Natur i Bobl Nant Ffrancon

Wedi'i ariannu gan bron i £1m o Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’r prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon yn ceisio adfer byd natur ar raddfa eang dirweddol.
Y prosiect
O gopaon mynyddoedd Cwm Idwal i waelod Dyffryn Ogwen a phopeth yn y canol, mae’r dyffryn dynodedig yn wynebu dirywiad ecolegol difrifol. Mae cynefinoedd wedi dod yn rhanedig ac mae rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys mwyalchen y mynydd a llinos y mynydd, mewn perygl o ddiflannu.
Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner, ar dir y mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu amdano yn y dyffryn, mae clytwaith o dros 1635 hectar (4040 erw) o gynefinoedd yn cael ei hadfer a’i diogelu.
Creu cysylltiadau a stiwardiaeth ar y cyd
Bydd Hwb Natur Ogwen wrth wraidd y prosiect, yn bwynt canolog ar gyfer adfer byd natur, dysgu a gweithredu ac ymgysylltu cymunedol. Bydd cyfleusterau’n cynnwys coeden frodorol a meithrinfa blanhigion, lle ar gyfer hyfforddi sgiliau, cynnal digwyddiadau cymunedol ac ysgolion.
Gan ddod â’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn treulio amser yn Nant Ffrancon ynghyd, bydd y prosiect yn helpu i lywio rheolaeth a gweithgareddau’r dyfodol sy’n adlewyrchu gwybodaeth, anghenion a dyheadau lleol, gan helpu i feithrin cysylltiad lleol a stiwardiaeth treftadaeth naturiol yn y dyffryn.
Creu gwaddol
Tlysau Mynydd Eryri, prosiect cadwraeth y bartneriaeth dan arweiniad Plantlife Cymru i ddiogelu dyfodol rhai o’r planhigion alpaidd mwyaf prin yng Nghymru, yw un o’r prosiectau y bydd Natur i Bobl Nant Ffrancon yn darparu gwaddol ar ei gyfer. Er enghraifft, bydd y prosiect yn adeiladu ar y defnydd arloesol o goleri da byw GPS i reoli pori yn fwy manwl. Defnyddir y dechnoleg hon ar hyn o bryd ym Mlaen y Nant, fferm draddodiadol yr ucheldir dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r elusen gadwraeth yn awyddus i’w hail-osod y flwyddyn nesaf.
Rhai o'r pethau y bwddwn yn ei wneud
- Bydd cynefinoedd o flaenoriaeth gan gynnwys corsydd ucheldir, rhosydd mynyddig, afonydd a glaswelltir blodau gwyllt yn elwa o ymyriadau ymarferol wedi’u targedu, megis pori.
-
Bydd arolygon ecolegol a monitro rheolaidd yn mapio effaith y gwaith ar adfer Nant Ffrancon, gan ddefnyddio rhywogaethau megis bele’r coed a dyfrgwn, a phlanhigion megis aethnen a meryw fel dangosyddion o iechyd y dyffryn wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
-
Bydd Hwb Natur Ogwen wrth wraidd y prosiect, yn bwynt canolog ar gyfer adfer byd natur, dysgu a gweithredu ac ymgysylltu cymunedol.
-
Bydd meithrinfa blanhigion yn cael ei sefydlu fel rhan o Hwb Natur Ogwen.
-
Menter arall sy’n ategu’r prosiect newydd yw partneriaeth barhaus gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn canolbwyntio ar adfer mawndir ac ail-gysylltu Afon Ogwen gyda’i gorlifdir. Bydd hyn yn gwella amgylchedd naturiol Nant Ffrancon ymhellach, gan wrthdroi degawdau o golledion a helpu i ail-adeiladu gwytnwch ecolegol a hinsawdd.
Mae prosiect Natur i Bobl Nant Ffrancon, fydd yn parhau hyd at ddechrau 2029, yn cyfrannu’n uniongyrchol at uchelgais yr elusen cadwraethol i greu 250,000 hectar o dirweddau sy’n gyfoethog o ran natur, ar dir yr Ymddiriedolaeth ac oddi arno yn y ddegawd nesaf. Bydd yn mynd i’r afael â’r dirywiad trychinebus mewn byd natur ar hyd a lled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cymryd rhan
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect drwy gyfleoedd gwirfoddoli neu os hoffech gael gwybod mwy, anfonwch e-bost i eryri@nationaltrust.org.uk
Diolch i'n cyllidwyr
Derbyniodd y prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon arian drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ein partneriaid

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.