Skip to content
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert

Yr Wyddfa a chopaon mynyddoedd eraill gydag ystâd Hafod y Llan yn y pellter ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Cymru
Mae Hafod y Llan yn ymestyn o waelod y dyffryn yn Nant Gwynant i fyny llethrau serth, trawiadol, yr Wyddfa | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae ffermydd Craflwyn a Beddgelert wedi chwarae rôl hanfodol yng ngweledigaeth ehangach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o gynhyrchu 50% o’i hynni drwy ffynonellau adnewyddadwy, gyda phrosiectau trydan dŵr yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu yn yr ardal.

Dod â thrydan dŵr i Hafod y Llan

Mae tyrbin trydan dŵr mawr, a saernïwyd yn ofalus i gydweddu â thirwedd Eryri, wedi’i osod yn fferm Hafod y Llan, gyda’r pŵer sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei werthu drwy ein cwmni masnachu ynni adnewyddadwy newydd i bartner ynni a chyflenwr ynni gwyrdd.

Mae’r prosiect yn cynhyrchu tua 1,900 MWhr o drydan y flwyddyn, sy’n ddigon i bweru tua 445 o gartrefi.

Cyflawni cynllun uchelgeisiol

Roedd angen 300 tunnell (neu filltir) o bibellau, chwe thunnell o offer tyrbin a generadur a mwy na 100 o bobl i gyflawni prosiect hydro Eryri. Gyda’r eira a’r glaw ar lethrau deheuol yr Wyddfa a 600 o gerddwyr yn pasio’r safle bob blwyddyn, teg dweud bod y gwaith wedi bod yn eithaf heriol.

Y canlyniad yw hydro cudd sy’n dal hanner tunnell o ddŵr yr eiliad, tra’n ychwanegu’n gadarnhaol at weledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy, sydd eisoes yn cynnwys 250 o gynlluniau ynni adnewyddadwy bach a chanolig ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys technoleg biomas, solar a hydro.

Mae’r cynlluniau ynni adnewyddadwy hyn, ochr yn ochr â gwaith arbed ynni arall, am arbed tua £4m ar fil ynni’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bob blwyddyn, y gellir ei fuddsoddi mewn gwaith cadwraeth ar draws y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Mae dŵr yn cynhyrchu dyfodol adnewyddadwy yn Hafod y Llan
Mae dŵr yn cynhyrchu dyfodol adnewyddadwy yn Hafod y Llan | © National Trust Images / Joe Cornish

Gwneud Llyndy Isaf yn fferm gynaliadwy

Cyflwynwyd ynni adnewyddadwy hefyd yn y fferm drws nesaf, Llyndy Isaf, gyda thyrbin trydan dŵr yn cael ei ychwanegu a llawer o waith yn cael ei wneud ar y ffermdy i wella effeithlonrwydd ynni.

Mae’r hydro nawr yn cyflenwi’r fferm, y ffermdy a fflat y sgolor gyda thrydan, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y ddau bwmp gwres newydd sydd hefyd wedi’u gosod. Mae’r prosiect yn cynhyrchu tua 37,000 kWh o drydan y flwyddyn – mwy nag y mae’r tŷ, y fflat a’r fferm yn ei ddefnyddio.

Fel hydro cyntaf Eryri, mae’r prosiect hwn wedi lleihau biliau ynni tra’n cynhyrchu incwm drwy werthu trydan i gyflenwyr eraill. Gellir ail-fuddsoddi’r arian hwn wedyn yn y fferm a’r dirwedd gyfagos. Bydd y cynhyrchiant adnewyddadwy yma hefyd yn arbed tua 18 tunnell o Co2 y flwyddyn.

Ymwelwyr yn eistedd ger afon Glaslyn mewn coed, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Hafod y Llan 

Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.

Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru, gyda chymylau ar y bryniau yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Hanes Hafod y Llan 

Dysgwch am hanes cyfoethog fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru, gan ddechrau yn y 12fed ganrif.

Tri ymwelydd yn sefyll dan goeden gyda’r haul yn tywynnu trwy’r canghennau ar lwybr yn Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am hanes Gelert 

Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig 

Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.