Skip to content

Gwylio adar yng Nghemlyn

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Ymwelydd yn cerdded ym Mae Cemlyn, Ynys Môn | © National Trust Images/John Millar

Bydd cerdded ar hyd tirwedd arw arfordir gogleddol Ynys Môn yn cynnig cyfle i wylio amrywiaeth o adar anarferol. Rheolir Cemlyn a chaiff ei fonitro fel gwarchodfa natur – un o’r rhai cyntaf yng Nghymru, gyda’r llyn yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Hanes Cemlyn, Ynys Môn

Mae enw Cemlyn yn cyfleu ffurf anarferol y llyn naturiol, wedi ei wahanu oddi wrth y môr gan un gefnen o ro, mae ‘llyn cam’ yn cyfleu siâp y llyn. Mae’n cynnwys melin hanesyddol ac eglwys o’r canol oesoedd a hwn oedd safle cwch achub cyntaf Ynys Môn.

Arfordir peryglus

Gwelodd y draethell greigiog ar hyd yr ardal hon nifer o longddrylliadau yn y gorffennol ac mae’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig, sy’n rhedeg ar hyd arfordir Ynys Môn. Dynodwyd rhan helaeth o’r arfordir o gwmpas Cemlyn hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Arctic tern parent brooding two young chicks in the ground nest, on the Farne Islands, Northumberland
Môr-wenoliaid y Gogledd gyda chywion | © National Trust Images/GillianDay LRPS

Ymwelwyr yr haf yn dychwelyd

Mae Cemlyn yn gartref i gytref sy’n bwysig yn rhyngwladol o fôr-wenoliaid pigddu, uchafbwynt y flwyddyn yw pan fydd y gytref o fôr-wenoliaid yn dychwelyd yn ystod misoedd Mai hyd at Orffennaf. Gellir gweld cytiroedd o fôr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid y Gogledd a’r fôr-wennol gyffredin yn yr ardal, ac fe welodd ambell un lwcus y fôr-wennol wridog.

Cemlyn yw lleoliad y gytref o fôr-wenoliaid sy’n drydydd o ran maint yn y Deyrnas Unedig, gyda thua 1,500 pâr wedi eu cyfri yn y blynyddoedd diwethaf.

Mynd â chŵn am dro

Mae hon yn ardal wych i fynd â’ch ci am dro, gydag amrywiaeth o lwybrau gwahanol.

O ystyried bod cymaint o adar yn yr ardal rydym yn gofyn i chi gadw eich ci ar dennyn byr bob amser a bod unrhyw faw cŵn yn cael ei godi. Mae hyn yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, ond yn arbennig felly yn ystod y tymor nythu ac o gwmpas y bywyd gwyllt.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.

Maes parcio ar lanw uchel

Gall y maes parcio ar ben gorllewinol Bae Cemlyn fynd dan ddŵr pan fydd y llanw’n uchel. Edrychwch ar amser y llanw cyn eich ymweliad.

Ymwelydd yn cerdded ym Mae Cemlyn, Ynys Môn

Darganfyddwch fwy yng Nghemlyn

Dysgwch sut i gyrraedd Cemlyn, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci 

Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.

Wiwer goch ar gangen yn bwyta rhywbeth â rhedyn gwyrdd tu ôl iddi, ar Ynys Brownsea, Poole, Dorset
Erthygl
Erthygl

Gwiwerod coch Plas Newydd 

A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.