Harddwch ac etifeddiaeth crawiau yn Eryri

Yn nhirweddau garw Eryri roedd crawiau llechi ar un adeg yn olygfa fwy cyffredin yn yr ardal. Helpwyd y strwythurau nodedig hyn, a wnaed o wastraff llechi, i lunio cymeriad y wlad gyfagos am genedlaethau.
Treftadaeth gyda'i wreiddiau mewn diwydiant
Nid yw amlygrwydd crawiau llechi mewn sawl rhan o Eryri yn gyd-ddigwyddiad. O ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, ffynnodd y diwydiant llechi, gan gynhyrchu nifer enfawr o ddeunydd a luniodd nid yn unig doeau ac adeiladau ond hefyd ffiniau'r tir. Roeddent yn nodi caeau da byw, terfynau ystadau, a ffermdai. Yn wir, roedd yn ddull mor boblogaidd fel ei fod yn aml yn sgil a drosglwyddwyd trwy'r cenedlaethau.

Adfywio crefft
Gyda chynnydd mewn deunyddiau fel pyst pren a ffensys gwifren, dechreuodd traddodiad crawiau lechi bylu. Heddiw, mae llawer llai o bobl yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i adeiladu'r strwythurau parhaol hyn.
Gyda hyn mewn golwg, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn helpu nid yn unig i uwchsgilio ceidwaid, ond gwirfoddolwyr hefyd yn y grefft hon. Yn Nant Ffrancon, cwblhawyd ffens lechi yn ddiweddar gan geidwaid a gwirfoddolwyr sy'n newydd i'r grefft. Mae'r ymdrechion hyn nid yn unig yn gwarchod sgil ond hefyd yn ailgysylltu pobl â'r tir a'i hanes.

Meddai Tom Gould, Ceidwad: “Mae'r grefft o greu crawiau yn gymharol syml. Rydych chi'n cloddio am gyhyd ag y mae angen i'r ffens fynd, tua 30cm neu fwy o ddyfnder. Wedyn yr ydych yn creu traed llechi i helpu'r crawiau i aros yn gadarn trwy fwy o arwynebedd. Yna, rydych chi'n cywasgu'r pridd i atgyfnerthu'r droed a'r piler o lechan cyn lapio dau linyn o wifren o amgylch y llechi. A dyna ni fwy neu lai.
“Un o'r pethau rwy'n ei hoffi am crawiau yw bod pob ffens yn adrodd stori. Nid oes dau lechan yr un peth; mae eu siapiau a'u gwedd yn adlewyrchu daeareg y tir a hanes lleol.
“Yn wahanol i ffensys post-a-gwifren fodern, sy'n para tua 25 mlynedd mewn amodau perffaith, gall crawiau llechi sydd wedi'u hadeiladu'n dda sefyll am dros 150 mlynedd, sy'n rhyfeddol.”