ein bod yn creu rhywle a fydd yn diwallu eu hanghenion, yn ogystal â rhai’r cyhoedd. Ar adegau, mae angen i bob un ohonom ddod o hyd i ychydig o seibiant rhag pwysau bywyd bob dydd, ac mae’r Ddôl Ofalgar yn rhoi cyfle i bawb ddod o hyd i ychydig o le, harddwch a heddwch.”
Gyda’i gilydd, mae’r tîm wedi adfer tua 250-metr o lwybrau, gan greu llwybrau hygyrch drwy’r safle. Mae tua 40 o goed brodorol, gan gynnwys derw, criafol a masarn bach wedi cael eu plannu ochr yn ochr â gwrychoedd fel drain gwynion a phiswydd. Mae dau hectar o’r ddôl hefyd wedi cael ei adfywio: mae un ardal wedi cael ei hail-hadu gyda chymysgedd cadwraeth o flodau gwyllt gan gynnwys y Gribell Felen, yr Effros a’r Feillionen Goch i ddenu adar a pheillwyr, tra bod y llall wedi’i didonni, ei thorri a’i gadael i adfywio’n naturiol.
Yng nghanol y ddôl saif cerflun carreg a dur gan yr artist David Setter. Wedi ei wneud o gerrig cadarnhaol wedi’u pentyrru, mae’r gosodiad yn symbol o gefnogaeth gymunedol ac yn dangos sut y gall lle ddyrchafu a chefnogi unigolyn.
Gyda mynediad am ddim ac ar agor bob dydd o fore gwyn tan fin nos, mae safle’r Ddôl Ofalgar yn agos at ganol dinas Wrecsam ac yn cynnwys pedwar hectar o goetir gyda llwybrau wedi eu lledu a’u hatgyweirio. Gall ymwelwyr hefyd weld blychau nythu, llyn, meinciau i eistedd arnynt gyda sgriniau helyg, marcwyr ffordd, mannau myfyrio tawel a chylchdeithiau gwastad - oll o fewn cyrraedd i Ardd Ofalgar a Chanolfan Awyr Agored Felin Puleston yr Ymddiriedolaeth gerllaw.
Dywedodd Steven Dorsett, Ceidwad Ardal yn Erddig: ”Gyda thros 97% o ddolydd gwair y DU wedi eu colli ers y 1930au, ni fu amddiffyn ac adfer y cynefinoedd hyn erioed mor bwysig. Mae dolydd gwair yn hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth, yn cefnogi amrywiaeth gyfoethog o flodau gwyllt, peillwyr a rhywogaethau mewn perygl. Gallant hefyd chwarae rhan allweddol mewn gwella ansawdd y pridd, dal carbon, a chynnal arferion ffermio traddodiadol.
“Tu hwnt i’w gwerth ecolegol, mae’r Ddôl Ofalgar hon yn cynnig man heddychlon i bobl ailgysylltu â byd natur, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gymuned yn ei defnyddio.”
Datblygwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac fe’i ariannwyd gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â phrosiect Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n bwriadu helpu pobl yng Nghymru i ddiogelu a gwella eu llesiant meddwl.