Skip to content
Newyddion

Croesawu’r gwanwyn mewn steil hefo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Dinefwr

The Mari Ha! dancers perform in the formal garden at Dinefwr and are watched by a large crowd
Dawnswyr y Mari Ha! yn perfformio fel rhan o ddigwyddiad Gorymdaith y Gwanwyn yn Dinefwr | © Jason Elberts

Bu dathliad bywiog yn Dinefwr, ger Llandeilo yn fis Ebrill wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynnal Gorymdaith y Gwanwyn ar yr ystâd brydferth yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y diwrnod yn gyfle i’r gymuned gael dod at ei gilydd ac yn ddathliad o ddiwylliant a chreadigrwydd Cymreig gan ddod a phersbectif ffres ar draddodiad Sul y Blodau.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Gorymdaith y Gwanwyn yn Dinefwr | Spring Promenade in Dinefwr

Yn Ebrill 2025 cafwyd dathliad bywiog yn Dinefwr, ger Llandeilo, wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynnal Gorymdaith y Gwanwyn ar yr ystâd brydferth yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y diwrnod yn gyfle i’r gymuned gael dod at ei gilydd ac yn ddathliad o ddiwylliant a chreadigrwydd Cymreig gan ddod a phersbectif ffres ar draddodiad Sul y Blodau. Yn cynnwys gwisgoedd wedi ei creu gan yr artist Ren Wol

Wedi misoedd o baratoi, daeth ymwelwyr at ei gilydd yn eu gwisgoedd blodeuog, gan fenthyg coronau blodau ar gyfer yr achlysur cyn ymuno mewn gorymdaith lawen o amgylch Tŷ Newton tuag at yr ardd ffurfiol. Roedd grwpiau gwirfoddol crefft Dinefwr wedi bod wrthi yn creu’r coronau a’r gwisgoedd llachar, a bu’r artist Ami Marsden yn cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd lleol er mwyn creu penwisgoedd blodeuog.

Yn arwain yr orymdaith, roedd yr artist Ren Wolfe, yn ei gwisg crëyr mawr, darn o gelf creodd hi wedi iddi gael ei hysbrydoli gan y pâr bridio sydd wedi ymgartrefu yn y tiroedd yn Dinefwr. Bu’r artist hefyd yn cynnal gweithdai i greu’r pyped mawr ar flaen yr orymdaith, ynghyd â masgiau adar cafodd eu gwisgo.

Bu’r artist Paisley Randell Shillabeer hefyd yn cymryd rhan gan godi canu gwerinol ymysg y dorf ynghyd â chôr LHDT+ oedd wedi ymgynnull yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Rhwng y canu a’r gwisgoedd, roedd yr olygfa yn llachar a’r awyrgylch yn llawen wrth i’r dorf orymdeithio tuag at yr ardd ffurfiol.

Yma, cafwyd perfformiad cyntaf y flwyddyn o Mari Ha! gan grŵp ddawns Osian Meilir, crëwr y grŵp ‘Qwerin’. Darn o waith dawns gyfoes ar gyfer yr awyr agored ydy Mari Ha! sy’n cyfuno traddodiadau gwerinol Cymru â dawns a gwisgoedd cyfoes.

Dywedodd Osian Meilir am y profiad o berfformio yn Dinefwr:

‘Mae’n grêt cael bod yn rhywle mor hynafol a hanesyddol i rannu’r gwaith yma. Mae’n teimlo fel bod y ddawns sydd wedi ei selio ar y tymhorau a’r byd natur yn perthyn i’r tir.’

Bydd Mari Ha! yn cael ei berfformio eto dros yr haf mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru.

Roedd Gorymdaith y Gwanwyn yn gyfle i ddathlu nid yn unig harddwch naturiol y gwanwyn ond hefyd diwylliant Cymru, bioamrywiaeth, a phwysigrwydd cymuned.