Skip to content
Haid o hyddod brith yn sefyll ar laswellt yn y parc yn Ninefwr, Sir Gâr, gyda choed ar lethrau i’r ddwy ochr ac yn y cefndir.
Haid o geirw yn y parc yn Ninefwr, Sir Gâr | © National Trust Images/James Dobson
Wales

Llwybr bywyd gwyllt Parc Dinefwr

Mae’r gylchdaith hon, sy’n 3 milltir o hyd, yn ymweld â rhai o’r llefydd gorau ym mharc hanesyddol Dinefwr i wylio bywyd gwyllt. Mae’r lleoliad yn enwog am ei fywyd gwyllt toreithiog a’i olygfeydd godidog o’r dyffryn, yn ogystal â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif. Mae rhai o’r coed hynafol yn fwy na 700 oed, yn ôl y tebyg, ac yn cefnogi amrywiaeth mor eang o gennau a chreaduriaid di-asgwrn-cefn nes bod y parc wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol.

Nid yw’r llwybr ar gael yn y gaeaf

Mae’r Parc Ceirw ar gau rhwng Tachwedd a Mawrth felly ni allwch ddilyn y llwybr yn ystod y cyfnod hwn.

Cyfanswm y camau: 8

Cyfanswm y camau: 8

Man cychwyn

 Maes parcio ym Mharc Dinefwr, cyfeirnod grid: SN615224 

Cam 1

Trowch i’r dde wrth adael y maes parcio a cherdded tuag at y castell. Ewch dros y grid gwartheg ac i lawr y trac cerrig nes i chi gyrraedd y tŷ ceirw. Yna dilynwch yr arwyddion crëyr glas (Llwybr yr Afon). Ewch i lawr y rhiw a chyn bo hir byddwch yn pasio Mynachdy, hen fwthyn brics coch y ciper, i’r chwith ohonoch.

Cam 2

Y tu hwnt i’r tŷ ceirw (sydd nawr yn fwthyn gwyliau), trowch i’r dde drwy gât i mewn i Goed y Gors a dilyn llwybr pren i bwll y felin.

Cam 3

Ar ôl gadael y parc ceirw, croeswch wal pwll y felin gyda’r tŷ pwmpio i’r chwith ohonoch. Dilynwch y darn o dir sydd â rhes o goed arno i’r dde, tua’r gorlifdir.

Cam 4

Mae Afon Tywi wedi ffurfio llynnoedd pedol sy’n nodi ffin ddeheuol Dinefwr. Dilynwch y rhes o goed ar hyd y llwybr, gydag adfeilion Castell Dinefwr, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, yn codi’n uchel i’r chwith ohonoch.

Cam 5

Gyda’r afon i’r dde ohonoch, cerddwch drwy Ddyffryn Tywi.

Cam 6

Trowch i’r chwith yma i lwybr at eglwys Llandyfeisant.

Cam 7

Ewch yn eich blaenau nes i chi gyrraedd yr eglwys yn Llandyfeisant. A hithau’n nodwedd bwysig yn y tirlun, ailadeiladwyd yr eglwys yn helaeth yn y 19eg ganrif, ond mae ei gwreiddiau yn yr oesoedd canol.

Cam 8

Ar y llwybr yn ôl i’r maes parcio, byddwch yn pasio safle caer Rufeinig fawr dros y bryn i’r dde ohonoch. Mae arolygon archeolegol yn dangos ei bod wedi bodoli, ond does dim byd i’w weld ar yr wyneb. Y cyfan sydd yma i chi ei edmygu yw’r gwartheg Parc Gwyn â’u cyrn hir wrth i chi groesi’r parcdir a dychwelyd i’ch man cychwyn.

Man gorffen

Maes parcio ym Mharc Dinefwr, cyfeirnod grid: SN615224

Map llwybr

Map llwybr bywyd gwyllt Dinefwr
Map llwybr bywyd gwyllt Dinefwr | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa hydrefol o Dŷ Newton o'r parcdir yn Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Lle
Lle

Dinefwr 

Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn hollol agored heddiw
Ceirw ar laswelltir ym mharc ceirw Dinefwr, gyda’r haul yn disgleirio drwy ganghennau moel coed ar ben bryncyn i’r chwith
Llwybr
Llwybr

Llwybr ‘Capability’ Brown yn Ninefwr 

Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Traeth Morfa Bychan ar arfordir Sir Gâr
Llwybr
Llwybr

Llwybr Trwyn Ragwen 

Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)

Cysylltwch

Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o dŷ Newton
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

Defaid yn pori gyda Castell Dinefwr yn y cefndir, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Fruit scones on baking parchment on a baking tray
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Ninefwr 

Dewch i eistedd yng nghaffi dan do Tŷ Newton a mwynhewch amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer, cacennau a hufen iâ. Yn y maes parcio, mae’r caffi awyr agored “Rydych Chi Yma” yn lle cyfleus i gael diodydd a byrbrydau tecawê, cyn mynd am dro neu wylio Gwartheg Gwyn y Parc.

A view inside the ancient woodland at Dinefwr in late autumn, when the trees have lost their leaves. The woodland floor is covered with grass and foliage turned brown with the season.
Erthygl
Erthygl

Llwybrau'r coed hynafol 

Darganfyddwch 10 o'n hoff lefydd i weld coed hynafol, 'cadeirlannau byd natur'. (Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.