Skip to content

Ein gwaith ym mhlanhigfa goed Pont ar Daf

The beginning of the Beacons Way path from Pont ar Daf in the Brecon Beacons National Park, Wales
Beginning of the Beacons Way path from Pont ar Daf in the Brecon Beacons National Park, Wales | © Chris Lacey

Darganfyddwch fwy am sut yr ydym ni’n adfer cynefin coetir naturiol trwy deneuo coed a gwaredu coed conwydd anfrodorol i gynyddu bioamrywiaeth ym mhlanhigfa goed Pont ar Daf, sydd wedi’i lleoli y tu ôl i faes parcio Pont ar Daf ar waelod Pen y Fan. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am y gwaith a sut y gallai effeithio ar eich ymweliad â Phen y Fan a mynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Rhwng 24 Tachwedd 2025 a mis Chwefror 2026, bydd y llwybr rhwng maes parcio Pont ar Daf a Storey Arms, sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r A470, ar gau oherwydd gwaith coedwigaeth yn y blanhigfa gyfagos.

Rydym yn argymell y dylech gynllunio ymlaen llaw yn ystod y cyfnod hwn, a sicrhau bod eich taith gerdded yn dechrau ac yn gorffen yn yr un maes parcio. Os oes angen cymorth arnoch i gynllunio eich taith, gall y Tîm Croesawu cyfeillgar ym maes parcio Pont ar Daf ateb unrhyw gwestiynau. Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.

Adfer cynefin coetir naturiol ym Mhont ar Daf

Pan gymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfrifoldeb dros y tir ym Mhont ar Daf, roedd planhigfa fasnachol o goed conwydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys sbriws-hemlog y Gorllewin.

Mae angen rheoli coetiroedd a choedwigoedd yn weithredol, ac rydym yn parhau gyda chynllun cam wrth gam i deneuo’r coed conwydd anfrodol ac i dynnu’r coed sbriws-hemlog y Gorllewin, gan eu disodli’n raddol gyda rhywogaethau coed llydanddail brodorol. Bydd hyn yn helpu i greu bylchau yn y gorchudd coed i ganiatáu goleuni’r haul ac i helpu i sefydlu gwahanol fflora a ffawna, gan wella cynefin y coetir ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt.

Bydd y coed sbriws-hemlog y Gorllewin, rhywogaeth o goed conwydd, yn cael eu tynnu o’r blanhigfa. Rydym yn gwneud hyn fel cam cyntaf, ac er mwyn i’r contractwyr allu gwneud hyn yn ddiogel, mae angen i ni gau’r llwybr sy’n rhedeg rhwng maes parcio Pont ar Daf a Storey Arms rhwng 24 Tachwedd 2025 a mis Chwefror 2026.

Bydd gwaith yn dechrau wedyn i deneuo’r coed conwydd anfrodorol eraill gan ddefnyddio dull rheoli coetir a elwir yn Goedwigaeth Gorchudd Barhaus. Bydd coed yn cael eu tynnu’n raddol, mewn patrwm afreolaidd, yn hytrach na gyda’i gilydd. Mae’r dull hwn yn fwy caredig i fyd natur, yn cynnal iechyd cynefinoedd a phriddoedd, ac yn creu coetir llawer mwy amrywiol a gwydn.

Nesaf, byddwn yn plannu rhywogaethau llydanddail brodorol megis derw, bedw a choed cyll. Wrth i’r coed newydd hyn dyfu, byddwn yn dychwelyd bob ryw ychydig o flynyddoedd i barhau i dynnu’r coed conwydd anfrodorol. Dros amser, byddwn yn sicrhau bod y blanhigfa’n dychwelyd i fod yn goetir llawn coed llydanddail brodorol, gan gefnogi’r ecosystem leol sydd mor bwysig.

Walkers exploring the Beacons Way path between Pont ar Daf and Pen y Fan in the Brecon Beacons National Park, Wales
Walkers exploring the Beacons Way path between Pont ar Daf and Pen y Fan in the Brecon Beacons National Park, Wales | © Chris Lacey

Mynediad i’r coetir yn y dyfodol

Unwaith y bydd cynnydd yn cael ei wneud o ran rheolaeth y coetir, rydym yn gobeithio creu llwybr hygyrch drwy’r coetir. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r rhai hynny sy’n dymuno profi harddwch mynyddoedd Bannau Brycheiniog, ond nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu dringo’r mynyddoedd uwch, fwynhau diwrnod braf ym myd natur.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn plannu mwy o goed i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Pam rydych chi’n torri coed ym Mhont ar Daf?

Mae angen i ni reoli coetiroedd yn weithredol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn iach ac yn ffyniannus, sy’n golygu bod angen torri coed o bryd i’w gilydd. Mae gwahanol resymau dros wneud hyn, ac ym Mhont ar Daf, mae’r coed conwydd a blannwyd yn wreiddiol fel cnwd pren, wedi cyrraedd oedran da ar gyfer cynaeafu. Bydd teneuo a gwaredu’r coed fel rhan o’n gwaith parhaus i reoli’r coetir yn rhoi’r cyfle i ni greu coetir llydanddail mwy amrywiol, sy’n llawer mwy buddiol i fyd natur.

Cerddwyr ar lethr serth ar lwybr pedol Cwm Llwch, Bannau Brycheiniog, Powys, gyda bryniau a choetir yn y pellter.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.