Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn tyfu coedwigoedd glaw Celtaidd y dyfodol mewn meithrinfa goed newydd
- Cyhoeddwyd:
- 16 Mai 2023
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi sefydlu meithrinfa goed newydd, sydd wedi’i lleoli ar dirwedd anghysbell Gymreig Eryri, er mwyn annog rhywogaethau o goed brodorol sydd dan fygythiad, gwarchod amgylcheddau sensitif coedwigoedd glaw tymherus yr ardal a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi sefydlu meithrinfa goed newydd, sydd wedi’i lleoli ar dirwedd anghysbell Gymreig Eryri, er mwyn annog rhywogaethau o goed brodorol sydd dan fygythiad, gwarchod amgylcheddau sensitif coedwigoedd glaw tymherus yr ardal a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Y feithrinfa, sy’n cael ei rhedeg gan David Smith, sef Prif Geidwad, Hattie Jones, y Ceidwad a thîm gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yw’r gyntaf o’r raddfa hon i fod dan ofal yr elusen gadwraeth ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r elusen yn gofalu am 58,000 acer (23,471 hectarau) o dir yn Eryri, a chaiff y coed a dyfir yn y feithrinfa eu dosbarthu yn ofalus i leoliadau dethol yn yr ardal i adnewyddu a sicrhau dyfodol iechyd y coetiroedd yn y rhanbarth.
Mae’r feithrinfa’n bwriadu tyfu 30,000 o goed y flwyddyn, ac mae llawer o’r coed ifanc yn rhywogaethau brodorol prin a dan fygythiad, yn cynnwys y Boplysen Ddu, y goeden bren sydd fwyaf dan fygythiad ym Mhrydain oherwydd ei chyfansoddiad genetig cul.[2]
Dewiswyd rhywogaethau eraill a dyfir yn y feithrinfa, megis yr oestrwydden, er mwyn annog gwytnwch coetiroedd i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd y mathau hyn wedi’w addasu’n well i amodau cynhesach na’r rhai o hinsawdd bresennol Eryri, ac maent hefyd yn gallu lliniaru effaith lladdwr yr ynn drwy gefnogi bywyd gwyll gan gynnwys llysiau'r afu, ffyngau ac infertebratau fel chwilod sydd fel arfer yn dibynnu goed ynn.
Dywedodd David Smith, Prif Geidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri: “Mae ein ffocws ar blannu’r goeden gywir yn y man cywir. Mae’r feithrinfa’n gyfle cyffrous iawn i dyfu’r holl goed sydd eu hangen yn Eryri, a gwneud gwahaniaeth parhaus i’r coetiroedd lleol hyn lle bydd y coed newydd yn tyfu am filoedd o flynyddoedd, gan ddarparu cynefinoedd i lawer o wahanol rywogaethau fel teloriaid, gwyfynod, ystlumod a dyfrgwn.”
Yn tyfu o hadau sydd wedi’u casglu’n lleol, mae’r coed yn fwy bioddiogel a gwydn rhag afiechydon penodol i’r ardal na chymheiriaid sydd wedi’u mewnforio, gan fod ar yr un pryd wedi addasu’n dda yn gynhenid i hinsawdd unigryw Eryri, sy’n cynnwys un o ddarnau olaf y goedwig law Geltaidd neu dymherus yn y DU. Mae’r goedwig law Geltaidd yn gynefin allweddol i nifer o fwsoglau, cennau a llysiau’r afu prin gan fod lleithder a glaw arbennig o drwm yn ogystal ag amrywiad blynyddol isel yn y tymheredd yn nodweddiadol ohoni.
Dros y canrifoedd, mae’r goedwig law Geltaidd, a arferai redeg ar hyd arfordir gorllewinol y DU, wedi dirywio yn bennaf o ganlyniad i rywogaethau ymledol ac afiechydon megis lladdwr yr ynn. Bellach, darnau yn unig sy’n bodoli, sydd wedi’u cyfyngu i Ogledd a Gorllewin Cymru, Dyfnaint, Cernyw, Cymbria, Gorllewin yr Alban a rhannau o Ogledd Iwerddon, gan gwmpasu llai nag 1% o Brydain.
