
Darganfyddwch fwy ym Mannau Brycheiniog
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn 886 metr o uchder, Pen y Fan yw'r mynydd uchaf yn ne Prydain, ac mae’n rhannu’r gorwel â chopaon Corn Du a Chribyn. Bob blwyddyn mae cannoedd o filoedd o bobl yn cerdded i'r copa, ond gall y Bannau fod yn heriol ac mae paratoi yn allweddol ar gyfer diwrnod allan gwych.
Pa bynnag gopa rydych chi’n ei ddringo, bydd yn daith serth ar adegau, a all gynnwys rhywfaint o dir garw. Bydd ’na heriau mewn unrhyw dymor a gall y tywydd newid yn gyflym yng Nghymru. Mae paratoi yn allweddol i gerdded yn ddiogel a lleihau'ch siawns o fynd ar goll neu gael anaf. Mwynhewch ddiwrnod allan cyffrous trwy ddilyn ein cyngor diogelwch:
Cynlluniwch eich llwybr ymlaen llaw a dewiswch lwybrau cerdded gyda gallu ac amser dechrau/gorffen eich grŵp mewn golwg. Dilynwch lwybrau, gan osgoi ymylon clogwyni neu gerdded ar dir nad ydych chi’n siŵr ohono. Gallwch chi ddod o hyd i rai o’r llwybrau gorau yma.
Heulwen braf? Ewch â het, eli haul a llawer o ddŵr (dylech chi fynd â digon o ddŵr gyda chi bob amser). Glawio’n drwm? Ystyriwch a yw'r amodau'n addas yn seiliedig ar eich gallu chi a'ch grŵp. Cofiwch y gall tywydd heulog braf ar waelod y mynydd droi’n wynt, glaw ac oerfel ar y copa. Gallwch chi ddod o hyd i'r rhagolygon tywydd yma [LINK]. Beth bynnag yw'r tywydd ar ddiwrnod eich taith, gwiriwch ymlaen llaw, gwiriwch y diwrnod cynt, gwiriwch y bore hwnnw, a gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd. Os ydych chi'n dringo Pen y Fan, gallwch chi ofyn i’r Tîm Croeso ym maes parcio Pont ar Daf cyn cychwyn – gallan nhw roi gwybodaeth i chi am yr amodau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Mae dewis dillad priodol yn bwysig i allu wynebu’r tywydd. Dewiswch yr esgidiau cywir (fel esgidiau cerdded sy’n cefnogi’r pigyrnau), ystyriwch haenau sy’n inswleiddio ond yn caniatáu aer, dillad gwrth-ddŵr a hetiau a menig ar gyfer teithiau cerdded heriol, hyd yn oed yn yr haf.
Mae map a chwmpawd yn lle da i ddechrau a dylen nhw fod yn hawdd eu cyrraedd yn eich bag os ydych chi'n mynd ar deithiau cerdded hir yn y mynyddoedd. Gall eitemau defnyddiol eraill gynnwys ffôn symudol wedi'i wefru'n llawn, bocs gwefru ffôn, chwiban, oriawr, tortsh gyda batris a bylbiau sbâr, a GPS sbâr. Gallwch chi ddefnyddio chwiban i anfon signal “angen achub” – rhowch chwe chwythiad hir, nerthol, stopiwch am funud, ac yna ailadroddwch hyn nes bod rhywun yn eich cyrraedd.
Pan fyddwch chi allan yn yr awyr agored gydag eraill, mae'n bwysig cerdded ar gyflymder y person arafaf yn eich grŵp. Os byddai'n well gennych chi fynd ar eich pen eich hun, cofiwch roi gwybod i rywun am eich cynlluniau cyn dechrau eich taith. Dylai hyn gynnwys eich llwybr, eich pwyntiau cychwyn a gorffen, syniad o'ch amser dychwelyd, ac unrhyw newidiadau yn ystod eich taith.
