Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Admiral yn cyhoeddi partneriaeth tair blynedd a fydd yn ffocysu ar arbed llifogydd yn naturiol yng Nghymru a Lloegr

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Admiral wedi ymuno mewn partneriaeth strategol newydd sy'n dod â chadwraeth natur a diogelu cymunedau at ei gilydd.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd y ddau sefydliad yn gweithio i adfer tirweddau hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o sut y gall atebion sy'n seiliedig ar natur helpu i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o lifogydd.
Dyma'r tro cyntaf i'r ddau sefydliad gyfuno eu cryfderau: profiad Admiral o edrych ar ôl pobl a'r pethau sy'n bwysicaf iddynt, ac arbenigedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn diogelu'r amgylchedd.
Gyda llifogydd eisoes yn effeithio ar un o bob chwe chartref yn y DU, a disgwylir i'r nifer hwnnw godi i un o bob pedwar erbyn 2050, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar reoli llifogydd yn naturiol i arafu llif dŵr, storio carbon, a chreu cynefinoedd iachach i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, bywyd gwyllt a'r hinsawdd.
Wedi'i ariannu gan fuddsoddiad o £600,000 o Fenter Cronfa Werdd (Green Fund Initiative) Admiral Group, bydd y prosiect yn cyflawni gwaith adfer ar raddfa fawr a gwaith wedi'i dargedu yn Eryri yng Nghymru, ar draws Ystâd Holnicote yng Ngwlad yr Haf ac yn Ardal y Llynnoedd.
Mae'r cyntaf o'r prosiectau hyn bellach ar waith yng nghalon Eryri, gyda’r nod o adfywio un o dirweddau ecolegol pwysicaf Cymru-gorgors y Migneint.
Gan weithio ar fawn ar lwyfandir helaeth y Migneint, bydd y prosiect uchelgeisiol gwerth £180,000 yma yn adfer tua 12 hectar, maint tair Stadiwm Principality, o'r mawndir sydd wedi'i erydu fwyaf yn Waen Fraith dros y tair blynedd nesaf. Mae'r ardal yn dirwedd warchodedig prin a gwerthfawr gyda'r prosiect yn anelu at sicrhau manteision grymus i fioamrywiaeth, gwytnwch hinsawdd, ac atal llifogydd-gan ei wneud yn fuddugoliaeth i natur a chymunedau yn gyffelyb.
Dywedodd Michelle Leavesley, Prif Swyddog Cynaliadwyedd gyda Admiral Group, "Rydym yn buddsoddi mewn datrysiadau rheoli llifogydd yn naturiol i gryfhau gwytnwch llifogydd i bobl a natur. I ni yn Admiral, mae diogelu cartrefi pobl yn golygu cymryd camau y tu hwnt i yswiriant trwy adeiladu dealltwriaeth a gwytnwch i effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft berffaith o sut yr ydym yn byw ein pwrpas, helpu mwy o bobl i ofalu am eu dyfodol, tra'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau a'r amgylchedd."
Meddai Iago Thomas, Swyddog Mawndir gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae gorgorsydd yn arwyr hinsawdd di-glod. Maent yn cloi carbon, yn rheoleiddio llif dŵr, ac yn cynnal bywyd gwyllt prin. Ond yn yr amgylchedd ucheldirol hwn lle nad oes amddiffyniad rhag glawiad amlach a mwy eithafol yn ogystal â gwyntoedd cryfion, mae'r mawn mewn perygl mawr o erydiad.
"Pan fydd mawn yn sychu ac yn erydu, mae'n rhyddhau carbon i'r atmosffer ac yn gwaethygu llifogydd i lawr yr afon. Mae'r Migneint yn bwydo llednentydd sy'n llifo i mewn i Afon Conwy, sy’n gallu gorlifo cymunedau i lawr yr afon yn Nyffryn Conwy yn ystod glaw trwm.