Aeth David ymlaen i ddweud: “Mae coedwigoedd Celtaidd neu dymherus yn rhan werthfawr o dirwedd Eryri. Mae’n bwysig defnyddio ein coed lleol sydd eisoes yn addas iawn i’r hinsawdd hynod laith hon er mwyn adfer y cynefin arbennig hwn a fu’n dirywio ers tro, ac i gysylltu â darnau eraill o’r goedwig law dymherus.”
“Yn y tymor hir, bydd hyn nid yn unig yn cynnig ystod o fuddion i’r dirwedd, ond hefyd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a wynebwn drwy dyfu a phlannu coed a fydd yn amsugno carbon am flynyddoedd ar flynyddoedd i ddod.”
Tyfir coed y feithrinfa mewn celloedd neu gynwysyddion o wahanol feintiau am bedair blynedd cyn eu plannu yn yr awyr agored, gan gynhyrchu glaswydd mwy na'r rhai y gellir eu prynu o siopau cyfanwerthu. Mae hyn yn sicrhau’r dechrau gorau posib i’r coed ifanc, gan wella eu cyfle o sefydlu eu hunain yn llwyddiannus fel ag y maent a’u gwneud yn fwy gwydn ar yr un pryd rhag amodau sych.
Mae coed a dyfwyd yn y feithrinfa eisoes wedi’u plannu’n gyfagos ar dirwedd Eryri, gan gynnwys Hafod Garegog, ger Porthmadog. Mae’r gwely môr adferedig, a arferai gael ei orchuddio mewn brwyn a thueddu i fod mewn perygl o lifogydd, bellach yn tyfu glaswydd brodorol a fydd yn dod â hwb mawr ei angen i fywyd gwyllt yn ogystal ag annog amrywiaeth eang o blanhigion i dyfu.
Mae’r coed newydd ar ffin Coedwig Law Geltaidd Hafod Garegog, safle rhyngwladol bwysig oherwydd ei amrywiaeth o fwsoglau, cennau a llysiau’r afu, y mae llawer ohonynt ond i’w cael yng Nghymru. Bydd cysylltu’r coetiroedd yn dod â chynefinoedd bywyd gwyllt ynghyd a’u cyfoethogi. Yn ogystal, bydd y gwahanol rywogaethau ac amrywiol aeddfedrwydd y coed yn helpu’r coetir ehangach i ddod yn fwy gwydn i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Ochr yn ochr â meithrinfa goed Eryri, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn y broses o sefydlu dwy feithrinfa goed arall, un ger Ystad Holnicote yn Ne-orllewin Lloegr ac un yn Mount Stewart yng Ngogledd Iwerddon. Bydd y tri chyfleuster yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi nodau bioddiogelwch eu coetir lleol, gyda’r gobaith o dyfu hyd at 750,000 y flwyddyn o rywogaethau sy’n benodol i’r ardal leol.
Dywedodd John Deakin, Pennaeth Coed a Choetiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Coed yw’r datrysiad naturiol gorau i storio carbon atmosfferig presennol. Mae eu tyfu yn lleol, yn ein meithrinfeydd ein hunain, yn sicrhau ein bod yn gwybod yn union o le daw’r coed, eu bod yn rhydd rhag mawn, a’u bod yn gwbl addas ar gyfer eu lleoliadau. Fel y cyfryw, bydd ein meithrinfeydd yn elfen allweddol o’n nodau i warchod yr ecosystemau bregus hyn a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”
Bydd y gwaith a wneir yn y meithrinfeydd coed yn cyfrannu hefyd at nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i blannu a sefydlu 20 miliwn o goed erbyn 2030.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â nodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd cliciwch yma.
You might also be interested in
Wales
Explore fairy-tale castles, glorious gardens and a wild Celtic landscape brimming with myths and legends on your visit to Wales.
Our ambition to establish 20 million trees to tackle climate change
Find out about ambitious plans to plant trees for future generations that will absorb carbon and enable nature to thrive.