Skip to content

Ymweld â’r Gwŷr gyda'ch ci

Dynes gyda chi yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych allan i’r môr ar ddiwrnod cymylog
Cerdded y ci ar Glogwyni Pennard, Penrhyn Gŵyr, Cymru | © National Trust Images/John Millar

Dewch i ddarganfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU gyda'ch frind pedair-pawen! Mae yna nifer o draethau, llwybrau cerdded a choedwigoedd sy’n addas i gŵn ar hyd ein harfordir. Helpwch ni i ofalu am ein traethau trwy lanhau ar ôl eich ci a chael gwared ar eich sbwriel yn gyfrifol.

Ein System Pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lle â chyfradd un pawen yw’r Gwŷr.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae'r cyfleusterau'n gyfyngedig. Fe fyddan nhw'n gallu ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored cyfagos, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch fynd â'ch ci.

Ble gall fy nghi fynd yng Ngŵyr?

Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Mae'r traethau ar hyd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr yn addas i gŵn drwy gydol y flwyddyn. Gyda thair milltir o draethlin dywodlyd i ddewis ohono, dyma'r lle perffaith i'ch ffrind pedair coes redeg o gwmpas. Mae nifer o lwybrau cerdded cyfagos yn rhoi ffordd ddelfrydol i ymwelwyr weld yr holl dirluniau hardd ym Mae Rhosili, ond byddwch yn ymwybodol o fywyd gwyllt, yn arbennig morloi llwyd yn ymlacio ar y creigiau, neu'r da byw ar dir uwch, a chadw'ch ci ar dennyn byr lle bo angen. Trefnwch eich ymweliad â Rhosili
Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt 
Os yw archwilio ein treftadaeth ddiwydiannol yn fwy o'ch peth, beth am fynd i Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt. Mae dwy ogof, yn ogystal â nifer o nodweddion archaeolegol a choetir hynafol i chi a'ch ci eu harchwilio. Mae da byw yn pori'n rhydd ar draws Twyni Pennard, felly byddwch yn ofalgar pan yn agos, gan sicrhau bod pob ci yn cael ei gadw ar dennyn byr. Trefnwch eich ymweliad â Phennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt 
Tri pherson yn chwarae ar y traeth gyda chi yn Pennard, Penrhyn Gŵyr, Cymru.
Mynd â chŵn am dro yng Ngŵyr | © National Trust Images/John Millar

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Dewch o hyd i'r lle nesaf i gerdded eich ci yng Nghymru

Mae digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru. O fynyddoedd a thraethau i erddi a pharciau, darganfyddwch lefydd i gerdded a chrwydro.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Enfys dros Rhosili
Lle
Lle

Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Beautiful and breathtaking views on the Gower peninsula | Golygfeydd syfrdanol ar benrhyn Gŵyr

Rhosili, Swansea

Yn hollol agored heddiw
Golygfa dros glogfeini Pennard yng Ngŵyr, Cymru
Lle
Lle

Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt 

Rich in industrial heritage, caves, ancient woodland and rare species

Swansea

Yn hollol agored heddiw
Y machlud dros Fae Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru
Erthygl
Erthygl

Gŵyr 

Ar y Gŵyr mae tirwedd brydferth ac amrywiol i’w ddarganfod, o draethau i gefn gwlad a’i harddwch naturiol eithriadol. Dysgwch am bethau i’w gweld a’u gwneud a ble i aros ar y penrhyn.

Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.
Erthygl
Erthygl

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.