Skip to content

Hanes Pont Grog Conwy

Tŷ’r tollborth wrth Bont Grog Conwy ar ddiwrnod heulog
Tŷ’r tollborth wrth Bont Grog Conwy | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Wedi’i adeiladu rhwng 1822 a 1826, Pont Grog Conwy oedd un o’r pontydd hynaf o’i math sy’n dal yn bodoli heddiw. Hyd y bont yw 99.5m ac mae’n gampwaith o beirianneg y 19eg ganrif.

Yr angen am bont

Ers yr Oesoedd Canol, mae pobl wedi defnyddio’r lleoliad hwn i groesi Afon Conwy. Cyn 1826, roedd yn rhaid i deithwyr ddefnyddio cychod. Roedd gan y daith drosodd enw drwg am ei llanwau peryglus, tywydd anrhagweladwy a chychwyr annymunol. Gwaethygodd y peryglon hyn wrth i’r drafnidiaeth a nifer y teithwyr gynyddu yn ystod y 18fed ganrif.

Wrth i fasnach gynyddu yn ystod y 18fed ganrif, daeth y ffordd o Gaer i Gaergybi yn llwybr pwysig i Iwerddon ac ym 1821, cymeradwyodd llywodraeth Prydain adeiladu Pont Grog Conwy yn swyddogol. Dewisodd Thomas Telford y lleoliad hwn o dan y castell oherwydd ei sylfeini cadarn. Cymerodd bedair blynedd i adeiladu’r bont ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf, 1826.

Arwydd du gyda llythrennau gwyn yn rhoi manylion y ffioedd am groesi Pont Grog Conwy, Conwy.
Bwrdd ffioedd y doll ar Bont Grog Conwy | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Tŷ’r tollborth yng Nghonwy

Dyluniodd Thomas Telford y tolldy ar gyfer ceidwad y tolldy. Roedd derbyniadau’r ceidwad yn helpu i dalu am gynnal y bont. Casglwyd y tollau yma wrth y giât serenaddurn unigryw. Mae’r costau am groesi ym 1891-2 wedi eu harddangos uwchben drws y tolldy. Roedd yn rhaid i bobl, anifeiliaid a cherbydau dalu toll ond hefyd berfâu a hyd yn oed y llythyrau a gludwyd gan y goets o Gaer i Gaergybi. Yn ystod 10 mlynedd gyntaf y bont, cododd y doll am lythyrau £101,708 a chododd y traffig £16,580.

Yn yr 1890au roedd teulu o chwech yn byw yn nhŷ’r tollborth, gan gymryd y tollau am y bont 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos. 

Cadwai David a Maria Williams bont Thomas Telford ar agor bob dydd o’r flwyddyn a byddai Maria yn golchi dillad i bobl tref Conwy i wneud rhagor o arian i gynnal y teulu. Datblygodd David ardd lysiau, byddent yn gwerthu unrhyw fwyd oedd dros ben i bobl oedd yn croesi’r bont. Dyma enghraifft gynnar o ardd fasnachol.

Trafnidiaeth yr 20fed ganrif

Yn y 1820au, croesi’r bont oedd y ffordd gyflymaf oedd ar gael. Dyluniodd Telford y ffordd gyda’r graddiant uchaf o 1:20, fel y gallai coets a dynnwyd gan geffyl deithio ar gyflymder cyson o 10 milltir yr awr.

Wrth i’r defnydd o gerbydau modur gynyddu, daeth y broses o groesi’r ffordd sengl yn hynod o araf. Wrth adeiladu pont ffordd gyfagos, nid oedd diben bellach i bont Telford a chroesodd y car diwethaf ar 30ain Tachwedd, 1958 am 8.30pm.

Ym 1965, arweiniodd refferendwm ymhlith trigolion Conwy at y mwyafrif yn pleidleisio i ddymchwel y bont, oherwydd y costau i’w chynnal. Cododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr arian i achub y bont, yn dilyn apêl i’w haelodau. Llwyddodd rhaglenni atgyweirio sylweddol ym 1988 a 1995 i warchod y strwythur a lleihau’r pwysau ar y cadwyni.

Heddiw, mae’r bont ar agor drwy gydol y flwyddyn i gerddwyr a beicwyr.

Tyrrau a chadwyni Pont Grog Conwy

Darganfyddwch fwy yn Bont Grog Conwy

Dysgwch pryd mae Pont Grog Conwy ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Adeiladau rhyfeddol yng Nghymru 

Mae Pont Grog Conwy yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Clawr llyfr 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Asaleas a rhododendrons yn eu blodau ym mis Mai yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref