Skip to content
Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro
Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Mark Saunders

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Ngogledd Cymru

Dilynwch lwybrau drwy barcdir, crwydrwch diroedd castell neu dihangwch i wylltir Eryri.

Ymwelydd a chi yn cerdded ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru
Erthygl
Erthygl

Eryri 

Dilynwch drywydd chwedl ar daith gerdded hawdd i fedd Gelert, neu dihangwch rhag y torfeydd ar lwybrau cefn gwlad tawel yn Nolmelynllyn ac Ysbyty Ifan. Helpwch i gadw anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt yn ddiogel drwy gadw eich ci ar dennyn bob amser.

Dachshund yn gwisgo côt sgwariau porffor, ar dennyn, gyda dail yr hydref ar y glaswellt o’i gwmpas, yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Gardd Bodnant 

Gydag 80 erw o erddi i’w harchwilio, mae taith gerdded i bawb yng Ngardd Bodnant. Mae croeso i gŵn ar dennyn tynn o ddydd Iau i ddydd Sul rhwng 1 Ebrill a 30 Medi, a phob dydd rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lle
Lle

Plas yn Rhiw 

Darganfyddwch lwybrau drwy’r coetir is gyda’ch ci ym Mhlas yn Rhiw, neu ymlaciwch yng nghlos yr ystafell de gyda danteithion blasus. Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r brif ardd, y coetir uwch a’r tŷ.

Pwllheli, Gwynedd

Ar gau nawr
Ci gyda blew cyrliog yn eistedd ar bentwr o bren wrth ymyl trên lliwgar ac arwydd ‘50 peth’ yn Erddig, Clwyd
Lle
Lle

Neuadd a Gardd Erddig 

Y parcdir yn Erddig yw’r lle perffaith i gŵn. Mae digon o le iddyn nhw snwffian, neidio a sblasio, ac mae ‘na ardal arbennig lle cânt fod oddi ar y tennyn. Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r brif ardd a’r tŷ.

Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire
Lle
Lle

Castell y Waun 

Dewch â’ch ci i ddarganfod 480 erw o ystâd a pharcdir yng Nghastell y Waun, lle gall snwffian ei ffordd ar hyd tri llwybr ag arwyddion. Mae hon yn ystâd weithiol, felly cofiwch ei gadw ar dennyn. Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r brif ardd a’r castell.

Y Waun, Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon
Lle
Lle

Tŷ a Gardd Plas Newydd 

Mwynhewch daith gerdded braf ar lannau Afon Menai drwy’r Ardd Rhododendron, Glyn y Camelias, yr Ardd Goed a Choed yr Eglwys. I helpu i gadw bywyd gwyllt yn ddiogel (yn enwedig ein gwiwerod coch), cadwch eich cŵn ar dennyn. Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r ardd derasau a’r tŷ.

Llanfairpwll, Sir Fôn

Ar gau nawr
An image of a pale cream fluffy dog between its two owners being walked along a path in the countryside and surrounded by greenery
Lle
Lle

Castell Penrhyn a'r Ardd 

Penrhyn yw’r lle i chi a’ch ci, gyda llwybrau di-ri i’w synhwyro a pherthi i’w chwilio. Cofiwch ei gadw ar dennyn byr a chadw ei drwyn allan o ganol y blodau cain yn yr ardd furiog, ond peidiwch â ffrwyno’ch dychymyg.

Bangor, Gwynedd

Ar gau nawr

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghanolbarth Cymru

Ymlaciwch gyda golygfeydd o gastell canoloesol a chefn gwlad Cymru ar ei orau.

Dog walking on the Holnicote Estate, Somerset
Lle
Lle

Llanerchaeron 

Mae croeso i gŵn yn y parcdir ac ar lwybrau’r coetir, ond gan fod Llanerchaeron yn fferm weithiol ag anifeiliaid, dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd drwy brif gatiau’r ystâd, sy’n cynnwys y tŷ, yr ardd, llynnoedd a fferm.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Close-up of a visitor holding their dog on a lead at the Vyne, Hampshire
Lle
Lle

Castell a Gardd Powis 

Gall cŵn ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis o fis 1 Tachwedd i fis 28 Chwefror, ond mae croeso iddyn nhw yn y prif fuarth drwy gydol y flwyddyn, lle gallwch chi a’ch cyfaill bach fwynhau danteithion o Gaffi’r Buarth.

Welshpool, Powys

Yn rhannol agored heddiw

Gerddi a pharciau sy’n croesawu cŵn yn Ne Cymru

Darganfyddwch lwybrau cerdded di-ri, o erddi ffurfiol i goetiroedd, a chofiwch alw mewn caffi sy’n croesawu cŵn ar ôl eich antur.

