Skip to content

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Castell Penrhyn, Gogledd Cymru | © National Trust Images/John Millar

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant. Fe’i ailadeiladwyd rhwng 1820 a 1837 i George Hay Dawkins Pennant ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Edrychwch yn fanylach ar gefndir y castell neo-Normanaidd hwn a’r teulu oedd yn berchen arno.

Teulu Pennant

Roedd y teulu Pennant wedi bod yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica ers canol yr ail ganrif ar bymtheg. Erbyn yr 1730au, roeddent wedi symud yn ôl i Loegr, gan ddod yn fasnachwyr sefydledig yn Lerpwl a Llundain, gan ddal i gael budd fel meistri tir absennol o elw eu hystadau yn Jamaica – a’r cannoedd o Affricaniaid caeth oedd yn gweithio iddyn nhw.

Y Barwn Penrhyn Cyntaf

Richard Pennant (1737–1808), AS Lerpwl, a’r Barwn Penrhyn cyntaf a sefydlodd Gastell Penrhyn fel prif ystâd y teulu. Ymgyrchodd yn erbyn diddymu caethwasiaeth a buddsoddodd ei elw o Jamaica yn ei ystadau amaethyddol yn Sir Gaernarfon a Chwarel Lechi’r Penrhyn. Adeiladodd Borth Penrhyn, yn ogystal â ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion, gwestai, tai i’r gweithwyr, eglwysi a ffermydd.

George Hay Dawkins Pennant

Pan fu Richard farw aeth ei ystâd i’w gefnder, George Hay Dawkins Pennant (1764–1840). Fel Aelod Seneddol dros Newark yn Swydd Nottingham a New Romney yng Nghaint, gwrthwynebodd ryddfreinio pobl gaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig a phan ddiddymwyd caethwasiaeth yn y diwedd, derbyniodd Dawkins Pennant £14,683 o iawndal am 764 o bobl gaeth ar ei ystadau yn Jamaica: Pennant’s, Denbigh, Cote’s a Kupuis.

Pensaernïaeth

Adeiladwyd y castell gan y pensaer enwog Thomas Hopper. Roedd Hopper yn adnabyddus am ei allu i ddilyn unrhyw arddull pensaernïol, dewisodd gynllun neo-Normanaidd i’r castell – yr oedd wedi ei ddefnyddio yn Gosford, Sir Armagh, ond fe’i perffeithiwyd yn y Penrhyn.

Addurniadau rhyfeddol

Roedd yn hoffi cael ei gynnwys ym mhob manylyn ac fe oruchwyliodd y gwaith o ddylunio ac adeiladu dodrefn, carpedi a gwrthrychau addurnol y castell hefyd, y cyfan yn yr un arddull neo-Normanaidd afradlon a chwareus. Roedd y dodrefn yn cynnwys anifeiliaid, wynebau a phatrymau rhyfeddol, a defnyddiodd allu crefftwyr lleol ar eu cyfer, gyda rhai o dderw, eboni, marmor a hyd yn oed llechi o chwarel y Penrhyn.

Arglwydd Penrhyn o Landygái 1af

Yn 1840, a’r castell wedi ei orffen, bu farw George Hay Dawkins Pennant. Ei ferch Julianna etifeddodd y Penrhyn a chymerodd ei gŵr, Edward Gordon Douglas yr enw Pennant ac yn ddiweddarach daeth yn Arglwydd Penrhyn o Landygái 1af.

Cyfoeth a wnaed ar y planhigfeydd

Datblygodd ychydig o dirfeddianwyr grymus a chyfoethog fel Arglwydd Penrhyn chwareli bach lleol yn ddiwydiant byd-eang. Mewn rhai achosion, roedd y cyfoeth hwn wedi ei wneud ar blanhigfeydd siwgr oedd yn cael eu gweithio gan bobl o Affrica oedd yn gaethweision yn y Caribî.

Wrth i’r Chwyldro Diwydiannol gyflymu yn ei flaen, wedi ei yrru gan elw caethwasiaeth a gwladychiaeth, cynyddodd y galw am lechi. Roedd dinasoedd ym mhob rhan o’r byd yn tyfu a defnyddid llechi o chwareli Gwynedd i doi cartrefi’r gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, mannau addoli a ffatrïoedd ar draws y byd.

Oriel Gogledd Cymru

Cyn iddo farw, roedd George Hay Dawkins Pennant wedi mynegi ei ddymuniad bod casgliad da o beintiadau i gael ei lunio yn y Penrhyn a rhoddodd y dasg i’w fab-yng-nghyfraith (yr Arglwydd Penrhyn newydd).

Y Casgliad Celf

Crynhodd Edward gasgliad eithriadol o beintiadau o’r Iseldiroedd, Fenis a Sbaen gyda’ chymorth y cynghorydd celfyddydol o Wlad Belg, C.J. Nieuwenhuys. Ymhlith yr enwau mawr roedd Canaletto, Rembrandt, Wouwermans, Ruijsdael, Belotto a Palma Vecchio. Gellir gweld llawer o’r lluniau yma yn y Castell o hyd a rhoddodd y casgliad yr enw i’r Penrhyn o fod yn ‘Oriel Gogledd Cymru’ ar y pryd.

Ystafell India Isaf yng Nghastell Penrhyn, yn dangos y dodrefn derw gan gynnwys gwely, a phapur wal Tsieineaidd
Ystafell India Isaf yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Michael Caldwell

Casgliadau Dwyrain a De Asia

Nodwedd drawiadol arall o waliau mewnol Penrhyn yw’r papurau wal Tsieineaidd a beintiwyd, a osodwyd yn yr 1830au. Yn cyd-fynd â’r papurau wal moethus mae dodrefn lacer ac wedi eu japanio a chrochenwaith wedi eu gwneud yn Tsieina a Japan, yn ogystal â dodrefn eboni wedi eu cerfio o Sri-Lanka.

Newidiadau’r ugeinfed ganrif

Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, dechreuodd y berthynas rhwng Penrhyn a’r cymunedau lleol ddirywio. Arweiniodd y cam-fanteisio ar weithwyr yn y chwarel at yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.

Hawliau ac amodau gweithwyr y chwarel

Cychwynnodd yr anghydfod yn 1900 gan ganolbwyntio ar hawliau Undebau, cyflogau ac amodau gwaith. Roedd y Streic Fawr yn frwydr chwerw rhwng Arglwydd Penrhyn a’r chwarelwyr, a theimlir ei heffeithiau hyd heddiw.

Pumed Arglwydd Penrhyn

Yn 1949, ar ôl marwolaeth y pedwerydd Arglwydd Penrhyn, gwahanwyd y tir a’r teitl. Aeth y teitl i Frank Douglas Pennant, a ddaeth yn bumed Arglwydd Penrhyn, ac aeth y tir i nith y pedwerydd Arglwydd, yr Arglwyddes Janet Harper.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth Castell Penrhyn, ynghyd â stadau Ysbyty Ifan a’r Carneddau dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yr unfed ganrif ar hugain: Wynebu Gwladychiaeth a Chaethwasiaeth

Mae ein hymchwil yn parhau ac rydym yn cyflymu cynlluniau i ail-ddehongli storïau’r hanes poenus a heriol sy’n gysylltiedig â Chastell Penrhyn. Bydd hyn yn cymryd amser gan ein bod am sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn cael eu cynnal a’u seilio ar ymchwil o safon uchel.

Yr unfed ganrif ar hugain: Safle Treftadaeth y Byd

Daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys Castell Penrhyn, yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd, ar ôl derbyn y clod yng Ngorffennaf 2021. Mae i’r Castell le canolog yn hanes yr ardal, a bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Safle Treftadaeth y Byd i ymchwilio ymhellach i arwyddocâd y safle.

Y Pedwerydd yng Nghymru

Daeth y dirwedd yn rhif 32 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO a’r 4ydd yng Nghymru, yn dilyn Traphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n rhedeg trwy Wynedd i gyd, yn arweinydd y byd o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn yr 1800au. Bu chwareli llechi yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd ac fe’i defnyddiwyd i adeiladu rhannau o’r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy.

‘Mae chwarela a chloddio am lechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae'r cymunedau'n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon gan UNESCO yn helpu i ddiogelu'r gwaddol a'r hanes hwnnw yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol.’

- Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)

Casgliadau Castell Penrhyn

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell Penrhyn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.

Dyfrlliw yn cael ei ddangos fel delwedd ffotograffig ddu a gwyn. Yn nodi’r lleoliad fel Jamaica yn dangos bryniau, palmwydd a chychod. O gasgliad Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Castell Penrhyn a hanes fasnach gaethwasiaeth 

Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.

Clawr llyfr 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Adeiladau rhyfeddol yng Nghymru 

Mae Castell Penrhyn yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.