Skip to content

Ein gwaith yn Hafod y Llan

Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar Hafod y Llan | © National Trust Images / Joe Cornish

Hafod y Llan yw’r fferm fwyaf sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn eistedd ar lethrau’r Wyddfa ac yn gartref i wartheg a thirweddau trawiadol. Ers prynu’r fferm yn 2000, rydym wedi bod yn ei rheoli i ddiogelu ac adfer ei chynefinoedd mwyaf sensitif, fel y rhostiroedd ucheldirol a’r gorgorsydd. Darllenwch ymlaen i ddysgu am ein gwaith ar y fferm.

Bywyd ar y fferm

Mae tîm y fferm yn cynnwys Rheolwr y Fferm, Arwyn Owen a thri bugail, Elgan, Roger a Trefor. Maen nhw ar eu prysuraf yn ystod y tymor wyna ar ddechrau’r gwanwyn, wrth gneifio ar ddechrau’r haf ac wrth ddod â’r anifeiliaid oddi ar y llethrau uchaf ar ddechrau’r hydref.

Mae Hafod y Llan yn gartref i ddefaid mynydd Cymreig, Gwartheg Duon Cymreig a dau alpaca.

Meithrin natur ar y fferm

Mae rhan o’r fferm wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn gyfoeth o gynefinoedd gorgors, rhostir a meryw, yn ogystal â choetiroedd derw pwysig.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’n ceidwad cadwraeth a cheidwaid yr ardal i sicrhau bod y tir yn cael ei reoli mewn ffordd sydd o fudd i natur. Rydym yn plannu mwy o goed, yn monitro’r llystyfiant ac yn trwsio llwybrau troed sydd wedi erydu, yn ogystal â bugeilio’r praidd yn rhagweithiol er mwyn symud y defaid i ffwrdd o blanhigion sensitif.

Fferm sy’n addas i’r dyfodol

Mewn ymgais i leihau ôl troed carbon y fferm a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, glanach, mae technoleg adnewyddadwy wedi’i gosod ar y fferm – o banel solar ar do’r sied wartheg i foeler biomas yn gwresogi’r swyddfa a phwmp gwres o’r ddaear yn gwresogi’r bwthyn gwyliau, Hen Dŷ. Mae’r llethrau serth a’r holl ddŵr hefyd yn golygu ei bod hi wedi bod yn bosib gosod cynllun trydan dŵr.

Warden yn cwympo coed ar ystâd Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Warden yr Ardal, yn cwympo coed ar ystâd Hafod y Llan | © National Trust Images / Paul Harris

Bugeilio er lles cadwraeth yn Hafod y Llan

Drwy gyfuno sgiliau bugeilio traddodiadol ag amcanion cadwraeth modern, mae Hafod y Llan yn arwain treial arloesol ar gyfer rheoli cynefinoedd. Ers 2014, mae prosiect bugeilio wedi’i ariannu drwy Gytundeb Adran 16 gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae nifer y defaid wedi’i haneru o’r 4,000 gwreiddiol, ac mae buches o Wartheg Duon Cymreig wedi’i chyflwyno i bori’r mynydd a’r coedwigoedd yn yr haf. Erbyn 2010, roedd cynefinoedd yn dangos arwyddion da o adfer gyda llystyfiant yn tyfu’n dalach ac, o’r diwedd, yn cael y cyfle i flodeuo a dodi hadau. Fodd bynnag, arweiniodd hyn hefyd at danbori a gorbori ar lefel leol, sydd heb fod yn dda i’r cynefinoedd.

Er mwyn rheoli lle mae’r defaid yn pori, cyflogwyd bugail llawn-amser. Bob dydd, mae’r bugail yn symud defaid o’r ardaloedd di-ddefaid sensitif i’r ardaloedd pori. Erbyn 2015, roedd gennym ail fugail a sicrhaodd fod rhywun yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, o fore gwyn tan nos.

Heriau bugail mynydd

Nid yw bugeilio defaid er lles cadwraeth wedi dod yn ddewis poblogaidd eto yn y DU, er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n eang yn yr Alpau a’r Pyreneau.

Dyma’r enghraifft gyntaf, hyd y gwyddom ni, o fugeilio cadwraeth llawn-amser ar fynyddoedd Cymru a Lloegr. Ar wahân i’r hinsawdd Brydeinig oer a gwlyb, un o’r prif heriau gyda’r prosiect hwn yw’r ffordd y mae defaid mynydd Cymru’n pori.

Rheoli’r cynefin

Yn Hafod y Llan, mae defaid yn pori’r mynydd agored, o fewn eu cynefin. Mae gan bob dafad ei ‘thiriogaeth’ ei hun, a bydd yn helpu ei hoen bach i ymgyfarwyddo â’r ardal. Mae hyn yn sicrhau bod y praidd wedi’i wasgaru’n gyson ar hyd ochr y mynydd. Fel hyn, nid oes angen codi waliau na ffensys rhwng ffermydd.

Mae angen i’r broses fugeilio er lles cadwraeth yn Hafod y Llan ganolbwyntio ar addasu’r cynefinoedd presennol. Mae angen i ddefaid sydd wedi’u cynefino ar y cribau mynydd uchaf gael eu hail-gynefino ar lethrau is, i ffwrdd o’r cribau sensitif. Bydd hyn yn cymryd blynyddoedd, tan fod y genhedlaeth newydd o ddefaid wedi cymryd lle’r rhai presennol.

Newid y dirwedd

Y weledigaeth ar gyfer Hafod y Llan yw copaon mynydd sy’n fôr o flodau, gyda gwaelodion dyffrynnoedd yn cael eu pori. Fel hyn, bydd safleoedd allweddol yn gwella o safbwynt cadwraeth natur tra’n cynnal system fferm fynydd weithredol.

Mae’r llystyfiant a’r defaid yn cael eu monitro. Bydd adferiad y planhigion yn dystiolaeth o effeithlonrwydd y trefniadau bugeilio. Mae effaith bugeilio ar breiddiau sydd wedi’u cynefino hefyd o ddiddordeb mawr. Bydd y wybodaeth hon yn werthfawr ar gyfer gweithredu trefniadau bugeilio’n llwyddiannus ar safleoedd mynyddig sensitif eraill.

Ymwelwyr yn eistedd ger afon Glaslyn mewn coed, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Prosiect
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert 

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu ac yn ariannu gwaith cadwraeth hanfodol.

Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru, gyda chymylau ar y bryniau yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Hanes Hafod y Llan 

Dysgwch am hanes cyfoethog fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru, gan ddechrau yn y 12fed ganrif.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yn Eryri 

Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.