Skip to content

Gwiwerod coch Plas Newydd

Wiwer goch ar gangen yn bwyta rhywbeth â rhedyn gwyrdd tu ôl iddi, ar Ynys Brownsea, Poole, Dorset
Gwiwer goch yng nghanol rhedyn yn mwynhau tamaid o fwyd | © National Trust Images/Chris Lacey

Roedd gweld y wiwer goch yn y gwyllt yn ddigwyddiad prin ers y dirywiad difrifol yn eu niferoedd yn yr 1990au, ond diolch i raglen ail-gyflwyno Plas Newydd ac ardaloedd eraill tebyg ar draws Ynys Môn, gallant yn awr gael eu gweld yn gyson yn yr ardd a’r coetir ym Mhlas Newydd.

Dechreuadau bychain

Fe ddaethon ni â chwe gwiwer goch i Blas Newydd ym mis Hydref 2008 a’u cadw mewn rhan gaeedig o’r goedwig am ychydig wythnosau. Yna fe gawson nhw eu rhyddhau i’r coed collddail. Fe wnaethon nhw fagu’n llwyddiannus ac maen nhw bellach i’w gweld drwy’r stad ac mae rhai wedi croesi Afon Menai hyd yn oed.

Gweld y wiwer goch ym Mhlas Newydd

Mae’r creaduriaid bach swil yma mor boblogaidd gyda'r ymwelwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd gweld wiwer goch yn arfer bod yn beth prin iawn, ond diolch i’r rhaglen ailgyflwyno fel rhan o Brosiect Wiwerod Coch Môn, mae'n ymddangos eu bod nhw’n ffynnu.

Mae yna lefydd bwydo newydd o gwmpas y coed ac maen nhw i’w gweld yn reit aml rŵan, sy’n dipyn o wefr. Plas Newydd ydy’r lle i ddod i’w gweld nhw erbyn hyn, yn enwedig i ffotograffwyr natur brwd.

A close up of a red squirrel on a branch on the floor of woodland on Brownsea Island, Dorset
Gwiwer goch yn chwilio am fwyd | © National Trust Images/James Dobson

Ffeithiau am wiwer goch

  • Mae’r gwiwerod yn nofwyr gwych (ai dyna sut y maen nhw wedi croesi i’r tir mawr?)
  • Hadau, mes, aeron, ffwng a rhisgl yw eu diet yn bennaf.
  • Hyd eu hoes ar gyfartaledd yw 3 blynedd.
  • Mae gwiwerod yn byw mewn nythod, yn uchel yn y coed.
  • Mae gwiwer goch llawn dwf yn mesur 20cm o hyd, gyda chynffon 18cm.
  • Byddant yn bwrw’r blew o’u clustiau unwaith y flwyddyn ar ddiwedd yr hydref.

Y mannau gorau i weld gwiwer goch ym Mhlas Newydd

Efallai eu bod yn swil, ond fe ellir eu gweld yn aml trwy’r gerddi a’r coetir, yn arbennig yng Nghoed y Capel ac ar hyd glannau’r Fenai. Wyddech chi nad yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu? Mae hyn yn golygu bod gennych well cyfle i’w gweld trwy’r flwyddyn, yn arbennig yn yr hydref a’r gaeaf pan fydd llawer llai o ddail ar y coed.

A close up of a red squirrel climbing a tree on Brownsea Island, Poole Harbour, Dorset
Dewch i gael cip ar y gwiwerod yn y coed ym Mhlas Newydd, Ynys Môn | © National Trust Images / Chris Lacey

Wardeniaid gwiwerod coch gwirfoddol

Er mwyn cadw llygad ar ein gwiwerod coch a sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu, mae tîm o Wardeiniaid Gwiwerod Coch yn gwirio’r gorsafoedd bwydo yn gyson ac yn gofalu am flychau nythu a chynefin y gwiwerod.

Er mwyn dysgu rhagor am yr anifeiliaid bach ofnus yma, gofynnwch yn y Ganolfan Ymwelwyr am y Daith Gwiwerod Coch a Theithiau siarad gydag un o’n wardeiniaid.

Yr ardd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru, yn llawn blodau yn yr haf gyda’r tŷ yn y cefndir.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Golygfa o Blas Newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Hanes Plas Newydd 

Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.