Skip to content

Blodyn cyntaf Cwm Idwal yn ysbrydoli creadigaeth unigryw

Model o'r Tormaen Cyferbynddail yng Nghwm Idwal
Yn ystod ymweliad ym mis Mawrth 2024, cipiodd y tormaen cyferbynddail sylw Kioko Terauchi, a greodd model o'r planhigyn yn ddiweddarach | © National Trust Images

Kioko Terauchi, a retired plant lover from Japan who spends time each year in Gwynedd, has created an astonishingly lifelike model of the purple saxifrage (saxifraga oppositifolia) — one of Eryri’s (Snowdonia’s) most hardy Arctic-alpine wild plants.

Y tormaen cyferbynddail yw’r cyntaf i flodeuo bob blwyddyn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal, yn aml mor gynnar â chanol Chwefror. Nid yw’n anarferol iddo ymddangos tra bod eira’n dal i orchuddio’r mynyddoedd, er mae’r tymor blodeuo’n gallu newid yn ôl tywydd y gaeaf.

Yn ystod ymweliad ym mis Mawrth 2024, cipiodd y tormaen cyferbynddail sylw Kioko Terauchi. Wedi’i hysbrydoli gan y planhigyn bach gwydn yma, fe greodd fodel gan ddefnyddio clai resin sy’n sychu yn yr aer, gwifren denau, lliwiau olew a glud pren i helpu pobl eraill i werthfawrogi’r planhigyn a’i ddeall.

Wrth egluro ei phroses greadigol, dywedodd Kioko:

“Rwy’n gwneud gwaith ymchwil a chynllunio dyluniad cyn creu modelau. Darganfod mwy am ryfeddod bywyd planhigion yw’r rhan fwyaf diddorol.

“Bob tro rwy’n ymweld â Gwynedd, rwy’n cael fy syfrdanu gan natur a’r gwaith i’w ddiogelu. Dwi mond yn creu modelau o flodau yr wyf wedi’u gweld, fel pe bai’r planhigion yn gofyn imi, ‘gwna fi a dangosa fi i bobl!’”

Mae Kioko hefyd yn gwirfoddoli mewn amgueddfa leol yn Japan sy’n ceisio helpu i ddiogelu planhigion alpaidd.

Model o'r Tormaen Cyferbynddail yng Nghwm Idwal
Mae'r model wedi'i wneud allan o glai resin sy’n sychu yn yr aer, gwifren denau, lliwiau olew a glud pren | © National Trust Images

Dywedodd Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal: “Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yn gartref i rai o blanhigion Arctig-alpaidd mwyaf prin Cymru, ac maent yn arbennig o fregus i effeithiau newid hinsawdd.

“Mae’r planhigion hyn yn dibynnu ar amodau oer a sefydlog, maent ar ymylon eithaf eu cynefin yma yn Eryri, ac mae unrhyw newid yn yr hinsawdd bron yn sicr o effeithio arnyn nhw gyntaf. Felly mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn hollbwysig os ydym am ddiogelu’r cynefinoedd alpaidd bregus sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Kioko am greu model mor wych o’r tormaen cyferbynddail. Mae’n cynnig ffordd bwerus o rannu stori’r planhigion rhyfeddol hyn ac i dynnu sylw at yr heriau maent yn eu hwynebu mewn hinsawdd sy’n newid.”

Tormaen Cyferbynddail
Mae’r tormaen cyferbynddail yn blanhigyn rhyfeddol ac ymhlith y planhigion blodeuol mwyaf gogleddol ar y Ddaear | © National Trust Images

Mae’r tormaen cyferbynddail yn blanhigyn rhyfeddol ac ymhlith y planhigion blodeuol mwyaf gogleddol ar y Ddaear, gyda chofnodion cyn belled ag arfordir gogleddol Yr Ynys Las. Mae’r enw ‘tormaen’ neu ‘saxifraga’ yn Lladin yn golygu torri cerrig, sy’n adlewyrchu ei allu anhygoel i ffynnu mewn tirweddau creigiog llym.

Mae gan y planhigyn hefyd ffordd unigryw o gael gwared ar galch dros ben trwy chwarennau bach ar ei ddail, gan adael smotiau gwyn sy’n ei gwneud hi’n haws ei adnabod. Mae’r enw Cymraeg, ‘cyferbynddail’, yn ei ddisgrifio’n berffaith gyda’i ddail pâr a’i ffurf nodweddiadol.

Mae Partneriaeth Cwm Idwal yn cynnwys Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.