Skip to content

Hanes Hafod y Llan

Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru, gyda chymylau ar y bryniau yn y cefndir
Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae fferm Hafod y Llan yn eistedd ar lethrau deheuol yr Wyddfa, tirwedd sy’n gyfoeth o hanes gyda chofnodion yn estyn yn ôl i’r 12fed ganrif. Darllenwch fwy am hanes y fferm fwyaf sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Tywysog canoloesol

Yn un o’r cyfeiriadau cynharaf at y fferm, ysgrifennodd Llywelyn Ein Llyw Olaf, yr olaf o Dywysogion Gwynedd, lythyrau i Edward I o Hafod y Llan. Yn y llythyrau, mae Llywelyn yn datgan sut cafodd ei ddynion eu cam-drin gan warchodluoedd Edward mewn helfa gerllaw, a byrlymodd tensiynau rhwng y ddau am gryn amser.

Pennod ddiwydiannol

Mae olion o orffennol diwydiannol Hafod y Llan i’w gweld o gwmpas y lle o hyd - cadwch olwg am lethrau a hen gytiau gweithwyr chwarel Cwm Llan. Yn ôl y tebyg, agorwyd y chwarel yn y 1840au, gyda’r prif gyfnod o ddatblygu’n estyn o’r 1860au i’r 1870au, pan adeiladwyd tramffordd i ddyffryn Nant Gwynant. Yn ddiweddarach, cafodd melin ddŵr ei hadeiladu a’i hymestyn i brosesu copr.

Gweddillion rheilffordd y gloddfa ar ochr bryn ar ystâd Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Gweddillion rheilffordd y gloddfa ar ystâd Hafod y Llan, Eryri | © National Trust Images / Joe Cornish

Y llwybr troed dynodedig cyntaf yng ngwledydd Prydain

Diolch i’r chwarel, roedd llwybr yn barod yn arwain o Nant Gwynant i Gwm Llan, ymhell cyn i Syr Edward Watkin ymddeol i gaban gerllaw. Ar ôl gwneud ei ffortiwn yn y diwydiant rheilffyrdd, trefnodd Syr Watkin i’r llwybr gael ei ymestyn i’r copa, ac ariannwyd y gwaith ganddo.

I ddathlu agoriad swyddogol Llwybr Watkin, y llwybr troed dynodedig cyntaf yng ngwledydd Prydain, yn rhyfeddol, gwahoddwyd y Prif Weinidog William Gladstone i’r digwyddiad lansio swyddogol.

Ym 1892, mentrodd torf o dros 2,000 o bobl drwy’r glaw i’r amffitheatr naturiol yng Nghwm Llan i wrando ar Gladstone yn siarad. Enwyd y graig fawr y safodd wrth ei hymyl yn Garreg Gladstone. Roedd yna lawer o ganu, a mynychwyd y digwyddiad gan gôr Porthmadog a Chaernarfon yn ogystal â’r AS Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach.

Cenedlaethau o ffermio

Mae Hafod y Llan wedi bod yn fferm fynydd am o leiaf 200 mlynedd. Ar ddechrau’r 1900au, mae’n siŵr y byddai gweithwyr y fferm wedi’i throi hi am Gwm Llan ac aros yn yr Hafoty, sef lloches gerrig, tra’n torri gwair. Pyrs Williams oedd un o gymeriadau mwyaf diddorol Hafod y Llan. Roedd yn adnabyddus am ei arloesedd a’i hiwmor.

Cerddwyr yn y pellter ar Lwybr Watkin ar fferm Hafod y Llan, Eryri
Cerddwyr ar Lwybr Watkin ar fferm Hafod y Llan | © National Trust Images / Paul Harris

Cipio calonnau’r genedl

Penderfynodd y teulu Williams ymddeol o ffermio ym 1997 a lansiwyd apêl i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi arian i brynu a diogelu’r fferm eiconig hon. Rhoddodd Syr Anthony Hopkins £1m drwy ei rôl fel Llysgennad Apêl Eryri, a oedd newydd ei sefydlu.

Daeth y genedl ynghyd i warchod y dirwedd eiconig hon, gan godi £4m ym 1998 i brynu a diogelu’r fferm. 

Ers hynny, mae Hafod y Llan wedi’i ffermio’n fewnol gan ein rheolwr fferm a thîm o fugeiliaid. Rydym wedi treialu dulliau newydd o ffermio cadwraeth, cynnal ‘Yr Helfa’, sef perfformiad awyr agored gan Theatr Genedlaethol Cymru, a guradwyd gan y Bardd Gillian Clarke, a gweithio’n agos gydag ysgolheigion ffermio ifanc yn Llyndy Isaf gerllaw.

Beautiful views of Beddgelert, Gwynedd, Wales

Darganfyddwch fwy am Craflwyn a Beddgelert

Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tri ymwelydd yn sefyll dan goeden gyda’r haul yn tywynnu trwy’r canghennau ar lwybr yn Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am hanes Gelert 

Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig 

Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Hafod y Llan 

Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.

Prosiect
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert 

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu ac yn ariannu gwaith cadwraeth hanfodol.

The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yn Eryri 

Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.