Skip to content

Gwaith ar lwybrau troed Bannau Brycheiniog

Golygfa o lethrau Corn Du ym Mannau Brycheiniog yn dangos y llethr serth ac erydiad llwybr troed
Y llwybr troed rhwng Corn Du a Phen y Fan | © National Trust Images/Paul Harris

Mae dros 500,000 o gerddwyr yn troedio llwybrau Pen y Fan bob blwyddyn, gyda’r niferoedd yn dyblu a mwy dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn, ochr yn ochr â hinsawdd arw’r bannau canolog, yn golygu bod y llwybrau troed yn erydu a bod angen eu rheoli’n rhagweithiol. Mae ein tîm o geidwaid a gwirfoddolwyr yn defnyddio technegau traddodiadol i gynnal a diogelu’r dirwedd fyw hon i sicrhau y gall pawb fwynhau eu hymweliad.

Sut mae’r erydiad yn cael ei drwsio?

Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Yn ôl yn y 1980au, cyn i ni ddechrau trwsio’r llwybrau troed, roedd llethrau Pen y Fan wedi’u gorchuddio â chreithiau erydu mawr.

Ers hynny, mae’r tîm wedi mynd i’r afael â rhaglen uchelgeisiol o drwsio llwybrau ucheldirol. Maen nhw wedi creu 15km o lwybrau pygfaen o fewn y rhwydwaith llwybrau 70km sy’n cris-croesi’r bannau canolog, adeiladu 400 o ffosydd draenio, gosod 500 o gwlferi ac ail-blannu ardal sydd mor fawr â 30 cae pêl-droed.

Ymweliadau rheolaidd gan geidwaid

Mae ein ceidwaid i fyny ar y mynydd yn rheolaidd yn trwsio a thwtio. Yn yr haf maen nhw i’w gweld yn nes at y copaon, yn gweithio ar ddarnau uchel y llwybr, ac yn y gaeaf maen nhw ar y llethrau is, yn nes at y maes parcio.

Eu nod yw rheoli erydiad y llwybrau troed gan ddefnyddio technegau traddodiadol i atal rhagor o bridd rhag cael ei golli. Mae’n broses gylchol ac mae’n rhaid i’r tîm gadw’r ddysgl yn wastad rhwng ailymweld â darnau y mae angen eu hail-wneud bob 5 mlynedd a dechrau gwaith mewn ardaloedd newydd.

Pa ddulliau ydyn ni’n eu defnyddio?

Mae’r llwybrau’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dull traddodiadol o’r enw pygfeinio sydd wedi’i ddefnyddio ers oes y Rhufeiniaid. Mae cerrig unigol yn cael eu gosod ar eu sefyll yn y ddaear ac yn cael eu sefydlogi drwy eu pacio’n dynn â cherrig llai a phridd.

Ar ôl i’r llwybr gael ei adeiladu, mae’r ardaloedd o’i gwmpas yn cael eu tirlunio, gyda’r llethrau’n cael eu gogwyddo a’r ardal gyfan yn cael ei hailblannu.

Faint mae hyn yn ei gostio?

Bob blwyddyn mae’n costio tua £100,000 i adeiladu a chynnal y rhwydwaith llwybrau yn y bannau canolog.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y cerddwyr felly mae angen trwsio darnau ychwanegol o lwybrau troed ar frys. Rydym wedi ail-lansio apêl codi arian Bannau Brycheiniog i’n galluogi i wneud y gwaith hanfodol hwn yn ystod y tymor twristiaeth prysuraf erioed ym Mannau Brycheiniog.

Sut gallwch chi helpu?

Os ydych chi’n frwd dros y bannau ac am helpu i gynnal y llwybrau troed sy’n arwain at Ben y Fan, gallwch wneud hynny drwy roi i’n hapêl Bannau Brycheiniog. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i ariannu gwaith rheoli erydiad pwysig gan ein galluogi i gadw’r lle arbennig hwn yn hygyrch i bawb.

Ymuno â’r tîm fel gwirfoddolwr

Drwy gydol y flwyddyn mae cyfleoedd i gynnig help llaw drwy’r prosiect cynnal llwybrau troed. Os hoffech ddysgu mwy am wirfoddoli gyda’r tîm, e-bostiwch y tîm yn: brecon@nationaltrust.org.uk

Cerddwyr ar lethr serth ar lwybr pedol Cwm Llwch, Bannau Brycheiniog, Powys, gyda bryniau a choetir yn y pellter.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Pedwar person mewn dillad hafaidd yn ceisio sgramblo i lawr llethr ar fynydd Corn Du
Erthygl
Erthygl

Gwirfoddoli ym Mannau Brycheiniog 

Mae ‘na lawer o gyfleoedd i wirfoddoli ym Mannau Brycheiniog. Gallwch gyfarch ymwelwyr ym maes parcio Pont ar Daf neu ymuno â’r Tîm Llwybrau a helpu’r ceidwaid i drwsio llwybrau troed ucheldirol.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.