Skip to content

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci

Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon
Ci gyda theulu | © National Trust Images/John Millar

Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu mwy o gŵn nag erioed i’r ardd a thir Plas Newydd, Ynys Môn. Ewch am dro ar hyd glan Afon Menai gyda’ch cyfaill ar bedair coes neu crwydrwch i’r ardd a’r coetir i fwynhau’r awyr iach. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld Eryri ar draws y Fenai.

Ein system sgorio pawennau

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen.

Mae gan y llefydd hyn bowlenni dŵr, biniau baw ci a llwybrau cerdded sy’n wych i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i mewn i rai ardaloedd, ond nid bobman. Os oes ‘na rywle i gael bwyd a diod, byddwch chi’n gallu cael paned o de gyda’ch ci, yn yr awyr agored fwy na thebyg. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.

Beth sy’n agored i gŵn ym Mhlas Newydd?

Mae croeso i gŵn ymweld â phob ardal yn ein gerddi a’n tiroedd bron. Mae hyn yn cynnwys tu allan i’r plasty, yr Ardd Rhododendron a’r Cwm Camelia. Mentrwch ymhellach i Ddôl y Coroni a’r Ardd Goed trwy Goed yr Eglwys.

Beth sydd angen i mi ei wybod ym Mhlas Newydd?

Cadwch eich ci ar dennyn byr, os gwelwch yn dda. Os oes gennych dennyn sy’n ymestyn, cadwch o’n fyr yn ystod eich ymweliad.

Ble fydd fy nghi ddim yn cael mynd?

Dim ond cŵn cymorth all fynd i’r tŷ. Ni chaiff cŵn fynd i’r Ardd Deras chwaith. Oherwydd y gwaith plannu manwl yma mae’n cael ei gadw’n ddi-gŵn.

Ymwelydd a’i gi yn cerdded ar lwybr yn y pellter rhwng coetir a chae wedi ei ffensio ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Gogledd Cymru
Ymwelydd ym Mhlas Newydd yn dangos coed yn y blaendir a cherddwr gyda chi yn y cefndir | © National Trust Images/James Dobson

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Little dog sat with tongue out looking excited to try the tub of Scoop's Ice Cream for Dogs being held by a girl at Dunster Castle, Somerset
Gallwch chi’ch dau fwynhau trît | © National Trust Images/James Dobson

Lluniaeth i chi a’ch ci

Mae Caffi’r Hen Laethdy yn agos at y Ganolfan Ymwelwyr yn derbyn cŵn, felly nid oes raid i chi eistedd allan yn y glaw. Mae byrddau cŵn penodedig ar gyfer eich ffrindiau pedair coes yn y caffi. Mae croeso i gŵn yn y siop hefyd.

Mae bowlenni dŵr i gŵn ar gael tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr, Caffi’r Hen Laethdy a Chiosg yr Ystafell Haul.

Biniau cŵn

Cofiwch lanhau ar ôl eich ci a gwaredu unrhyw ‘wastraff’ yn y biniau cŵn coch a ddarperir. Mae biniau yn y Ganolfan Ymwelwyr, y fynedfa i Goed yr Eglwys ac ychydig y tu ôl i’r Ffiwsias gyferbyn â Gardd y Teras.

Ceir map yn dangos lleoliad y biniau yma. Gellir lawrlwytho hwn yn rhwydd i’ch ffôn neu dabled.

Ydych chi wedi ymweld â Phlas Newydd gyda'ch ci?

Beth am rannu unrhyw luniau o'ch diwrnod ar Facebook, X neu Instagram? Peidiwch ag anghofio tagio ni @plasnewyddnt a #PlasNewyddNT

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Cacennau cri, crwn, fflat yn llawn o gyrens yn y bwyty ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Wiwer goch ar gangen yn bwyta rhywbeth â rhedyn gwyrdd tu ôl iddi, ar Ynys Brownsea, Poole, Dorset
Erthygl
Erthygl

Gwiwerod coch Plas Newydd 

A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.

Ymwelydd yn mynd â'i gi am dro ar yr arfordir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Ynys Môn gyda'ch ci 

O draethau sy’n croesawu cŵn a llwybrau arfordirol, i goetiroedd a gerddi, mae digonedd o leoedd i ymweld â nhw gyda’ch ci yn Ynys Môn.

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Golygfa ar draws Afon Menai i Blas Newydd o Lan Faenol, Ynys Môn, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol 

Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Ymwelwyr yn cerdded ym Mhlas Newydd, Gogledd Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith hawdd ym Mhlas Newydd 

Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)