Dwy bobl yn cerdded gyda'i chŵn ar ystâd Dinefwr, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Lle
Lle

Dinefwr 

Mae Dinefwr yn lle gwych i’ch cyfaill bach blewog, gyda chaffi sy’n croesawu cŵn a chroeso cynnes iddynt ar lawr gwaelod y tŷ. Mae dau lwybr wedi’u marcio ar yr ystâd, ond dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd ar y Llwybr Pren ac yn y parc ceirw.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Dog walking in the garden at Dunster Castle, Somerset
Lle
Lle

Tŷ Tredegar 

Mae Tŷ Tredegar yn caru cŵn. Gallwch grwydro o amgylch y parcdir a’r gerddi ffurfiol wrth eich pwysau a gorffen gyda danteithion arbennig i gŵn yn yr ystafell de. Peidiwch ag anghofio cymryd un o’r taflenni cerdded cŵn.

Newport

Yn hollol agored heddiw
Dog sitting in the grass next to its owner, on Marsden Moor, West Yorkshire
Lle
Lle

Dolaucothi 

Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.paths to explore across the wider estate.

Llanwrda, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Visitors walking their dogs in the bluebell woodland at Hatchlands Park, Surrey
Lle
Lle

Gerddi Dyffryn 

Mae croeso i gŵn yn y gerddi ar dennyn byr. Mae mwy na 55 erw i’w darganfod, gydag ystafelloedd gardd bach, lawntiau ffurfiol a gardd goed gampus.

Sain Nicholas, Bro Morgannwg

Yn rhannol agored heddiw

Traethau sy’n croesawu cŵn yng Nghymru

O lwybrau arfordirol trawiadol Pen Llŷn i dywod euraidd Penrhyn Gŵyr, mae cyfleoedd di-ri i sblasio a chrwydro gyda’ch cŵn.

A dog running on the beach at Pennard, Gower in Wales
Erthygl
Erthygl

Gŵyr 

Mae llawer o draethau sy’n croesawu cŵn a digonedd o lwybrau arfordirol ym Mhenrhyn Gŵyr, gan gynnwys Rhosili, Bae’r Tri Chlogwyn, Bae'r Tor, Whitford a Phwll Du. Helpwch ni i gadw’r arfordir yn ddiogel drwy gadw eich ci o dan reolaeth a chodi ei faw.

Dyn yn cerdded gyda'i chi ar y llwybr yn Stad Southwood, gyda'r môr yn y pellter yn Sir Benfro, Cymru
Erthygl
Erthygl

Sir Benfro 

Dihangwch i ymyl orllewinol Cymru gyda’ch cyfeillion bach. Mwynhewch lwybrau arfordirol yn Stagbwll, Penrhyn Dewi, Abereiddi i Abermawr, Arfordir Solfach a Stad Southwood. Helpwch ni i gadw’r arfordir yn ddiogel drwy gadw eich ci o dan reolaeth a chodi ei faw.

Ci ar draeth Llanbedrog, gyda dwy bobl yn cerdded yn y cefndir, benrhyn Llŷn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pen Llŷn 

Mwynhewch sblasio yn y môr yn Llanbedrog, rholio ar dywod chwibanog Porthor neu gerdded y pentir ym Mhorthdinllaen. Mae Pen Llŷn yn lle gwych i’ch cyfaill bach blewog, ond mae rhai cyfyngiadau yn ystod yr haf.

Llwybrau Cerdded Cŵn yng Nghymru

Bydd y llwybrau cerdded cŵn hyn, a ddewiswyd yn arbennig, yn cynnig llwybrau golygfaol amrywiol y byddwch yn sicr o’u mwynhau.

Visitors in the gardens at Christmas, Tredegar House, Newport, Wales
Llwybr
Llwybr

Llwybr glan llyn Tredegar 

Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Llwybr cerdded wrth ochr afon ym Meddgelert, Eryri, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith bedd Gelert 

Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cwpwl (dau ddyn) yn cerdded law yn llaw ar hyd llwybr pridd trwy goetir gwyrdd llachar y gwanwyn, wedi eu hamgylchynu gan goed yng Nghastell y Waun, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith coetir Castell y Waun 

Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)
Traeth Morfa Bychan ar arfordir Sir Gâr
Llwybr
Llwybr

Llwybr Trwyn Ragwen 

Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)

Pobman yng Nghymru sy'n croesawu cŵn

    Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

    Dewch i ddarganfod Cymru

    Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.