Skip to content

Gwirfoddoli ym Mannau Brycheiniog

Pedwar person mewn dillad hafaidd yn ceisio sgramblo i lawr llethr ar fynydd Corn Du
Cerdded ar lwybr troed rhwng Corn Du a Phen y Fan | © National Trust Images/Paul Harris

Mae ‘na sawl ffordd y gallwch gynnig help llaw a gwirfoddoli ym Mannau Brycheiniog. Gallwch gyfarch ymwelwyr ym Mhont ar Daf, y prif bwynt mynediad i’r bannau canolog, neu ddod yn ‘Wirfoddolwyr Llwybrau’ a helpu i gynnal a chadw llwybrau troed ucheldirol.

Cyfarch ymwelwyr ym Mhont ar Daf

Mae bod yn Groesawr gwirfoddol yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd tra’n rhannu eich gwybodaeth a’ch profiad o’r ardal gydag ymwelwyr.

Wedi’ch lleoli ym Mhont ar Daf, y prif bwynt mynediad i’r bannau canolog, byddwch yn cynnig croeso cynnes ar y diwrnodau oeraf. Fel llysgennad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae eich ymrwymiad i’r achos tra’n helpu i ledaenu’r gair am gadwraeth yn amhrisiadwy.

Byddwch yn helpu i wella siwrne’r ymwelwyr, a allai ofyn cwestiwn neu ddau i chi am fysus neu atyniadau lleol.

Mae Gwirfoddolwyr Llwybrau yn ein helpu i gynnal llwybrau ucheldirol

Os ydych chi’n mwynhau bod yn yr awyr agored, gallai gwirfoddoli gyda’r Tîm Llwybrau fod yn ddelfrydol i chi.

Dau ŵr ifanc yn trwsio cwlfer draenio ar lwybr troed ym Mannau Brycheiniog, gyda gorchudd denau o eira ar y mynyddoedd, ar ddiwrnod braf o aeaf.
Gwirfoddolwyr yn trwsio llwybrau ym Mannau Brycheiniog | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae tîm ceidwaid Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy yn cynnal a chadw llwybrau ucheldirol yn Ysgyryd Fawr, Pen-y-fâl a’r bannau canolog. Beth am ymuno â nhw a chynnig help llaw? Mae’r tasgau’n cynnwys clirio draeniau, ffosydd a chwlferi, a mân waith trwsio ar strwythurau fel pygfeini a grisiau pren.

Mae bod yn Wirfoddolwr Llwybrau yn rhoi’r cyfle i chi ledaenu’r gair am waith cadwraeth hanfodol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â helpu ymwelwyr i ddeall a mwynhau’r llefydd arbennig hyn.

Sut mae cymryd rhan?

Ydych chi ar gael dros gyfnodau penodol, fel y gwyliau ysgol? Neu ar ddiwrnodau penodol bob wythnos? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae rhai cyfleoedd yn dymhorol felly cadwch lygad ar wefan gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ragor o wybodaeth.

Gyda sesiwn sefydlu drylwyr a hyfforddiant parhaus, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth eich hun am y llefydd arbennig hyn, ac mae bod yn rhan o dîm Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy yn ffordd wych o ddysgu pethau newydd.

Am ragor o fanylion a sut i wneud cais, cysylltwch â’n tîm ceidwaid yn brecon@nationaltrust.org.uk

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A volunteer talking to a visitor at Wightwick Manor and Gardens, West Midlands
Erthygl
Erthygl

Frequently asked questions on volunteering 

These frequently asked questions should give you all you need to know about who can volunteer, what it involves and how to apply.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Dyfroedd Rhaeadr Henrhyd, Powys, yn tasgu i lawr wyneb y graig i’r pwll oddi tano. Mae canghennau mawr yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech 

Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.

Golygfa o lethrau Corn Du ym Mannau Brycheiniog yn dangos y llethr serth ac erydiad llwybr troed
Erthygl
Erthygl

Gwaith ar lwybrau troed Bannau Brycheiniog 

Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol.