Skip to content

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Grug ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellte | © National Trust Images / Joe Cornish

Mae Hafod y Llan yn ymestyn o waelod y dyffryn yn Nant Gwynant i fyny llethrau serth, dramatig yr Wyddfa. Dyma’r fferm fwyaf sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae rhan ohoni wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol. O grwydro’r ffermdir i ddarganfod prydferthwch ehangach Eryri, Hafod y Llan yw’r lle perffaith i gerddwyr a phawb sy’n caru natur.

Hafod y Llan

Mae Hafod y Llan yn fferm fynydd hanesyddol bwysig ar lethrau deheuol yr Wyddfa, y Lliwedd a’r Aran.

Mae nodweddion diwylliannol ac archeolegol wedi’u dotio yma ac acw ar Lwybr Watkin, sy’n eich tywys i gopa’r Wyddfa.

Mae gweddillion tramffyrdd trawiadol a barics gweithwyr yn atgof o’r chwareli llechi Fictoraidd a fu yng Nghwm Llan, tra bod bryniau’r fferm yn frith o fwyngloddiau copr eang.

Llwybrau cerdded o Hafod y Llan

O’r wersyllfa ar y fferm, gallwch gerdded i fyny Llwybr Watkin, heibio i weddillion gorffennol diwydiannol Cwm Llan, drwy Warchodfa Natur Genedlaethol ac i gopa uchaf Cymru. 

Cerddwch i grognant Bylchau Terfyn i edmygu’r môr o blu’r gweunydd ym mis Mehefin, neu’r glwbfrwynen frown ym mis Awst.

Heiciwch i’r Lliwedd a cherdded drwy rug tywyll a hefyd y boblogaeth fwyaf yng Nghymru o feryw bach (90% ohono, a dweud y gwir).

Mae unrhyw lwybr o’r fferm yn cynnig golygfeydd godidog o Eryri a theithiau cerdded campus drwy gydol y flwyddyn.

Buwch Ddu Gymreig ymysg plu’r gweunydd ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Gwartheg Duon Cymreig ar fferm Hafod y Llan | © National Trust Images / Joe Cornish

Natur Hafod y Llan

Mae rhan fawr o Hafod y Llan wedi’i dynodi’n safle Natura 2000 Ewropeaidd ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Ond yn llawn mor bwysig yw’r ffaith ei bod yn ddarn byw o dreftadaeth ucheldirol wledig Cymru.

Gallech ddod ar draws ein buches draddodiadol o Wartheg Duon Cymreig i fyny ar y mynydd, neu ein defaid mynydd Cymreig enwog, ond un mamal arall y gallech ei weld yn Hafod y Llan yw’r afr wyllt. Mae’r creaduriaid ystwyth hyn yn aml i’w gweld ar y clogwyni serthaf.

O’r clogwyni geirwon, cadwch olwg am frain coesgoch a hebogiaid sy’n bridio, tra yn y coed fe allech weld y gwcw neu wybedog brith, sy’n llenwi wybren y gwanwyn a’r haf â’u halawon swynol.

Cartref i gynefinoedd arbennig

Saernïwyd Hafod y Llan gan genedlaethau o ffermio defaid, geifr a gwartheg, ac mae’r cynefinoedd yno’n adlewyrchu hyn.

Mae blancedi o friallu a chlychau’r gog yn gorchuddio’r dyffrynnoedd coediog o dderw ac ynn yn y gwanwyn. Mae ucheldiroedd y fferm yn gartref i rywogaethau prin fel y cnwp-fwsogl, sy’n manteisio ar y rhostiroedd a borir, a phren y ddannoedd a’r tormaen serennog yn yr ardaloedd mwy anghysbell.

Beautiful views of Beddgelert, Gwynedd, Wales

Darganfyddwch fwy am Craflwyn a Beddgelert

Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru, gyda chymylau ar y bryniau yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Hanes Hafod y Llan 

Dysgwch am hanes cyfoethog fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru, gan ddechrau yn y 12fed ganrif.

Tri ymwelydd yn sefyll dan goeden gyda’r haul yn tywynnu trwy’r canghennau ar lwybr yn Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am hanes Gelert 

Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig 

Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.

Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Hafod y Llan 

Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.

The exterior of Y Wenallt, Gwynedd

Y Wenallt 

A cosy and simple first floor escape above a farmhouse, in the stunning setting of the Eryri (Snowdonia) mountain range, perfect for walkers.

The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd

Hen Dy 

Characterful stone-built cottage on the Hafod Y Llan estate, great for exploring Eryri (Snowdonia).

The exterior of The Chalet At Tan Yr Ogof, Gwynedd

The Chalet at Tan yr Ogof 

Close to Beddgelert and sitting in secluded woodland, this is the perfect base for exploring Eryri (Snowdonia).

The outdoor bath and shower at Cartref, Gwynedd

Cartref 

In the heart of Eryri (Snowdonia), this cosy wooden cottage is the perfect retreat for walkers.