
Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Mae'r Pasg yn amser gwych i grwydro Dinefwr. O lwybr Pasg llawn hwyl i ddigwyddiad llawen 'Gorymdaith y Gwanwyn' sy'n gorffen y gwyliau, mae digon o antur i'w fwynhau sy'n gaddo diwrnod gwych i bawb.
28 Mawrth - 12 Ebrill
Dewch i hopian, sgipio a neidio i mewn i’r Pasg wrth i Dŷ Newton drawsnewid i’r ‘Tŷ Adar’. Ar hyd a lled y tŷ, mae pob ystafell yn cynnig rhywbeth newydd, sy’n addas i’r teulu cyfan, i’w ddarganfod. Yn yr Ystafell Fwyta, gall plant roi cynnig ar wisgo het nyth adar a phrofi eu sgiliau dal “wyau”, tra bod yr Ystafell Groeso’n cynnal Te Parti Adar dymunol, gyda gwisgoedd chwareus. I lawr y grisiau, mae’r islawr yn lleoliad clyd ar gyfer Egret’s Breakfast, profiad adrodd stori braf, yn berffaith i ymwelwyr iau.
Bydd digon i anturiaethwyr bach ei fwynhau, o baratoi “Cawl Pryf Genwair” dychmygol yn yr ystafell ymolchi i swatio gyda llyfrau, posau a ffilmiau ar thema adar yn y Seler Gwrw. Mae'r Hen Gegin wedi cael ei thrawsnewid yn Fyd Adar, sy’n llawn rhyfeddodau bach, ac mae’r Ystafell Addysg yn croesawu dychweliad y Theatr Goetir boblogaidd.
Y tu allan ar yr Iard Dderw, sblasio, tywallt a chario dŵr yn yr ardal chwarae. Os oes angen man tawelach arnoch, mwynhewch chwarae synhwyraidd yn yr ardal Black Raven.

12 Ebril am 2yp
Ymunwch â ni mewn Gorymdaith y Gwanwyn, prynhawn rhad ac am ddim yn llawn hwyl, lliw, creadigrwydd a rhyfeddod byd natur.
Cymerwch ran yn yr orymdaith deuluol wrth i ni wisgo i fyny mewn gwisgoedd lliwgar a choronau blodau creadigol. Gallwch gael benthyg un o'n gwisgoedd neu fynd ati i greu un eich hun - yna camwch i mewn i'r orymdaith wrth i ni groesawu dyddiau hirach, tywydd cynhesach a throad y tymor gyda'n gilydd.
Ar ôl y dathliadau, ymlaciwch gyda Gwrandewch ar y Gwanwyn, sesiwn wrando hamddenol o 3pm–4:30pm. Cymerwch seibiant yn ein llecyn 'Gwrando' tawel, gwrandewch ar synau'r gwanwyn, a mwynhewch gân yr adar gydag ap adnabod adar, neu hebddo.

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.