"Trwy ail-wlychu'r gors, byddwn yn gweld yr effaith diferu-lawr yn llythrennol, gyda'r prosiect yn arafu llif dŵr, lleihau allyriadau carbon, a chreu cynefinoedd sy’n ffynnu. Bydd y cynefin wedi'i adfer o fudd i rywogaethau fel y gylfinir, aderyn hirgoes sydd mewn dirywiad serth, sydd angen tir meddalach i'w gywion i'w gwneud hi'n haws iddynt fwydo, yn ogystal ag infertebratau fel gwas y neidr sydd angen ardaloedd o ddŵr agored. Mae adfer mawn yn wir yn ateb sy'n seiliedig ar natur gydag effaith ar y byd go iawn.”
Mae contractwyr wedi dechrau ail-lunio'r tir drwy ailbroffilio torlannau mawn (twmpathau ynysig o fawn), adeiladu argaeau mawn, a chreu pyllau i godi lefelau dŵr. Nod yr ymyriadau hyn yw annog mwy o figwyn, sef planhigyn sy'n hoff iawn o ddŵr ac sy'n rhoi hwb i'r broses gwella ac yn helpu i ffurfio mawn newydd. Wrth i lystyfiant ddychwelyd, mae garwedd yr wyneb yn cynyddu ac yn helpu ymhellach i gadw dŵr ac i helpu i leihau llifogydd i lawr yr afon.
Er mwyn helpu i roi hwb i'r aildyfiant yma, bydd gwirfoddolwyr, sydd yn cynnwys pobl ifanc frwdfrydig o Wersyll yr Urdd Glan-llyn, yn ymuno â'r ymdrech, yn trawsblannu miloedd o figwyn o rannau arall y safle, i helpu’r aildyfiant. Mae eu cyfraniad yn nodi dechrau ymdrech cymunedol ehangach i adfer yr ecosystem hanfodol yma.
"Mae gorgorsydd fel y Migneint yn dawel bach yn darparu manteision enfawr i natur, hinsawdd a phobl," parhaodd Iago. "Diolch i gefnogaeth hael Admiral Group, rydym yn cymryd camau i adfer y cynefin gwerthfawr hwn; lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd dŵr, a helpu bywyd gwyllt i ffynnu. Mae'n enghraifft wych o sut y gall partneriaethau yrru newid positif i bobl a'r amgylchedd."
Meddai Emma Richards, Swyddog Awyr Agored, Urdd Gobaith Cymru: “Mae gweld pobl ifanc yn cymryd rhan yn adfer ecosystem mor werthfawr â’r Migneint yn ysbrydoledig.
“Mae’r ffaith bod 1cm o fawn yn cymryd tua 100 mlynedd i ffurfio yn tanlinellu pa mor werthfawr yw’r gwaith yma - pan fydd y gwirfoddolwyr ifanc yma yn eu 60au, bydd y gors wedi tyfu tua 5cm, gan adlewyrchu eu cyfraniad parhaol i ddyfodol Cymru. Mae’r prosiect yn gyfle gwych i feithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol, cyfrifoldeb cymunedol, a balchder yn ein tirweddau naturiol.”
Nid yw'r prosiect yn ymdrech ynysig, gan adeiladu ar flynyddoedd o waith adfer ar draws y Migneint drwy brosiect Uwch Conwy, ac mae'n cyfrannu at y weledigaeth hirdymor ar gyfer yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn llunio mosaig o fawndir iach, gan adfer strwythur naturiol a gwytnwch y dirwedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Bydd y gwaith yn cymryd saib yn y gwanwyn i warchod adar sy'n nythu ar y ddaear, gyda monitro yn parhau i asesu cynnydd. Er y gall y safle edrych yn foel ar y dechrau, disgwylir arwyddion gweledol o adferiad erbyn yr haf wrth i lystyfiant gymryd gafael a'r gors yn dechrau gwella.

You might also be interested in
Prosiect dalgylch Uwch Conwy
Dysgwch sut rydym yn gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llifogydd yn nalgylch Afon Conwy er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.
Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