Cyn mynd allan, cofiwch fwyta'n dda. Ewch â bwyd gyda chi a digon i'w yfed (sylwch nad oes unman i lenwi'ch potel ddŵr ym maes parcio Pont ar Daf, gwnewch yn siŵr bod digon o ddŵr gennych chi cyn dechrau eich taith). Mae siocled a ffrwythau sych yn ffordd wych o roi hwb cyflym i chi, ond dylech chi hefyd ystyried bwydydd sy’n rhyddhau egni’n araf fel bariau uwd a bananas, a fydd yn helpu i gadw lefelau egni i fyny trwy’r dydd. Cofiwch ddilyn y cod cefn gwlad a "gadael dim ar ôl" – ewch â'ch holl sbwriel adre’ gyda chi.
Byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchedd a newidiadau yn y tywydd. Cadwch lygad ar unrhyw blant ac anifeiliaid anwes sy'n ymuno â chi ar eich taith a byddwch yn barod i droi'n ôl os yw'r tywydd yn gwaethygu.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu a’r tîm Achub Mynydd.
Cofiwch y gallwch chi ddefnyddio eich chwiban hefyd (rhowch chwe chwythiad hir, nerthol, stopiwch am funud, ac ailadroddwch nes bod rhywun yn eich cyrraedd). Os byddwch chi’n dod o hyd i rywun mewn trafferthion, peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl, arhoswch mewn lle diogel a galwch am help o’r fan honno.
Mae ceidwaid yn gweithio'n galed i gynnal y llwybrau mynydd, mae hyn er eich diogelwch chi yn ogystal â chadwraeth yr ardaloedd cyfagos. Gofalwch am eich hun a'r amgylchedd trwy gadw at y llwybrau. Peidiwch â mynd yn agos at y dibyn, peidiwch â chymryd risgiau diangen, mae'n hanfodol eich bod chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am eich diogelwch eich hun.
Mae tua 750,000 o bobl yn dringo Pen y Fan, Corn Du a Chribyn bob blwyddyn. Rydyn ni wedi bod yn gweld niferoedd digynsail o gerddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cynnydd mewn ymwelwyr yn rhoi'r timau achub mynydd lleol dan bwysau eithafol.
Maes parcio Pont ar Daf yw'r lle mwyaf poblogaidd i ddechrau cerdded i fyny Pen y Fan. Gofynnwn i chi ddod ’nôl rywbryd arall os yw'r maes parcio yn llawn ac i geisio rhannu lifft. Rydyn ni’n aml yn gweld parcio anghyfrifol a pheryglus hyd yn oed pan mae’r meysydd parcio yn llawn. Os na allwch chi ddod o hyd i le dynodedig mewn maes parcio dynodedig, dewch yn ôl rywbryd arall.
Byddwch yn ystyriol o anifeiliaid sy’n pori ac adar sy'n nythu ar y ddaear trwy gadw pob ci ar dennyn byr. Peidiwch ag anghofio'ch bagiau baw ci, ac ewch â’ch sbwriel adre’ gyda chi lle nad oes biniau ar gael. Mae'r mynyddoedd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n bwysig gwarchod y cynefin gwerthfawr hwn.
Gofynnwn i bob cerddwr gadw at y Cod Cŵn, sy'n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae'n bwysig eich bod chi'n cadw’ch ci dan reolaeth. Rydyn ni’n diffinio rheolaeth effeithiol fel:
Dysgwch fwy am ymweld â mynyddoedd Bannau Brycheiniog gyda'ch ci yma.
Yn anffodus, mae sbwriel yn broblem gyson i'n timau o geidwaid ac yn niweidio bywyd gwyllt a thirweddau. Peidiwch â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad ac ewch â'ch holl sbwriel adre’ gyda chi. Er diogelwch pawb, peidiwch byth â defnyddio barbeciws, cynnau tân na defnyddio dronau.
Rydyn ni wir yn gobeithio y mwynhewch chi eich taith gerdded ym Mannau Brycheiniog; mae'n dirwedd hardd yr ydyn ni’n lwcus iawn ohoni. Gwnewch y gorau o'ch antur trwy fod yn barod a chadw’n ddiogel.
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.